9.12.13

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog - Chwarel Dwr Oer

Darn allan o rifyn Tachwedd 2013, am ddarlith agoriadol rhaglen y gaeaf Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog.



Wrth agor y cyfarfod, croesawodd y Llywydd, Robin Davies, rhyw hanner dwsin o wrandawyr newydd i’n plith. Mae’n amlwg eu bod yn awyddus i glywed John Evans yn rhoi ei ddarlith gyntaf i’r Gymdeithas. 

Testun John oedd Chwarel Dŵr Oer o’r Cyfnod 1950 Ymlaen.  

Dechreuodd drwy sôn sut yr oedd ei dad, Meurig a’i ddewythr Ted, wrth weithio yn Chwarel y Llechwedd, wedi clywed gan weithwyr a arferant weithio yn Chwarel Graig Ddu ( a gaewyd yn 1942) fod llawer o gerrig da  wedi eu lluchio dros y domen am fod digon o gerrig gwell i’w cael yr adeg honno. Gwelsant fod posibilrwydd o wneud bywoliaeth iawn o ail-weithio cerrig tomen Chwarel Dŵr Oer, ychydig is i lawr na Chwarel Graig Ddu.

Lefel Dwr Oer -llun Eric Jones, Comin Wikimedia

Clywsom iddynt gael bwrdd llifio, injan naddu a lori i ddechrau ar y gwaith ac yn y dyddiau cynnar yr oeddynt yn canolbwyntio ar lechi i wneud damp courses. Wedyn, i hwyluso'r gwaith, prynasant Nafi, sef shovel excavator ac yr oedd hwn yn gaffaeliad mawr iddynt i’w galluogi i dyllu i mewn i’r domen yn ddyfnach ac ynghynt. Yr oedd yr offerynnau i gyd ganddynt yn hen ac yn ail-law ond am fod y ddau wedi cael profiad amser rhyfel yn y fyddin efo gwahanol beiriannau fe lwyddasant i gael popeth i weithio. 

Daeth gwaith Dŵr Oer i ben tua 1985 ac y mae’r hen Nafi yn awr yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Defnyddiodd John sleidiau i bwysleisio rhannau o’r ddarlith ac yr oedd hyn yn gymorth mawr i ni ddilyn y ddarlith. Ar y diwedd a hefyd yn ystod y sgwrs yr oedd nifer o sylwadau a chwestiynau ac yr oedd yn amlwg fod pawb wedi mwynhau'r noson oedd mor wahanol i’r darlithoedd arferol yr ydym yn ei gael. 


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon