Ym mis Tachwedd, ymwelodd trelar ‘Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith â’r fro, gan basio drwy storm fawr ar Fwlch y Gorddinan ar ei ffordd yma. Roedd y trelar yn teithio drwy Gymru i gynhadledd Deddf Eiddo’r Gymdeithas yng Nghaerdydd gan ymweld â chymunedau gwahanol ar hyd y ffordd.
Galwyd yng nghaffi Antur Stiniog, lle clywed am ddatblygiad tai dan arweiniad y gymuned gyda Ceri a Gwenlli o Gwmni Bro. Aed wedyn i’r Pengwern, lle cafwyd cyflwyniad difyr gan Sel Williams am y fenter gymunedol hynod lwyddiannus hon, ac am swyddogaeth anhepgor mentrau cymunedol yn y frwydr i gadw’n cymunedau, a’r Gymraeg, rhag edwino ymhellach. Eglurwyd fod mentrau cymunedol yn gweithredu fel rhyw fath o ffordd ganol rhwng cyfalafiaeth reibus ar un llaw, ac ideoleg fwy sosialaidd o ganoli pethau yn nwylo’r wladwriaeth ar y llall. Mae hefyd yn fwy triw i’r traddodiad a’r ysbryd Cymreig o gydweithio cymunedol, ac yn ateb unigryw Cymreig felly i lawer o broblemau cymdeithas.
Cynhaliwyd y gynhadledd i wyntyllu syniadau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r problemau tai niferus sy’n tanseilio hyfywedd cymunedau Cymru. Ymysg y problemau hyn mae ail dai lluosog, tai gwag, diffyg tai cymdeithasol, prinder tai fforddiadwy, tai yn cael eu prynu gan ddieithriad a’u troi yn llety gwyliau er mwyn hel arian, a datblygiadau anferthol a di-angen o dai newydd wedi eu gyrru gan y gred gyfeiliornus fod yn rhaid codi mwy a mwy o dai, waeth beth fo’r angen lleol, i hybu’r economi. Ac ar yr un pryd (ac efallai oherwydd hyn i gyd) mae digartrefedd ar gynnydd.
Un o’r siaradwyr yn y gynhadledd dai oedd ein Haelod o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor. Meddai yntau am y sefyllfa dai:
“Os oedd yn argyfwng ddwy flynedd yn ôl, mae’n gatastroffi erbyn hyn.”
Soniodd hefyd am ymweliad o’i eiddo â Fiena, ble buwyd yn datblygu tai cymdeithasol ers 1923. Mae llawer o’r tai cymdeithasol hyn yn gymunedau bychain yn eu hawl eu hunain, gyda thramiau yn pasio’n gyson, ac yn cynnwys mannau gofal iechyd a llefydd gofal plant. Mae Mabon o’r farn y dylai Cymru fod yn gweithredu o fewn fframwaith tai digonol y Cenhedloedd Unedig, a bod angen pasio deddf sy’n ei gwneud hi’n rheidrwydd darparu tai addas. Soniodd siaradwr arall am y sefyllfa yn Nenmarc, lle mae tai wedi eu codi yn benodol ar gyfer pobl ifanc.
Meddai Mabon eto:
“Dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio yn ein cymunedau ni a dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio dros Gymru. Dyna pam bod angen ymyrraeth.”Mae Mabon yn un o’r rhai sy’n galw am Ddeddf Eiddo fel y bu Cymdeithas yr Iaith yn galw amdani ers degawdau, ac am ddileu deddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref a luniwyd gan San Steffan, sy’n trin tai mewn cyd-destun economaidd yn hytrach nag fel angen cymdeithasol i ddarparu cartref.
Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i rai o argymhellion y gynhadledd!
Gwych yw cyhoeddi y bydd Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth yn dod yma i Stiniog ar Fai y 4ydd ar Ŵyl Ryngwladol y Gweithwyr:
“Dyma'r cyfle ola am flynyddoedd i sicrhau deddfwriaeth! Dyma hefyd flwyddyn cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Pwyswch am gynnwys cynigion Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai a rhoi grym i'n cymunedau.”
- - - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024
Erthyglau am sefyllfa dai Bro Ffestiniog
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon