17.9.14

Pryderon iechyd yn dwyshau!

Ar dudalen flaen, a thu mewn i rifyn Medi Llafar Bro, cafwyd y newyddion diweddaraf gan Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Bro Ffestiniog, gan gynnwys torri'r newyddion syfrdanol y gall y fro fod yn ddi-feddyg ymhen 6 mis. Cafwyd adroddiad am y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf lle bu trafod brwd ar y pwnc, ac fe gafwyd nifer o lythyrau hefyd.


Roedd pob un o'r rhain yn holi lle oedd cynrychiolwyr trigolion y fro: yn gynghorwyr tref, cynghorwyr sir, a'r aelodau cynulliad a seneddol.

Roedd galw yn arbennig ar y Cyngor Tref i ateb cwestiynau penodol. Erbyn heddiw, mae newyddion Radio Cymru, a Golwg 360 wedi rhoi sylw i ddatganiad gan Gyngor Tref Ffestiniog.

Dyma flas o'r erthyglau yn rhifyn Medi. Prynwch Llafar Bro i ddarllen y stori'n llawn. Hefyd mae datganiad y Cyngor Tref yn ymddangos ar y gwaelod. Ar ddiwrnod lle mae'r British Medical Association wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mi gewch chi benderfynu be ddaw o hyn oll...

O'R PWYLLGOR AMDDIFFYN
gan GVJ
Bydd yr Athro Marcus Longley, sef y gŵr a gomisiynwyd gan Mark Drakeford i wneud arolwg o gyflwr gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru, yn cyflwyno’i adroddiad i’r Gweinidog Iechyd ddiwedd Medi, a’n gobaith ydi y bydd y Llywodraeth Lafur yn parchu’n deiseb ddiweddaraf ni ac yn aros tan ar ôl hynny cyn rhoi ystyriaeth i’r ‘Cynllun Busnes’ a gyflwynwyd gan y Bwrdd Prosiect [sef Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig a sefydlwyd gan Betsi i ystyried beth i'w wneud efo'r adeilad ar ol cau'r Ysbyty yma yn Stiniog]. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod pethau’n cael eu gwthio ymlaen yn frysiog, doed â ddêl. Mae Adran Gynllunio’r Cyngor Sir eisoes wedi derbyn cais i gael dymchwel yr Adran Pelydr-X, drws nesaf i’r Ganolfan Iechyd ar Heol Wynne, er mwyn gneud lle i faes parcio ychwanegol, ac mae’r Cyngor Tref wedi cymeradwyo’r bwriad, heb geisio barn y trethdalwyr sy’n byw yn y rhan honno o’r dref.

Pryder mwy difrifol fyth!
Daeth inni’r newyddion cythryblus (ond anochel o dan yr amgylchiadau, mae’n debyg) am fwriad un o’n meddygon i ymddeol a’r llall i ymddiswyddo o fewn y chwe mis nesaf. Does dim rhaid gofyn pam, wrth gwrs! Ond be, meddech chi, fydd yn digwydd wedyn? Roedd y Pwyllgor Amddiffyn yn gofyn yr union gwestiwn yma saith mis yn ôl, yn rhifyn Chwefror o ‘Llafar Bro’ – ‘Beth pe bai un ohonynt– neu’r ddau hyd yn oed! (h.y. y meddygon)  – yn penderfynu codi pac ac ymuno â phractis arall er mwyn cael ysgafnach byd? ... Be wedyn i ni yma? Ydi aelodau’r Bwrdd Prosiect wedi ystyried y posibilrwydd hwnnw, os gwn i? Y posibilrwydd o gael ysbyty nid yn unig heb wlâu ond heb feddygon yn ogystal?

Erbyn hyn, mae’r Bwrdd Prosiect wedi cwblhau ei waith a’r aelodau i gyd (ac eithrio dau neu dri) yn fodlon eu byd, mae’n debyg, o fod wedi arbed £¾m yn flynyddol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.


IECHYD I'R ENAID O LEIA'
gan VPW
Iechyd i'r enaid, a defnyddio ymadrodd perthnasol, oedd gweld ymateb trigolion yr ardal hon i'r alwad iddynt fod yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Sefydliad y Merched, bnawn Iau, 31ain o Orffennaf. Ymhell cyn amser cychwyn y cyfarfod, roedd y neuadd yn orlawn, gyda nifer yn gorfod sefyll gydol yr awr a hanner o draddodi. Ac nid brodorion y Blaenau'n unig, 'chwaith; daeth nifer dda o ddalgylch y dre' - Dolwyddelan, Trawsfynydd, Gellilydan, Maentwrog, Gellilydan a mannau eraill i ddangos eu cefnogaeth, diolch iddynt.

Cyfarfod wedi ei drefnu gan Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa oedd hwn, gyda'r Athro Marcus Longley wedi ei wahodd atom i glywed am brofiadau pobl yr ardal ynglŷn â'r Ysbyty, a'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol yma.  Ymhell cyn hyn, roedd yr Athro wedi derbyn dogfen drwchus eisoes o fanylion am yr angen i gadw'r ysbyty, ac am bryderon y trigolion lleol. Yn naturiol, roedd aelodau'r Pwyllgor Amddiffyn yn awyddus i'w gael i ddod i'r Blaenau, ac wedi peth gohebu, penderfynwyd ar ddyddiad fyddai'n gyfleus i'r ddwy ochr. Yn y cyfarfod, cafwyd areithiau grymus gan Geraint Vaughan Jones, cadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn, Dr. Walter Evans, y Cynghorydd Linda Jones a Gwyn Roberts, clerc Cyngor Plwyf Dolwyddelan. Amlinellodd Geraint hanes yr ymgyrch i geisio diogelu'r ysbyty a'r gwasanaeth iechyd, ac i geisio perswadio'r awdurdodau iechyd o'r angen i gael y gw'lau, yr uned Pelydr X a'r uned mân anafiadau'n ôl.

Cafwyd hanes y trafferthion ynglŷn â gweddill y practis meddygol gan Dr Evans, a fu tan yn ddiweddar yn cynnwys pedwar meddyg. Rhoddodd Gwyn Roberts ddarlun o'r sefyllfa yn Nolwyddelan y dyddiau hyn, wrth i'r ddau feddyg geisio gwasanaethu’r plwy gwasgaredig hwnnw, yn ychwanegol i'w gwaith yn ardal 'Stiniog a gweddill y dalgylch. Yr oedd Linda, fel cynghorydd sir, yn ddi-flewyn-ar-dafod am y sefyllfa druenus y mae cleifion y fro hon ynddi, gan gyfeirio at y modd yr ydym wedi ein camarwain gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Derbyniodd pob un o'r siaradwyr gymeradwyaeth haeddiannol y gynulleidfa.

Mewn ymateb i gais y llywydd am sylwadau 'o'r llawr', cafwyd nifer yn datgan eu cwynion am wendidau amlwg yn y ddarpariaeth ar gyfer cleifion yr ardal, gyda'r Athro Longley yn rhoi gwrandawiad astud i bob un ohonynt. Yn amlwg, yr oedd yr Athro Longley wedi profi drosto'i hun y teimladau cryfion sy'n bodoli yn y cylch tuag at y mater llosg hwn. 'Does ond gobeithio y bydd yn cario'r neges yn glir i'r Gweinidog Iechyd yn y Cynulliad, Mark Drakeford, ac y bydd hwnnw, yn ei dro, yn sylweddoli'r cam mawr y mae cleifion 'Stiniog 'ar fro yn ei gael gan awdurdodau'r gwasanaeth iechyd. Beth bynnag yw'r gwahaniaeth barn rhwng y gwahanol garfannau ynglŷn â'r pwnc llosg hwn, mae'n ddyletswydd ar BAWB i ddangos yn gyhoeddus ym mha le y maent yn sefyll, fel y caiff yr etholwyr i gyd benderfynu drostynt eu hunain i bwy i ymddiried ynddynt ar ddiwrnod etholiad.









 [Darn am y ddeiseb yn fan hyn]









Darn o lythyr gan DT:
Mae llawer o betruso ymysg trigolion yr ardal pam nad oedd ein cynghorwyr lleol yn bresennol yn y cyfarfod cyhoeddus ar ddydd Iau, 31/7/2014.  Fel y gwyddoch, pwrpas y cyfarfod oedd rhoddi cyfle i drigolion yr ardal ddatgan eu barn a’u pryderon am yr holl wasanaethau iechyd a gollwyd yn ein hardal a cheisio gwrthdroi cynlluniau Betsi Cadwaladr ac adenill gwelyau yn yr Ysbyty Goffa, ac ail sefydlu gwasanaethau eraill a gollwyd.
Erbyn hyn, deallir fod y Cyngor Tref wedi cyfarfod â’r Athro Marcus Longley awr o flaen y cyfarfod cyhoeddus...
Pam na fuasai ein cynghorwyr wedi dod i’r cyfarfod cyhoeddus er dangos cefnogaeth i drigolion yr ardal, a hefyd rhoddi eu sylwadau i Marcus Longley yn gyhoeddus fel bod pobol yr ardal yn cael clywed beth yn union yw safiad y Cyngor Tref ar ddyfodol yr ysbyty?
Hoffwn wneud cais i gadeirydd y Cyngor Tref sicrhau fod adroddiad llawn o’r cyfarfod yn cael ei gyhoeddi yn y papur bro.


Datganiad i'r wasg gan GYNGOR TREF FFESTINIOG 16 Medi 2014
Yn dilyn adroddiadau yn y wasg bod y ddau feddyg teulu lleol sy'n gweithio yn y dref wedi cynnig eu hymddiswyddiad a’u bod yn cynllunio gadael eu swyddi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, mae Cyngor Tref Ffestiniog wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ofyn am gyfarfod brys i drafod yr argyfwng mewn darpariaeth gofal iechyd yn yr ardal.

Yn y llythyr dywed y Cyngor: "Fe fyddai colli’r ddau feddyg teulu sydd ar ôl yn drychinebus ac mae angen i ni drafod hyn gyda'r brys mwyaf. Yr ydym ni, y Cyngor Tref, yn gofyn am gyfarfod cyn gynted â phosibl. Rydym yn barod i gyfarfod mewn man ac amser o'ch dewis. Yn ogystal, byddem yn hoffi i ddatgan ein bod ni’n cefnogi cynnwys gwlâu yn y ganolfan iechyd integredig arfaethedig. "

Rory Francis, Cadeirydd y Cyngor Tref yn ychwanegu: "Dim ond blwyddyn yn ôl gollodd y dref yr Ysbyty Coffa, gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr a hanfodol bwysig. Ond byddai colli ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn fwy o fygythiad byth. Felly, rydym yn galw ar y Bwrdd Iechyd i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod meddygon teulu newydd yn cael eu penodi ac i roi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch y ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn yr ardal. "






No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon