Dathlwyd canrif bodolaeth Ysgol y Moelwyn ym 1995, ac fel rhan o’r dathlu, gwahoddwyd criw o gyn-ddisgyblion i sefydlu Cymdeithas Cyn-ddisgyblion a Chyfeillion Ysgol y Moelwyn.
Trefnwyd Aduniad yn Eisteddfod 1997 gan Rhiain a Iola Williams. Trosglwyddwyd yr awenau i griw o’r Blaenau oedd yn byw yng nghyffiniau Llandegfan sef Beti Jones, Jennifer Thomas, Nia Wyn Williams, Sylvia Wynne Williams a Sian Arwel Davies ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanbedrgoch, Ynys Môn ym 1999. Cafwyd Aduniad bob tro oedd yr eisteddfod yn y gogledd, hyd 2019.
Aelodau Trenfu’r Aduniad yn eu cyfarfod olaf yn nhŷ Sian. O’r chwith i’r dde, Beti Jones, Jennifer Thomas, Sian Arwel Davies, Nia Wyn Williams a Sylvia Wynne Williams. |
Yn 2009, sefydlwyd Gwobr Cyfeillion y Moelwyn er mwyn rhoi ffocws i’r cyfarfodydd. Amcan y gwobrwyo oedd canfod disgybl neu ddisgyblion a ddyfernid yn gymwys i’w derbyn dan reolau a osodir gan y swyddogion ar ran y Gymdeithas. Sail y wobr fyddai cyfraniad i’r gymuned leol sydd yn amlygu dinasyddiaeth gyfrifol. Penodwyd Sian Arwel Davies yn Gadeirydd, y diweddar Robin Davies yn Drysorydd, Elwyn Davies yn Gyfreithiwr Mygedol, a Gareth Jones, Geraint Vaughan Jones, Meinir Humphries a’r diweddar Eifion Williams, yn aelodau pwyllgor ac ar ôl ymddeoliad Meinir Humphries cawsom gymorth parod gan Bini Jones a Ceinwen Lloyd Humphries i ddidoli’r ceisiadau.
Fe ddylid fod wedi trosglwyddo’r wobr olaf gan Gymdeithas Cyfeillion y Moelwyn fis Tachwedd 2020 ond oherwydd cyfyngiadau Cofid 19 bu raid gohirio ac oherwydd hyn, mae cyfnod Gwobr y Cyfeillion Ysgol y Moelwyn wedi dod i ben.
Roedd criw o chwech yn cyfarfod yn flynyddol i bennu’r gwobrau a chawsom groeso cynnes yn yr ysgol i wneud y gwaith bob tro. Byddem yn treulio diwrnod cyfan yn pwyso a mesur bob cais.
Cyflwynwyd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Wrecsam a’r Cylch 2011 pan oedd y gronfa wedi cyrraedd £5000. Roedd hyn yn sicrhau gwobr am ddeng mlynedd.
Yr enillwyr cyntaf oedd Haydn Jenkins a Gwenlli Jones. Hefyd, yn ystod y cyfnod enillwyd y wobr gan Elan Cain Davies, Dafydd Llŷr Ellis, Heledd Tudur Ellis, Kerry Ellis, Hanna Seirian Evans, Megan Lloyd Grey, Tomos Heddwyn Griffiths, Elain Rhys Iorwerth, Awel Haf Jones, Caryl Jones, Caitlin Roberts, Elin Roberts, Glain Eden Williams, Goronwy Williams, Gwion Rhys Williams, Meilir Williams a Swyn Prysor Williams (enwau yn nhrefn y wyddor).
Derbyniwyd tua cant a hanner o ymgeiswyr yn ystod y cyfnod a rhannwyd dros £5000 o arian drwy haelioni rhoddion y cyfeillion yng nghyfarfodydd y Gymdeithas yn yr eisteddfodau.
Cawsom y fraint o groesawu Elin Roberts yn Eisteddfod Conwy 2019, a rhoddodd dipyn o’i hanes ers iddi adael yr ysgol. Roedd yn hyfryd gwrando arni. Roeddym wedi gobeithio gallu gwahodd rhagor o’r cyn-enillwyr ond nid oedd amgylchiadau yn caniatau. Tybed fyddai un neu ddau ohonynt yn cysidro ysgrifennu pwt i Llafar Bro i roi dipyn o’u hanes erbyn hyn?
Yn ôl y Cyfansoddiad, “Os daw y gronfa i ben bydd y swyddogion yn sicrhau bod unrhyw arian yn weddill i’w drosglwyddo, er budd i’r ysgol, mewn ymgynghoriad â’r Gymdeithas a phennaeth yr Ysgol.”
Trafodwyd hyn yn Eisteddfod Llanrwst Dyffryn Conwy 2019 a phenderfynwyd ar ddyfodol y wobr. Datganodd Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn fod yr ysgol yn awyddus i barhau gyda’r wobr ac roedd yr aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn hynod falch o glywed hyn. I’r perwyl yma, cyfarfu pwyllgor trefnu’r Aduniad bnawn Sul, Gorffennaf 4ydd er mwyn dirwyn y cyfan i ben. Mae’r cyfri erbyn hyn wedi’i gau a’r ddau bwyllgor wedi’u diddymu.
Trosglwyddwyd £1147.70 i gyfri’r ysgol fydd yn sail i ariannu’r wobr. Rwy'n siwr bydd modd cyfrannu at y gronfa yn y dyfodol.
Diolch i bawb sydd wedi bod yn hynod ffyddlon i bob aduniad yn yr eisteddfod ac am eu haelioni i’r gronfa a chofiwn yn annwyl am y rhai a gollwyd o’n plith. Hoffwn ddiweddu gyda nodyn personol o werthfawrogiad am y cyd-weithio hapus a chyson a’r gefnogaeth o du’r ysgol ac aelodau y ddau bwyllgor a holl aelodau Gymdeithas Cyn-ddisgyblion a Chyfeillion Ysgol y Moelwyn. Fy ngobaith yw bydd rhywun yn barod i drefnu aduniad eto mewn ambell i steddfod yn y dyfodol.
Sian Arwel Davies
- - - - - - -
Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon