9.11.21

Gwreiddiau

Erthygl gan Gareth Jones

Cyfeiriaf at 'Henebion o Bwys' a 'Crwydro', dwy erthygl* yn rhifyn Gorffennaf/Awst oedd yn hynod o ddiddorol imi am nifer o resymau.

Mae ardaloedd llechi y gogledd wedi gweld twf aruthrol fel maes i astudiaethau archaeoleg diwydiannol dros y degawdau diwethaf. Fel Dirprwy Bennaeth Canolfan Astudiaethau Plas Tan y Bwlch ym 1975 un o'm cyfrifoldebau oedd trefnu ymweliadau gwaith maes i chwareli ardal Blaenau megis Cwmorthin; Y Rhosydd; a'r Diffwys. Prin oedd y llyfryddiaeth a'r wybodaeth am ddatblygiad y chwareli adeg hynny o'i gymharu â heddiw ond fe oedd campweithiau ar gael yn amrywio o lyfrau gwerthfawr hanes y plwyf gan G J Williams a Ffestinfab, i erthyglau J Gordon Jones (Tanygrisiau) yn y Trafodaethau a Cyril Parry (Rhiwbryfdir) ar dwf undebaeth chwarelwyr y diwydiant llechi. 

Cwt weindio inclên rhif 3, uwch ben chwarel Maenofferen, ar ben gorllewinol tramffordd Rhiwbach

Tua 1975 hefyd cyhoeddwyd gwaith Lewis a Denton ar Chwarel y Rhosydd ac i mi mewn llawer ystyr roedd y llyfryn yma yn gyfraniad chwyldroadol a arweiniodd at y diddordeb anhygoel yn yr ardal sy'n parhau hyd heddiw. Peidied anghofio chwaith pwysigrwydd 'Y Caban' cylchgrawn yr Oclis a Lord a'r cyfoeth hanesyddol a chymdeithasol sydd yn eu tudalennau. 

Mae'n dyled yn fawr i'r unigolion lleol hynny a sgrifennodd ac a gyhoeddodd erthyglau a llyfrau am chwareli a chymunedau ein bro dros y blynyddoedd. Diolch amdanynt a diolch am y rhai sy'n dal ati ac yn cyfrannu'n gyson i Llafar Bro a Rhamant Bro. Heb enwi neb - mawr yw ein dyled iddynt.

Fy olynydd fel dirprwy ym Mhlas Tan y Bwlch oedd y diweddar Merfyn Williams aeth ymlaen i ddatblygu rhaglen a darpariaeth astudiaethau maes y ganolfan yn hynod effeithiol a llwyddiannus. Colled drom i'n bro ac i faes astudiaethau hanes lleol oedd ei farwolaeth yn llawer rhy gyn amserol.

Dim rhyfedd felly bod Cadw yn deall, a phellach, yn cydnabod statws treftadaeth byd eang yr hyn sydd gennym ym mro chwarelyddiaeth Ffestiniog ac ardaloedd eraill y gogledd orllewin! Mae pobl Stiniog yn ymwybodol o hynny ers blynyddoedd maith. Ymddiheuraf imi grwydro chydig o'm testun ond dof yn ôl at yr erthyglau. 

Ddechrau Mehefin eleni cerddais heibio Fuches Wen i fyny hen lwybr y Diffwys at Llynnoedd Dubach ac oddi yno tros domennydd rhan uchaf y chwarel i gyfeiriad rheilffordd Rhiwbach. Es heibio yr hen Dŷ'r Mynydd, tros y gamfa wal y mynydd sy'n haeddu sylw a chofnod fel un o'n henebion dybiwn i, tuag at Tŷ'r Mynydd gyda Moelydd Barlwyd a Phenamnen yn y cefndir. Golygfa anhygoel a thu hwnt tuag at fawrion Eryri. 


Mae gennyf ddiddordeb hanesyddol teuluol yn y Tŷ'r Mynydd (a nodir fel 'sheepfold' ar fapiau OS) sy'n sefyll yn adfail heddiw ger ffordd haearn Rhiwbach. Yma y ganwyd a magwyd fy nhad Thomas tan ‘roedd yn dair oed cyn i'r teulu symud ac ailgartrefu yn y Blaenau tua 1905. Mae'n ddirgelwch imi o dan pa delerau neu denantiaeth yr oedd fy nhaid a'i deulu yn cael byw yn yr hen dŷ. Deallaf fod fy hen daid Thomas wedi ei gyflogi i oruchwylio defnydd a rheolaeth dŵr Llynnoedd Bowydd a'r afon Bowydd a ddefnyddiwyd i weithio'r peiriannau chwarel. 

Cyfeirir at Tŷ'r Mynydd yn Hanes Plwyf Ffestiniog, G J Williams (tud.86) lle mae o'n son am Chwarel Maenofferen a bod Morgan Jones wedi ei benodi i fyw yno i ehangu lefel oedd eisioes ar y ffin rhwng tiroedd Maenofferen a Gelli. 'Lefel Morgan' fel y gelwid hi. Dw i ddim yn credu bod Morgan yn perthyn i'n teulu ac os deallaf yn iawn, symud o Langollen i Dŷ'r Mynydd ddaru fy hen, hen daid Thomas a'i deulu gan gynnwys fy nhaid Wmffra, i oruchwylio ac i adeiladu a chynnal y cronfeydd a'r cafnau.

Treuliodd fy nhaid, Wmffra Jones, (Wmffra Tŷ'r Mynydd) flynyddoedd maith fel saer coed yn Chwarel y Llechwedd. Un tystiolaeth o’i waith a'i gyd seiri/chwarelwyr sydd wedi goroesi yw'r cafnau dŵr sy'n rhedeg o Lyn Newydd Bowydd i lawr at bwll nofio cyhoeddus cyntaf y Blaenau (wel dyna oedd o i hogia a genod Maenfferam) sef Llyn Fflags! Cyfeiriwyd dwy nant gan y chwarel i greu y gronfa: 'Ceg Afon' oedd y fan yma inni - man lle dysgodd dwsinau ohonom ar hyd y blynyddoedd i nofio -nid cystal a Tarzan Pictiwrs Parc; wel yn ei steil o beth bynnag!

Tystiolaeth arall o'u crefftwaith ond ysywaeth, sydd heb oroesi, oedd yr Erial. Gwn i Wmffra Jones fod yn flaenllaw yn y tîm o chwarelwyr (dan arweiniad arbenigwr peirianyddol o Dde Affrig -os deallais yn iawn)- a adeiladodd fecanwaith yr Erial fu yn dirnod mor amlwg yn yr ardal am flynyddoedd cyn ei dymchwel yn gymharol ddiweddar. Enghraifft arall o fedrusrwydd anhygoel ein chwarelwyr i addasu'r broses chwarelyddol ar gyfer strwythurau daearegol ein hardal. Credaf y dylai Cadw ryw ffordd neu'i gilydd, ystyried y gampwaith beirianyddol yma fel rhywbeth unigryw i Stiniog. Dyffryn Nantlle wrth gwrs yw canolfan y Blondins fel eu gelwid ond peidied anghofio cyfraniad ein Blondin ninnau i'r diwydiant!

Cyn iddo ymddeol pan oedd tua 80 oed ym 1959 cerddai fy nhaid y llwybr gweddol serth o'r A470 yn ddyddiol hyd at ei ddiwrnod olaf yn y gwaith.  Yr un llwybr yn y llun a welsom yn Stolpia a hanes y digwyddiad anffodus a gyfeiriwyd ato gan Steffan Ab Owain** yn rhifyn Gorffennaf/Awst.  'Pwyll bia'i' - dw i'n siwr bod Steffan wedi cael sawl cyngor fel yna gan ei gydweithwyr hŷn.

Rhyw ddeugan llath i'r gorllewin o Dŷ'r Mynydd saif adeilad a ddefnyddiwyd i weithio'r inclên fyddai'n cludo llechi chwarel Rhiwbach i lawr i gyfeiriad Chwarel Maenofferen. Adfail yw hwn erbyn heddiw ond mae'n sefyll yn urddasol fel tŵr hen gastell yn dysteb i aberth a chaledi miloedd o chwarelwyr y fro ac yn sicr mi fydd hwn yn un o'r henebion 'iconic' mae Cadw wedi ei gofnodi. Tynnais ei lun [uchod] a mawr obeithiaf ei fod yn gwneud cyfiawnder â'r hyn mae'r adeilad yn ei olygu yn hanesyddol, economaidd a chymdeithasol i'r ardal. Yn y llun mae cefndir y chwareli a Carreg Flaenllym yn tanlinellu y caledi a'r heriau hinsoddol a thirweddol bu rhaid eu goresgyn i ennill bywoliaeth a chreu cymunedau. 

Fel y nodwyd yn erthygl 'Henebion o bwys', roedd Tŷ’r Mynydd yn “lle anhygoel i fyw”. Ia wir, ar uchder o 1500 troedfedd - i fyny'r inclenau o Blaenau ym mhob tywydd; yn dibynnu ar gyswllt y lein fach i gludo nwyddau i gynnal y teulu a pha bynnag gynhaliaeth oedd bosib o'r tir a chadw anifeiliaid dros ganrif yn ol bellach.

Diolch i Llafar Bro a chymdogaeth Stiniog am gadw ein treftadaeth yn fyw ac o'i ddeall, yn sail i wynebu heriau'r dyfodol yn ieithyddol ac yn gymdeithasol.
Gareth Jones. Un o hogia Maen Fferam
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021. Lluniau gan yr awdur.

* Henebion o Bwys

* Crwydro

** Stolpia

1 comment:

  1. Ydi, mae erthygl Gareth Jones yn un hynod o ddifyr. Da gweld un o'r alltudion yn dal i ganmol yr hen fro. Diolch iti Gareth.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon