12.7.25

Llwyddiannau Eisteddfodol!

CADAIR PANTYFEDWEN 

Llongyfarchiadau gwresog iawn i Iwan Morgan, awdur ein colofn fisol ‘Rhod y Rhigymwr’ - a golygydd rhifynnau Mai a Mehefin o Llafar - ar ei lwyddiant arbennig yn ennill cystadleuaeth y Gadair yn eisteddfod fawr Pontrhydfendigaid eleni. 

‘Ynys’ oedd y testun a dewis Iwan fu llunio cyfres o gerddi yn hel atgofion - y dwys a’r digri - am ei ymweliadau â’r Ynys Werdd, a hynny dros sawl blwyddyn bellach, a’r cymeriadau hynod y bu iddo fo a’i gyfeillion eu cwarfod yno. Dyma fel mae’n cychwyn -

     Ynys Werdd y gerdd a’r gân,
     hi yw’n nefoedd a’n hafan,
     Yno dychwelwn ninnau – at griw ffraeth
     a miri odiaeth hen gymeriadau. 

 

Mae Iwan yn cynganeddu’n hynod o rwydd a llithrig; hyd yn oed yr enwau Gwyddelig! Fel ag yn y llinell hon, er enghraifft -‘Am Dun Laoghaire o Gaergybi ar gwch’  - a derbyniodd glod haeddiannol am ei gamp gan y prifardd Twm Morys yn y feirniadaeth o’r llwyfan! Does ond gobeithio y caiff darllenwyr Llafar Bro gyfle buan i ddarllen mwy na’r pigion byr sydd yma. 

Iwan hefyd a enillodd gystadleuaeth yr englyn, ar y testun ‘Cwrdd Gweddi’, a dwi’n cymryd yr hyfrdra o ddyfynnu hwnnw’n ogystal –

Yn wylaidd, ymdawelu - yma wnawn
Mewn hwyl i gysylltu,
A deialwn yn deulu
I alw’n Tad ar lein y Tŷ.

Ia, tipyn o gamp!
Geraint Vaughan Jones
- - - - - - - 

TLWS YR IFANC EISTEDDFOD MÔN
Mae’n fraint eto’r mis yma cael llongyfarch y ferch ifanc amryddawn o Drawsfynydd - Elain Rhys Iorwerth. Ei champ lenyddol ddiweddara oedd ennill Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Môn, Bro Seiriol a gynhaliwyd yn ddiweddar. 

Y dasg a osodwyd i’r llenorion ifanc oedd cyflwyno dau ddarn o waith creadigol yn cynnwys y ffurfiau canlynol - stori fer, dyddiadur, cerdd, portread, monolog, ymson neu bennod gyntaf o nofel.

Dyma ddwedodd y beirniad, Nia Haf, wrth ddyfarnu’r Tlws i  Elain am y ddau ddarn llenyddol a gyflwynodd i’r gystadleuaeth - Byw yn y Gorffennol a Llanw:

‘Dyma dwi am eu gwobrwyo yma - storïau sy’n teimlo fel ffrind yn siarad hefo fi, storïau go iawn, yn iaith pob dydd pobl arbennig ein hardal ni. Yng nghasgliad Myfi Aran dwi’n teimlo’r bywyd go iawn ‘na, yr awch i rannu syniadau go iawn am y byd hefo fi, a mae’r ddawn o wneud hyn, yn fy marn i, yn cyffwrdd yn fwy nag unrhyw stori ffantasi gymhleth’. 

Yn ogystal â llenydda, mae Elain wedi ennill nifer fawr o wobrau fel cantores hefyd. Mae hi bellach yn adnabyddus yn genedlaethol fel cerdd dantiwr, cyflwynydd caneuon gwerin a chaneuon allan o sioeau cerdd. Hi hefyd ydy prif leisydd y grŵp ‘Mynadd’. 
Rhydian Morgan

- - - - - - -
ANRHYDEDDAU’R ORSEDD, WRECSAM
 Llafar Bro Mehefin ar fin mynd i’r cysodydd, cyhoeddwyd Anrhydeddau’r Orsedd 2025. Bydd dau sy’n gysylltiedig â’r ardal yn cael eu hurddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddechrau Awst. 

Dyma fel y cyflwynir nhw ar wefan Cymru Fyw:


 Y wisg werdd i Rhys Cell

“Does neb fel Rhys Roberts, Blaenau Ffestiniog am hyrwyddo ac atgyfnerthu'r celfyddydau ymysg pobl ifanc yn ei gymuned leol. Mae'r plant sy'n dod drwy raglenni Rhys yn cael eu hymbweru i deimlo balchder yn eu bro, ac mae'n cynnig cefnogaeth a chyfeiriad iddynt – ac yn credu yn eu potensial nhw. Mae hefyd yn aelod o'r band, Anweledig, sydd wedi ail-ffurfio i chwarae yn yr Eisteddfod eleni”.

Y wisg las i Llinos Gwefus

“Does neb wedi gwneud mwy i gefnogi cymunedau Croesor, Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth na Llinos Griffin. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am greu Hwb Croesor, sydd bellach yn grŵp o dros 30 o wirfoddolwyr, ac mae hi hefyd yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch sy'n ysbrydoli ei dysgwyr gan sicrhau eu bod yn credu fod ganddynt gyfraniad gwerthfawr i'w wneud i'r Gymraeg a'n diwylliant”. 

Llongyfarchiadau gwresog i’r ddau! Haeddiannol iawn yn wir!



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon