12.7.25

Stolpia -Tafarn y Wynnes Arms

Pennod arall o golofn reolaidd Steffan ab Owain

Sylwi yn Llafar Bro mis Ebrill bod menter cymunedol yn anelu i brynu ac adfer yr hen dafarn. Efallai y byddai un ddau o eiriau am ei hanes o ddiddordeb i rai ohonoch. 

Credaf mai yn y flwyddyn 1867 yr agorwyd y dafarn gan David Williams, Tyddyn Gwyn; cyn-chwarelwr a ffermwr. Bu ef a’r teulu yn ei chadw am flynyddoedd a dilynwyd hwy gan deulu Hughes. Daeth yr enw Wynne/Wynnes ar y dafarn ar ôl perchennog stâd Pengwern, sef Fletcher Wynn/Wynne. 

Gyda llaw,  cyfeirid ati fel ‘Y Ring’ gan yr hen bobol, fel y byddid yn galw North Western Hotel yn ‘Ring Newydd’. Tarddiad y gair Ring yw ‘Yr Inn’. Enghraifft arall yw’r gair bin a drodd yn ‘bing’ ar lafar gan y ffermwyr am alai, neu rodfa mewn beudy.

Tybed ai David Williams yw’r gŵr yn nrws y gwesty?


Bu amryw o dafarnwyr yn cadw’r Wynnes tros y blynyddoedd ac erbyn yr 1940au, neu ychydig yn  ddiweddarach, cedwid hi gan Mr a Mrs Bryan Bell fel y gwelir ar yr hysbyseb canlynol. Tybed a oes rhywun yn eu cofio yno?

Nid ymhell oddi wrth y gwesty yn y 19 ganrif ac ar y gongl lle byddai siop Dei Gruff, ceid tollborth bach a chlwyd (giât) ar draws y briffordd lle byddid yn gorfod talu i fynd drwyddi. Diddymwyd y tollbyrth yn lleol yn yr 1880au ac aed â’r giat oddi yno. Sylwodd rhywun ymhen blynyddoedd wedyn, sef rhyw dro yn y 1970au, os cofiaf yn iawn, bod y giât ar dir y Wynnes Arms a hysbyswyd y tafarnwyr a oedd yno y pryd hwnnw ei bod o werth hanesyddol. 

Gwerthwyd y giat i rywun o gyffiniau Ironbridge, ac ar ôl gwneud ychydig o waith ymchwil, deuthum i wybod ei bod yn Amgueddfa Blists Hill. Bum yno yn y 1990au a holais amdani hi,  a thynnais ei llun gan ei bod wedi ei gosod ger hen dollborth a  ddaeth o ran arall y wlad. Os cofiaf yn iawn, dyma lun ohoni yn ôl y swyddogion yno.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon