12.7.25

Dyfodol Sgotwrs Stiniog

PRYDER AM DDYFODOL CYMDEITHAS ENWEIRIOL Y CAMBRIAN

Cymdeithas Enweiriol y Cambrian yma’n y Blaenau ydy un o glybiau pysgota hynaf Cymru. 
Mae'r clwb yn dweud fod angen gwario hyd at £100,000 i uwchraddio'r argae ar Lyn Ffridd y Bwlch ger y dref oherwydd rheolau newydd a ddaeth i rym yn 2017 - ond does ganddyn nhw ddim yr arian i wneud hynny. Maen nhw’n honni mai’r llyn yn unig sy’n eiddo i’r Gymdeithas, ac mai Cwmni Breedon ddylai fod yn gyfrifol am yr argae.

Mewn ymateb dywedodd Breedon: 

"Yn dilyn cyfarfod efo'r clwb pysgota dros ddeunaw mis yn ôl, mae safbwynt Breedon yn parhau i fod nad oes gennym ni unrhyw berchnogaeth na rheolaeth o'r llyn."
Gofynnwyd ond ni chafwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â Llyn Ffridd y Bwlch.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ‘Nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl rhag rhyddhau dŵr heb ei reoli o gronfeydd dŵr uchel.’

Mae'r traddodiad o bysgota yn mynd yn ôl yn bell iawn yn hanes Blaenau Ffestiniog a'r ardal - fe sefydlwyd y gymdeithas 147 o flynyddoedd yn ôl. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw dros gant a hanner o aelodau o bob oed ac mae'r clwb yn cynnig pob math o ddyfroedd i'w haelodau bysgota.

Roedd Llyn Ffridd yn arfer bod yn rhan o waith chwarel y Gloddfa Ganol, ond fe brynwyd y llyn gan y gymdeithas yn saithdegau'r ganrif ddwetha. Mae Cymdeithas Enweiriol y Cambrian eisoes wedi gwario £11,000 ar adroddiad cychwynnol i gyflwr yr argae. Yn ôl Darren Williams, ysgrifennydd y clwb pysgota, fel rhan o'r rheolau newydd, bydd angen lleihau dyfnder y llyn ac uwchraddio'r argae ei hun.

Mae Mabon ab Gwynfor, Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor a Meirionnydd, wedi bod yn gweithio'n agos efo'r Gymdeithas ar y mater. Dywedodd ei fod yn hynod o bryderus am ddyfodol y clwb pysgota.

Ychwanegodd nad eiddo'r clwb pysgota ydy'r argae, ac mai cyfrifoldeb dros y llyn a'r dŵr sydd ynddo sydd ganddynt - ac nid dros yr argae.

"Felly mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb dros yr argae ei hunan a gwneud yn siŵr ei fod o'n cael ei ddiogelu - boed hynna'n y chwarel neu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu allan. Ond mae'n rhaid sicrhau parhad y clwb pysgota."
Dywed y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn, sy’n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw ar Gyngor Gwynedd ei fod yn credu’n gryf mai dyletswydd Llywodraeth Cymru ydy cynorthwyo i dalu am y gwaith sydd angen ei wneud ar yr argae.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon