Daeth tymor 2024/2025 i ben ddechrau mis Ebrill gyda chystadleuaeth cwpan y flwyddyn a chyda’r cyfarfod blynyddol yn cloi gweithgareddau.
Chris Parry o Benrhyndeudraeth oedd beirniad y gystadleuath ac yn gosod Rory Trappe yn gyntaf yn adran y printiadau a Dewi Moelwyn yn gyntaf yn yr adran ddigidol. Dyfarnwyd llun Rory o Lyn Cwmorthin yn llun y flwyddyn.
Yn y cyfarfod blynyddol, etholwyd Dewi M. Williams yn gadeirydd, Patricia Cordney yn is- gadeirydd, Helen Kelly yn ysgrifennydd a Rory Trappe yn drysorydd.
Cyflwynwyd tlws ffotograffydd y flwyddyn i Stan Jones.
Hoffai'r clwb diolch i Gwmni ENGIE/FIRST HYDRO am ei haelioni’n darparu cymorth i gael offer cyfrifiadurol a thaflunydd digidol newydd i'r clwb.
Mewn cystadleuath print rhwng clybiau Cymdeithas Ffotograffiaeth Gogledd Cymru a gynhalwyd ganol Ebrill, daeth y clwb yn bedwerydd allan o bedwar-ar-ddeg.
Bydd y tymor newydd yn dechrau ar 17 Medi yn y Ganolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau newydd.
Dewi Williams
LLUN - Llyn Cwmorthin Rory Trappe
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon