24.7.14

Dal dy ddwr

Rhan o erthygl o rifyn Gorffennaf 2014:

Mae cryn brysurdeb a gweithgaredd ar safle trin dŵr Garreglwyd ar hyn o bryd. Llanast ofnadwy medd rhai; ac eraill yn holi be’ ar y ddaear sy’n digwydd yno? O chwilio a holi rhyw ‘chydig, daw’n amlwg bod Dŵr Cymru yn ymestyn eu safle yno. O archwilio’r cais cynllunio, deallwn bod cronfa ddŵr newydd (tanc mawr, mewn geiriau eraill) yn cael ei hadeiladu tu cefn i’r gwaith trin, yn ogystal ag ychwanegu cabanau offer a manion eraill.

Y tu hwnt i’r datganiad cyffredinol ‘Pwrpas y datblygiad yw sicrhau bod y dŵr yfed yn cyrraedd y safonau priodol’, dwi wedi methu a chanfod pam bod angen hynny rwan, a be’ oedd yn bod ar ansawdd y dŵr gynt? Ta waeth, mi ddyliwn ymfalchïo, debyg iawn, eu bod yn buddsoddi yn ein cyflenwad.


Ond dal dy ddŵr, meddech chi!
Mae gwaith Garreglwyd ynghanol tirlun hynod o bwysig a chyfoethog yn nhermau hanes a chwedloniaeth ein milltir sgwâr. Gerllaw mae bryngaer ryfeddol Bryn Castell, lle bu’n cyndadau ni’n cynhyrchu haearn cyn -ac ar ôl- cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Saif y gwaith trin ar ffordd Rufeinig Sarn Helen, a ger safle tybiedig Beddau Gwŷr Ardudwy, a lleoliad darganfod carreg Cantiorix, sydd bellach yn eglwys Penmachno. Rhoddodd Parc Cenedlaethol Eryri replica ohoni a llechen i’w dehongli ar wal derfyn y gwaith dŵr yn 2006.

Llun-PW. (Gwynedd ydi ystyr Venedos)
Fel y gallwch ddisgwyl gyda datblygiad fel hyn, roedd yn destun cais cynllunio, ac er ei bod yn rhy hwyr i yrru sylwadau, gallwch weld y cynlluniau manwl ar wefan y Parc Cenedlaethol, o dan y cyfeirnod NP5/59/397C. Mae’r Parc wrth gwrs yn gwerthfawrogi gwerth hanesyddol a diwyllianol y safle, ac un o’r amodau a roddwyd ar Ddŵr Cymru oedd bod yn rhaid cynnal asesiad archaeolegol manwl cyn dechrau’r gwaith.


Mae’r llun yma gan VPW yn dangos hyd a lled y gwaith adeiladu, ac mae’r ardal reoli a storio ar y chwith yn ymddangos yn ddychrynllyd, ond ardal dros dro yw hi, gyda’r bwriad o adfer yn llwyr.

Mi holais John Roberts, archaeolegydd y Parc am ychydig o fanylion ac roedd yn barod iawn i rannu adroddiad yr asesiad, a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.  Meddai John, am ganlyniadau’r asesiad a’r ffosydd archwilio a wnaed ar y safle:
“Ni ddarganfuwyd olion archaeolegol arwyddocaol iawn ond mi deimlwyd bod dal posibilrwydd o ddiddordeb archaeolegol, ac felly awgrymais amod i gyflawni gorchwyl gwylio/watching brief , yn ystod yr adeiladu”.
Ychwanegodd: “Mae’r gorchwyl gwylio wedi cael ei wneud yn ddiweddar… Mae’n bosib bod ffos a gloddiwyd ar hyd y trac, sef llwybr Sarn Helen, yn [dangos olion] Rhufeinig ond doedd dim darganfyddiadau eraill o arwyddocâd”.

Ffosydd archwilio

Yn rhai o’r ffosydd archwilio, canfyddwyd nifer o grawiau gwastad, ac mae’r Ymddiriedolaeth Archaeolegol yn awgrymu efallai eu bod wedi eu gosod ar lawr gan y rhai fu’n cloddio am lechi yn y cyffiniau, er mwyn cludo deunydd dros ardal gorsiog. Maen nhw’n mynd ymlaen i awgrymu, oherwydd ffurf a maint y crawiau, y gallen nhw fod wedi dod o nodweddion archaeolegol fel cistiau claddu ac ati.

Os daw rhywbeth arall i’r amlwg cyn diwedd yr adeiladu, cewch ddarllen y manylion yn Llafar Bro yn y dyfodol. Yn y cyfamser, gallwch weld copïau o’r adroddiadau archaeolegol dros yr haf yn arddangosfa’r Gymdeithas Hanes.   
-PW

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon