Wedi egwyl o rai misoedd, dyma geisio ail-gydio yn y gyfres am hanes newyddiaduriaeth sy’n cyfeirio’n benodol at ardal ’Stiniog.
Vivian Parry Williams
Os cofiwch, roeddem wedi cyrraedd newyddion Awst 1840, a hanes gosod carreg gyntaf yn adeilad Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau. Felly, ymlaen â ni.
Ymhen dwy flynedd, cyhoeddodd y North Wales Chronicle erthygl ar 11 Hydref 1842 ar achlysur cysegru Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau ar y 29 o Fedi, gan gynnwys disgrifiad o'r safle, a roddwyd yn hael gan yr Arglwydd Newborough ... ‘one of the most striking that can be imagined, from the wilderness of the scenery surrounding it’ … gan ychwanegu ei fod dros fil o droedfeddi uwch y môr, ac yn noeth o unrhyw dyfiant, oherwydd y creigiau a'r tomennydd. Yn dilyn ei fanylder am ddaearyddiaeth yr ardal, disgrifiodd sut roedd y chwareli wedi tynnu poblogaeth sylweddol i'r ‘this otherwise barren and dreary region’ ...
Cafwyd mwy o hanes cysegru'r eglwys yn y NWC, ymysg papurau newyddion eraill, a bu adroddiad ar yr achlysur pwysig yn hanes bro Ffestiniog yn y papur ceidwadol hwnnw ar 18 Hydref 1842.
Cyfansoddwyd cerdd arall, y tro hwn ‘supposed to be written by one of Mrs Oakeley’s School Children...’, oedd yn llawn moliant i noddwraig y fenter.
‘O Lady blessed, of undying fame,
Our tears will flow at mention of thy name;
May our dear children’s children join in praise
To HIM, who fill’d thy heart with wisdom ways,
And honor’d thee with wealth; gave thee the will
To raise this Structure; thus His work fullfil;
For when they worship in this House of Prayer,
They’ll think of thee in Heaven, and bless thee there,
Hoping to meet thee, when beneath the sod
Their bodies rest – their souls return to God.’
Yn ddiweddarach, eto yn y NWC, ar 31 Ionawr 1843 gwelir hanes y cynlluniau i godi eglwys Anglicanaidd yn Llan ‘Stiniog. Fel yn hanes codi Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau, yr Arglwydd Newborough roddodd y tir i ar gyfer yr adeilad, a darn helaeth arall i ehangu’r fynwent, oedd yn eitha’ llawn ar y pryd. Noddwraig yr eglwys yn y Blaenau, Mrs Oakeley, Plas Tan-y-bwlch, a arweiniodd y gad ariannol eto, gyda rhodd gychwynnol tuag at yr achos o £200. Er i’r gwaith o godi eglwys y Llan gael ei arafu gan brinder cyfalaf, roedd y gobaith o gael cychwyn ar yr adeiladu yn cryfhau, gyda’r canlynol wedi ei gyflwyno i’r coffrau: Mrs Oakeley £200; Esgob Bangor £50; Arglwydd Newborough £50; Mr Banks £50; teulu Blaen-y-ddôl £60, ynghyd â nifer o roddion ariannol eraill dan £25. Ond roedd un wraig ddylanwadol arall wedi cyfrannu hefyd, sef gweddw’r cyn-frenin, William y 4ydd, neu’r Queen Dowager, yn ôl gohebydd yr Hull Packet and East Riding Times ar 2 Mehefin 1843. Er na wyddys beth oedd ei chysylltiad â Stiniog, fe gyfrannodd hithau ugain punt tuag at yr achos.
I aros ar bwnc crefydd yr ardal, cafwyd adroddiad yng ngholofn newyddion Ffestiniog yn y NWC ar 11 Gorffennaf 1843 yn profi i'r Pabyddion gael lle i addoli yn y plwyf. Gwahoddwyd rhai o'r ffydd honno, a fyddent yn digwydd mynd drwy'r fro ar y pryd, i alw i mewn yn y lle oedd, yn ôl y gohebydd, ‘a room fitted up for Divine Worship, in the house of a respectable Catholic family’ ... Rhywbeth dieithr iawn y cyfnod hwnnw oedd gweld teulu o Gatholigion o fewn terfynnau'r plwy'; tybed ym mha le yma oedd y teulu hwnnw'n byw?
-----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon