23.2.16

Llais Betsi a neb arall...

Y diweddaraf o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Goffa.
(O rifyn Chwefror 2016)


Newyddion go gythryblus ddaeth o’r Bwrdd Iechyd ar Ionawr 25ain ond nid annisgwyl, serch hynny. Datganiad y Betsi i’r Wasg y diwrnod hwnnw oedd y bydd y gwaith o addasu adeilad yr Ysbyty Coffa yn dechrau ar Chwefror 7fed (er bod amryw ohonoch yn gwybod o’r gorau bod y gwaith hwnnw ar droed yn ddistaw bach ers peth amser).

Dyma’r camau cyntaf tuag at roi cartref newydd i’r Ganolfan Iechyd bresennol - a dim byd mwy na hynny, ac eithrio 'chydig o swyddfeydd crand!

Yn y cyfamser, mae gofal iechyd yn yr ardal yn wynebu o leiaf flwyddyn arall o lanast llwyr wrth i’r gwaith fynd rhagddo ac i’r gwasanaethau gael eu symud hwnt ac yma. Fel tae pethau ddim digon drwg fel roedden nhw! (Mae adroddiad  Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru (Health Inspectorate Wales), a gyhoeddwyd lai na mis un ôl, yn bur feirniadol o’r modd y mae ein Practis Meddygon ni yn cael ei redeg, ers i’r Betsi gymryd cyfrifoldeb amdano.)

Fe gofiwch am addewidion gwreiddiol  y Gweinidog Iechyd yn 2013 - £4miliwn yr un i addasu Ysbytai Coffa Stiniog a Tywyn. A byddwch yn cofio hefyd fel yr aeth y Bwrdd Prosiect Iechyd a Gofal Integredig – y PIGCI bondigrybwyll - o dan eu cadeirydd Dr Bill Whitehead, ati i addo môr a mynydd inni yma. Fe fydden ni, medden nhw, yn derbyn gwasanaeth cyn wyched ag unrhyw ardal arall yng Nghymru. Felly, be wnewch chi rŵan o’r newyddion diweddaraf yn y wasg mai dim ond oddeutu £2.5m fydd yn cael ei wario arnon ni ac y bydd rhan helaeth o’r gweddill yn cael ei lyncu gan y Dreth ar Werth (VAT)!

Ond ddylen ni ddim cwyno, mae’n debyg, oherwydd ym marn un o’n cynghorwyr sir ni yn y Daily Post yn ddiweddar, mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol (‘substantial investment’) ac mae Dafydd Elis Thomas hefyd, yn ôl y Cambrian News  ‘yn llwyr gefnogi safbwynt y Gweinidog Iechyd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol’.

Ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol?
Bobol bach! Llais y Betsi, a neb arall, sydd i’w glywed mewn geiriau fel’na! Ac mae’r ffaith bod yr Aelod yn gallu gneud y fath osodiad yn profi cyn lleied o ddiddordeb mae o wedi’i ddangos ym mrwydyr ei etholwyr yn yr ardal hon. Mae o’n honni hefyd bod ‘y rhan fwyaf o’r cynghorwyr tref a sir’ yn cefnogi’r camau sy’n cael eu cymryd. Pa mor wir ydi hynny, tybed? Dichon y bydd y cynghorwyr yn awyddus i ateb drostynt eu hunain. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae Ysbyty Coffa Tywyn, trwy ddycnwch y rhai fu’n ymladd yn ddiflino yn fan’no, yn gweld datblygiadau gwerth £5½m!

Er iddyn nhw wadu’r ffaith dro ar ôl tro, mae’r Betsi yn sicir yn dangos ffafriaeth i’r ardaloedd glannau môr, a hynny ar draul ardal wledig a Chymraeg-ei-hiaith fel hon. Ac yn cael cefnogaeth lwyr y Gweinidog iechyd (ac ambell wleidydd arall) i neud hynny! Ydi, mae hon yn hen bregath gynnon ni ond mae’r cyhuddiad mor wir heddiw ag erioed.
*  *  *

Bu sôn yn y rhifyn diwethaf am drefnu cyfle ar Ionawr 18fed i rai ohonoch chi, bobol yr ardal, gael cofnodi eich cwynion ar ffurflenni arbennig ond fe aeth y trefniadau o chwith braidd, a rhaid ymddiheuro am hynny. Fodd bynnag, mae’r ffurflenni ar gael i’r rhai sy’n awyddus i’w llenwi. Felly, os oes gennych chi gŵyn o unrhyw fath – bach neu fawr - yna ewch ati i holi am ffurflen.
Erbyn i hwn ymddangos, bydd y Mid Wales Collaborative wedi cynnal eu sesiynau ymgynghorol yn y drefac ni allwn ond gobeithio bod llawer ohonoch wedi manteisio ar eich cyfle i ddeud eich deud yn fan’no.
*  *  *

Felly, be rŵan cyn belled ag y mae’r Pwyllgor Amddiffyn yn y cwestiwn? 
Mae hi wedi bod yn frwydyr hir a rhwystredig i drio achub ac yna i geisio adfer yr Ysbyty Coffa. Ionawr 2005 i Ionawr 2016 ! Un mlynedd-ar-ddeg! Ydi hi rŵan, felly, yn amser inni roi’r ffidil yn y to a rhoi’r gorau i herio penderfyniadau’r Betsi?

Mi fyddai hynny’n plesio rhai pobol yn reit siŵr ond bradychu aberth ein cyndadau a dyfodol ein plant fyddai inni gefnu’n rhy barod ar y frwydyr. Felly, tra byddwch chi, bobol yr ardal, yn dymuno inni neud hynny, mi barhawn ni i ymgyrchu ar eich rhan, am ryw hyd eto, beth bynnag.

Wedi’r cyfan, mae etholiadau mis Mai ar y gorwel, a phwy ŵyr na fydd wynebau newydd wrth y llyw ar ôl hynny!  
GVJ
------------------------------



Gallwch ddilyn yr hanes efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon