3.2.16

John Ellis Williams a ffilm Y Chwarelwr

Sgwrs Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, ac ychydig o hanes cwblhau darnau coll ffilm Y Chwarelwr.

Un o siaradwyr gwâdd y Gymdeithas yn 2015 oedd Geraint Lloyd Jones o Benrhyndeudraeth. Testun Geraint oedd John Ellis Williams, yr athro, awdur a dramodydd, ac yr oedd nifer o’r gynulleidfa yn ei gofio’n athro a phrifathro yn y Blaenau.

Ganwyd ym Mhenmachno yn 1901, a chafodd ei addysg gynnar yno cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Sir Llanrwst. Mynychodd Goleg Normal, Bangor cyn dod yn athro i Lanfrothen a’r Blaenau. Ei gamp fawr fel athro ac fel prifathro yng Nglanypwll oedd cael y plant i fynegi eu hunain drwy ddefnyddio eu dychymyg.

Ei uchelgais oedd bod yn ddyn papur newydd neu fargyfreithiwr. Bu’n golofnydd yn yr Herald Cymraeg, y Daily Post, y Mail a’r Express ac yn olygydd Y Rhedegydd. Mynodd mai crefftwr yn trin geiriau oedd, ac yn y cyswllt hwn, rhaid oedd astudio gwaith y meistri a bod yn hunan feirniadol cyn cyrraedd y nôd.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant fel “Haf a’i Ffrindiau”, “Y Wningen Fach” a “Stori Mops” a chyhoeddodd ei hunan gofiant “Inc yn fy Ngwaed” yn 1963. Ymhlith y niferoedd o lyfrau ditectif a ysgrifennodd mae “Y Gwenith Gwyn” a’r “Trydydd Tro” -un yn y gyfres Ditectif Inspector Hopkyn a’r llall yng nghyfres Parry.

Ond mwyaf tebyg mai fel dramodydd neu ysgrifennydd dramâu a wnaeth ei enw oherwydd ysgrifennodd nifer fawr ohonynt, a throsi nifer o’r Saesneg hefyd.

Ffurfiodd gwmni drama yn y Blaenau ac un o’r dramâu a berfformiwyd yn 1934 oedd “Taith y Pererin”. Drama arall boblogaidd ganddo oedd “Y Pwyllgorddyn”. Bu hefyd yn ysgrifennu dramâu ar gyfer darllediadau radio, a fo ysgrifenodd a chyfarwyddodd “Y Chwarelwr” yn 1935, sef y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg, gydag Ifan ab Owen Edwards.

Bu llawer o sylwadau ar y diwedd am ddarlith mor ddiddorol. Dywedodd  Elen Evans ei fod yn athro penigamp tra roedd hi yn ddisgybl yng Nglanypwll. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan Pegi Lloyd -Williams oedd yn cofio’r teulu’n dda.

[Addaswyd yr uchod o adroddiad gan Robin Davies, gohebydd Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2015]
- - - - - - - - - - - - - - - -

Y Chwarelwr
Yn nechrau 2006, roedd Cwmni Da, wedi holi darllenwyr Llafar Bro am ddarnau coll y ffilm unigryw yma o 1935, y ffilm lafar gynta' yn Gymraeg. Cysylltodd golygydd rhifyn Gorffennaf 2006 â'r cwmni yn ddiweddarach i holi sut ymateb gafodd o, a sut oedd y trefniadau’n mynd. Dyma ddywedodd o:

'Da ni’n dechrau arni o ddifri dros yr wythnosau nesaf.  Byddwn yn ffilmio'r ail-greu yn ystod wythnos cyntaf mis Awst.  Cyn hynny, rhaid inni ganfod pobol o'r Blaenau (neu'r cyffiniau) sydd mor debyg i'r actorion gwreiddiol â phosib.  Mae hyn yn dipyn o her!

Mae hefyd angen 4 prif leoliad - sef Ysgol y Moelwyn, llwybr am y chwarel, yr ardd gefn, a chegin y tŷ.  Byddwn yn chwilio am leoliadau yn y Llechwedd, Heol Jones a Ffordd Wynne (sef y lleoliadau gwreiddiol yn y ffilm). Os na fydd lleoliadau addas yn y Blaenau, yna falle bydd yn rhaid edrych am lefydd addas fel y tai yn yr amgueddfa lechi yn Llanberis (tai a ddaeth o Danygrisiau prun bynnag!)

Gellid honni fod modd olrhain S4C a'n holl ddiwydiant teledu Cymraeg heddiw nôl i'r cynhyrchiad arloesol hwn. Mae'n briodol felly fod S4C yn dathlu'r ffilm gyntaf hon ym mis Rhagfyr 2006, gydag wythnos o raglenni arbennig gan Cwmni Da, mewn cydweithrediad ag Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru.

Mae John Reed wedi bod yn brysur ers misoedd yn yr Archif, yn adfer y ffilm hon er mwyn creu print newydd ohoni, ond wrth gwrs mae rîl olaf y ffilm ar goll ers blynyddoedd. Yng nghyfres S4C gwelwn Ifor ap Glyn, yn mynd ar drywydd y rîl goll, ac yna'n ceisio ei ailgreu - gan ddefnyddio'r un technoleg a’r gwneuthurwyr gwreiddiol, Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a John Ellis Williams, dramodydd o Flaenau Ffestiniog.

Bydd y gyfres yn dogfennu eu camp nhw nôl yn y tridegau, yn  ogystal â dilyn troeon trwstan Ifor heddiw. Pa mor hawdd fydd castio pobl sy'n debyg o ran pryd a gwedd i'r actorion gwreiddiol? Be fydd pobl y Blaenau yn meddwl o'i greadigaeth hybrid, wrth iddo ddangos y ffilm gyflawn?!

I gloi'r wythnos o raglenni, bydd cyfle i gynulleidfa S4C weld y ffilm gyfan dros eu hunain, a hynny am y tro cynta ers degawdau!'
- - - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd y gyfres fer 'Y Chwarelwr- y rôl goll' ar S4C ar ddechrau Rhagfyr 2006, a'r ffilm gyfan ar y 10fed.
Ers hynny, cyhoeddwyd y ffilm -yn ogystal â'r gyfres- ar DVD felly mae ar gael i bawb wylio ar unrhyw adeg! Holwch yn Siop yr Hen Bost am gopi.
Cafodd y ffilm ei dangos yn lleol nifer o weithiau, gan gynnwys un achlysur yn Ionawr 2012 lle dangoswyd hi dan ddaear yn Llechwedd, dan ofal Prosiect Cytser y Cyngor Celfyddydau.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon