11.2.16

Llyfr Taith Nem- 'gwlad chwe mis'

Hedfan i Ganada
Er i mi deithio gymaint ar hyd fy oes, ychydig iawn deithiais mewn awyrenau.  Mae’n debyg fy mod yn perthyn i’r dosbarth hwnnw sydd yn credu buasai’r Bod Mawr wedi rhoi adain i ddyn pe tae wedi bwriadu iddo hedfan.  Daw hyn a hen stori o ‘Stiniog i fy nghof.

Yr oedd hen gymeriad doniol yn labro yn y chwarel, a’i waith oedd cynorthwyo i dynnu y wageni yn y lefel dan y ddaear.   Un dydd yr oedd yr hen frawd yn ysmygu pan ddaeth y stiward heibio, ac meddai’r stiward, “John, pe tae’r Bod Mawr wedi bwriadu i ddyn ysmygu, fe fuasai wedi rhoddi corn simdde ar ei ben.”  Edrychodd John yn graff arno, ac meddai, “Ddigon posib wir, ond pe tae o wedi bwriadu i minnau dynnu wagen, mi fuasai wedi rhoddi bachyn ar fy nhîn hefyd!

Unwaith, fodd bynnag, bu i mi deithio mewn awyren o Detroit, Michigan i Calgarry, Alberta trwy Montreal a Winnipeg.  Rhyw syniad rhyfedd oedd edrych i lawr o’r uchelder a gweled yr holl fyd megis yn mynd heibio.  Daeth yr adnod honno i’m meddwl “Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.”  Yn wir teimlais y gallwn ddweud, “Y fi sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.

Yr oeddwn yn gweled natur yn ei holl ogoniant, yr afonydd yn gwau drwy’i gilydd, a’r mynyddoedd yn esgyn y naill wrth ben y llall, a miloedd o aceri o geirch a chorn.  Rhyfedd ydyw sylweddoli er mor fychan yw maint dyn yn ochor y pethau yma, mai dyn wedi’r cwbwl ydyw creadigaeth fwyaf Duw.  Ambell waith yn hedfan yn uwch na’r cymylau, ac fel pe taswn wedi ffarwelio oddi wrth y byd yn gyfangwbl.  Hoffwn pe tawn wedi cael y profiad heb swn y moduron, a chael teithio yng nghanol distawrwydd yr eangder mawr.

Cymerodd y daith ddeuddeng awr gan gyrraedd Calgarry hanner awr wedi saith y nos.  Cymerais fodur o’r porth awyr i’r ddinas a’r peth cyntaf welais oedd adeilad yn dwyn yr enw ‘Wales Hotel’.  Cofier mai’r gair ‘Wales’ dynodd fy sylw ac nid ‘Hotel’.  Sylwodd gyrrwr y modur fy mod yn craffu ac yr enw a gofynodd i mi ai Cymro oeddwn.  Ymddengys mai Cymro oedd yntau o Forgannwg.  Wedi cerdded dipyn o amgylch y ddinas, cyfeiriais tua’r orsaf i gymeryd trên am Ponaka, a chyrhaeddais yno tua phump o’r gloch y bore.  Nid oedd yr un creadur dau – na phedwar – troed o gwmpas, ond wedi ychydig amser gwelais heddwas, a chyfeiriodd hwnnw fi at gartref fy nghyfneither, gynt o Benrhyndeudaeth.  Cerddais tua wyth milltir drwy gaeau o yd, ceirch a haidd.

Rhyw 200 milltir ymhellach nae Edmonton, ar derfynnau Alaska, ond oherwydd yr hin ofer meddwl am fyned yno ond rhwng Ebrill a Medi.  Yn ystod y misoedd eraill mae’r tywydd oer yn rhy eithafol, a rhewir y ddaear dros ddeg troedfedd i lawr.  Dywedodd ffermwr o Winnipeg wrthyf mai gwlad chwe mis ydyw Canada.  Mae llawer o hysbysebu am ffermwyr o Brydain, ac addaw cyflogau da, ond fy nghyngor i i unrhyw un yn y cyswllt yma ydyw gwneud yn siwr ym mha ran o’r wlad mae y fferm, a sicrhau gwybodaeth gyflawn am y tywydd.

Peth arall i’w gofio ydyw fod llawer o’r ffermydd yma mewn lleoedd anial iawn, heb fywyd cymdeithasol o gwbwl, fuasai hynny yn dipyn o newid i unrhyw un o Gymru, oherwydd bywyd unig ydyw’r bywyd di gymdeithas.  Ar un adeg arferid rhoi 60 o aceri o dir i unrhyw un ddeuai i’r wlad i ffermio o Brydain.  Neidiodd llawer i’w derbyn, ond wedi cyrraedd yno, sylweddasant fod yr aceri hynny yn goed a mieri.  Rhaid oedd tynnu’r coed o’r gwraidd gydag ychain, a hwythau yn tyfu yn agos at eu gilydd.  Gwaith torcalonus oedd dechrau ar waith felly, a thorodd llawer un ei galon cyn gorffen y gwaith.  Os nad oedd y gwaith yn cael ei gwblhau, cymerai’r llywodraeth y tir yn ôl.

Er hyn i gyd, mae Canada yn wlad eithriadol o gyfoethog.  “Ei thorrog wythien arian, a’i phlwm a’i dur yn fflam dân.”  Oherwydd hynny mae amryw o gyfleusterau i’r gŵr nerthol a diwid, ond i lwyddo yno rhaid wrth iechyd a phenderfyniad eithriadol.  Fel y dywedodd hen Gymro rhyw dro, “Nid lle i deiliwr o ddyn.”
---------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon