27.2.16

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -'ynghanol y frwydr fawr'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
 
Daeth rhifyn cyntaf o'r Rhedegydd am 1916 â'r newyddion fod Morris Vaughan Roberts, mab ieuengaf y meddyg Vaughan Roberts, wedi ei ddyrchafu'n Lefftenant gyda chwmni 14eg y Ffiwsilwyr Cymreig. Dyrchafwyd Dafydd Owen Evans, (Deio), mab y Dr R.D.Evans i swydd o Lefftenant hefyd, gyda'r 17eg gwmni'r Ffiwsilwyr, tua'r un adeg.

Er i nifer o weithgareddau lleol gael eu gohirio oherwydd y rhyfel, roedd Eisteddfod Capel Gwylfa (M.C.), oedd i'w chynnal ar 18-19 o Chwefror, yn parhau i gael ei hysbysebu yn y wasg. Felly hefyd amryw o ddigwyddiadau eraill, megis cyngherddau, ac Eisteddfod Nadolig Ffestiniog, oedd i'w chynnal yn y Neuadd Gyhoeddus. Croesawyd nifer o filwyr o'r ardal, oedd adref am seibiant o'r ffosydd, ac yn eu mysg, y Lefftenant Evan Jones, gynt o'r Rhosydd, oedd yn gwasanaethu gyda charfan y twnelwyr gyda'r Royal Engineers yn Ffrainc.


Roedd llythyrau a anfonwyd gan filwyr o 'Stiniog yn llifo i dudalennau'r Rhedegydd; cymaint felly fel y bu'n orfod ar olygydd y papur gydnabod, oherwydd diffyg gofod, ei fod yn gorfod eu cwtogi, er mor ddiddorol oedd cynnwys sawl un. Un o'r rhai mwyaf trawiadol i'w ddarllen oedd llythyr y Sgowt David Lloyd, gynt o Frondeg, ond ar y pryd 'rhywle yn Ffrainc'. Disgrifiodd gohebydd y papur lleol fod 'rhai fel ef ac eraill yn enbydrwydd y ffosydd, ac yn haeddu i ni eu cofio a’u cysuro. Efallai nad anyddorol fyddai ychydig o'u hanes yma, i chwi yn Ffestiniog.'

Rhoddwyd gweddill y golofn yn rhydd i David Lloyd adrodd hanes yr erchyllterau. Y syndod mawr ynglŷn â'r llythyr hwn yw, gan ei fod yn disgrifio'r amgylchiadau mor eglur, ei fod wedi mynd heibio’r sensoriaid o gwbl. Fel arfer, ni chaniateid i'r milwyr, yn enwedig yng nghyfnod cynnar y rhyfel, ddatgelu gwybodaeth am golledigion o'u mysg. Syndod arall yw ei fod wedi ei ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, sy'n awgrymu fod Cymry Cymraeg ymysg y sensoriaid. Beth bynnag am hynny, roedd disgrifiadau David yn rhoi darlun clir iawn i'r darllenwyr o'r sefyllfa druenus a wynebai'r milwyr yn y ffosydd, ond eto, heb enwi’r lleoliad:
Yr ydym ar hyn o bryd ynghanol y frwydr fawr. (Ni chaf enwi y lle) Ac yr ydym yn cael colledion mawr. Yr wythnos ddiweddaf chwythodd y Germans un o'u mines, a chladdwyd ugain o'n dynion, a niweidiwyd eraill yn ddifrifol iawn. Yr ydym yn ymladd yma dan lawer iawn o anfanteision, ac yr ydym at ein hanner mewn dwfr yn y trenches, ac yr ydym o fewn 25 llath i'r gelyn, pa rai sydd yn gyrru eu mwg marwol drosodd atom yn barhaus, ond mae gennym ar hyn o bryd respirators rhagorol, fel nad yw y nwy yn cael effaith arnom. Treuliasom ein Nadolig yn y trenches, ac yr oeddwn yn teimlo yn rhyfedd. Ni gawsom dipyn bach o 'pork' a plum pudding, ac felly nid oedd yn ddrwg iawn arnom. Yr ydym yn byw yma, fodd bynnag, mewn gobaith y cawn dreulio y Nadolig nesaf yn ein cartrefi, os gwêl Duw yn dda ein harbed. Dydd Sul diweddaf, gwnaethom ruthr am eu trenches. Fe laddwyd 57 o honynt, a daliwyd 31 yn garcharorion, ac yr oedd ein colledion ni yn 13, a chlwyfwyd 7, fel nad oedd ein colledion ond bychan o'i gyferbynnu a hwy. Dymuniad pawb yma ydyw ar i'r rhyfel ofnadwy hon ddod i derfyn buan a buddugoliaethus, er mwyn Duw, Brenin a gwlad. Terfynaf yn awr gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Fe gewch lythyr eto yr wythnos nesaf.
Wele isod enwau ychwanegol at restr fis Rhagfyr y rhai o’r ardal fu’n gwasanaethu fel twnelwyr gyda charfan Evan Jones, Rhosydd:
Capten Evan Prichard, Brynawel;
Thomas Huges, 4 London Terrace;
H. London Green, 27 Stryd Glynllifon;
William R. Jones, 15 Stryd Fawr;
Pierce Evans, Llwyn Eifion, Maentwrog; a
David Jones, Bodfaen.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon