18.12.12

Cyngerdd Nadolig Ysgol y Moelwyn

"Hen bethau digon diflas 'di defaid..." -geiriau o sgetsh ddoniol iawn yr hogia' yng nghyngerdd Nadolig Ysgol y Moelwyn heno (nos Fawrth), sef 'Y Bugeiliaid'.

'Doedd dim byd yn ddiflas am y cyngerdd: diolch i'r ysgol am drefnu gwledd o hwyl a chanu. Mae yna dalent arbennig yn ein bro, heb os.

Rhaglen y noson.



Ar ddiwedd wythnos o newyddion go ddu am yr iaith Gymraeg, braf iawn oedd cael mwynhau noson oedd yn gyfangwbl gant-y-cant uniaith Gymraeg, o'r rhaglen i'r perfformio, i'r diolchiadau a'r raffl! Go brin fod hynny'n digwydd y tu allan i Fro Ffestiniog, a dyrnaid bach iawn o gymunedau eraill.

Rheswm arall i ddathlu oedd clywed bod yr ysgol nid yn unig wedi ei gosod yn band 1 gan y llywodraeth (er nad yw pawb yn gytun ar werth y bandio), ond ei bod wedi dod yn ail trwy Gymru gyfan. Llongyfarchiadau i'r staff, y llywodraethwyr, a 'r disgyblion.

Rydym fel cymuned yn falch iawn ohonoch, ac mae hynny wedi bod yn amlwg yn y gyfres o nosweithiau llwyddianus a fu yn yr ysgol yn ddiweddar, a'r neuadd ar ei newydd wedd yn llawn.

Llun sal ydi hwn isod mae gen i ofn, o sgetsh Y Bugeiliaid. Dim ond un o berfformiadau ardderchog y noson. Gyda lwc, cawn gyhoeddi lluniau gwell, swyddogol yn rhifyn Ionawr o Llafar Bro.



2 comments:

  1. Oedd, gret o noson.
    Ond, wedi dibynnu gormod ar gyfieithu caneuon enwog Saesneg. Dim angen hynny o gwbl, a ninnau efo llwythi o garolau Cymraeg hyfryd..

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am eich sylw. Be' oedd bawb arall yn feddwl?
      Roedd y gan 'Hwiangerdd Mair' yn hyfryd iawn yn fy marn i (nid y garol adnabyddus o'r un enw, sydd a'r gytgan "Cwsg, cwsg f'annwylyd bach. Cwsg nes daw'r bore iach", ond can dlws serch hynny. Dwn 'im be ydi cefndir honno: byddai'n dda cael gwybod. PW.

      Delete

Diolch am eich negeseuon