4.12.12

Troedio'n Ol

Mae rhifyn Rhagfyr ar ei ffordd i'r wasg, a bydd allan erbyn y 13eg.
Yn y cyfamser dyma bwt arall o rifyn Tachwedd 2012 i aros pryd.

Darn ydyw o golofn reolaidd John Norman, y tro hwn am chwarae snwcer yn y Traws.



Pan gaf gyfle i siarad â phobl ifanc am eu bywyd un o’u prif gwynion ydi eu bod yn bored – a hyn i gyd er gwaethaf y pethau digidol sydd yn eu hysgolion, eu cartrefi ac sydd ar gael yn ystod eu hamser hamdden. Ond felly mae wedi bod erioed ynte ? Mae’n ymddangos o f’ysgrifau ar bêl-droed, nofio, criced , heb son am Yr Urdd , Y Sgowts , Y Band of Hope a’r Pictiwrs, bod ein dyddiau ifanc ers talwm yn Traws yn brysur dros ben. Ond nid felly, cwyno oeddem ni hefyd , byth a beunydd, nad oedd dim i’w wneud – dyma be’ di bod yn ifanc yn ifanc debyg!  Digon teg felly yw sôn am Chwarae Snwcer  yn y Y.M.





Mae sgiliau’r gêm hon wedi cynnal dynion mewn pob math o gymdeithas. Byddem yn cael cyfle i’w dysgu yn yr Highgate Hotel  wedi i ni gyrraedd pedair ar ddeg oed. Yma oedd ein prentisiaeth cyn mynychu’r Y.M.  Roedd un bwrdd snwcer mawr yn yr ystafell ffrynt a mainc hir i’r gwylwyr.  Byddai’r chwaraewyr yn cael meddiant o’r bwrdd am hanner awr ar ôl rhoi pisyn chwe cheiniog yn y blwch a throi cloc arbennig i’r lle priodol. Cadw trefn a disgyblaeth oedd y nod ac roedd llechen ar y wal i daro enwau pawb oedd yn disgwyl.  


Wedi cyrraedd un ar bymtheg oed roedd modd ymaelodi  a’r Y.M.C.A., sefydliad lleol, dan reolaeth pwyllgor lleol, yn  derbyn nawdd gan Fudiad Cristnogol Dynion Ifanc. 


Roedd dau  fwrdd snwcer mewn un ystafell ac ystafell fawr arall ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Adeg rhyfel byddai’r aelodau ifanc yn cymryd lle'r hogiau oddi cartref a’u tîm yn chwarae yn erbyn sefydliadau tebyg. Cofiaf fynd i Glwb Snwcer Llan Ffestiniog a hefyd y Blaenau. 


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon