24.11.12

Newyddion Ysgol y Moelwyn

Darn o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2012



Merched yn dangos y ffordd
Mae tîm o ferched wrthi yn brysur iawn yn yr ysgol ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth Fformiwla 1 mewn ysgolion.  Mae Gwenno Huws, Branwen Williams, Lili Jones, Llio Jones a Shauna Jones wedi bod wrthi yn cyd-weithio gyda Mrs Gwenllian Roberts, a llawer o gwmnïau lleol er mwyn cynhyrchu car bychan tua maint esgid. Byddant yn mynd â’r car yma i’r  gystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor ble bydd ganddynt gyfle i fynd ymlaen i Lundain neu  Birmingham.   


Pob lwc gyda’r paratoi a’r 
cystadlu genod!


 
Ysgol y Moelwyn 100%!
Roedd canlyniadau Ysgol y Moelwyn yn uchel iawn  eleni gyda Trothwy 2 bl. 11 (hafal i 5 TGAU A*-C). yn 100% .
Mae hwn yn ganran sydd ben ac ysgwydd uwchben canran Cymru ac mae`r canlyniad yn gosod yr ysgol gyda`r 1% gorau yn y wlad.
Diolch i’r tîm o staff, yn athrawon, cymorthyddion a staff ategol am gydweithio fel tîm i sicrhau’r gorau yng Nghymru i blant y Moelwyn.
Cymru: 71%, Gwynedd 72%, Ysgol y Moelwyn 100%! 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon