7.2.13

Lle maen nhw heddiw?

Cyfres reolaidd lle mae Llafar Bro yn holi rhai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro i ennill bywoliaeth.


'Chydig o hanes Medwen Roberts, gynt o Danygrisiau, a gawn y tro hwn. Ymddangosodd yr erthygl lawn yn rhifyn Tachwedd 2012.

Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r wlad ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
Cynhyrchydd a chyfarwyddydd teledu a radio ydw i. Ond dwi hefyd wrth fy modd yn gwneud ymchwil, yn enwedig ymchwil hanesyddol, ar gyfer y cyfryngau, theatr neu brosiect arall.
Dwi’n byw yn ardal Dyffryn Clwyd mewn pentre bach o’r enw Graigfechan.

Be ydi’r atgofion mwyaf pleserus sydd gennych am eich plentyndod a’ch dyddiau ysgol?
Mae’r atgofion sy gen i am fy mhlentyndod yn bleserus tu hwnt. Byw yn Nhanygrisiau, nabod pawb,  chwarae yn yr awyr agored. 
Mae gen i atgofion da o Ysgol Gynradd Tanygrisiau. Dim y gwersi sy’n aros yn y cof, gwaetha’r modd, ond yr hwyl  oedden ni’n gael – dysgu dawnsio gwerin, cael ‘eis crîm’ Taddies yn yr haf, cyngherddau Nadolig prysur yn festri Bethel, a’r ffrindiau bore oes.
Gan ein bod ni fel teulu yn byw yn Nhŷ Capel Carmel roedd gweithgareddau amrywiol y capel yn  cymryd dipyn o amser. Gobeithlu Bethel nos Lun, Carmel nos Fawrth, Ysgol Sul efo athrawon gwahanol.  Trip ysgol Sul, Parti Dolig, a’r Gymanfa Ganu. Roedd hyd yn oed steddfod yn y capel.

Beth neu pwy fu’r dylanwad(au) mwyaf arnoch pan yn ifanc?                                             
Roedd pawb yn ddylanwad gan fod cymdeithas mor glos yn Nhanygrisiau a Stiniog. Roedd tyfu i fyny mewn cymdeithas glos yn deimlad cysurus dros ben. Chydig wyddwn i mor unigryw oedd o ac na fasa fo’n para am byth. Dwi wedi byw mewn sawl dinas yng Nghymru a Lloegr ac mae gallu cerdded stryd a nabod bron pawb yn beth anghyffredin erbyn hyn.

Pa  brofiadau diddorol neu gofiadwy a gawsoch chi yn eich swydd? A fu ambell dro trwstan?
Gormod o droeon ‘trwch blewyn’ imi eu nodi! Dwi wedi teithio cryn dipyn efo’m gwaith, yng Nghymru a thu hwnt, a gweithio mewn llefydd difyr iawn, ac yn aml mae’n rhaid cael cyfieithydd i weithio efo  ni. Yn Hwngari fe ges i gyfieithydd trwy’r UNHCR ond doeddwn i ddim yn gwybod mai un o  Rwmania oedd hi a bod ei gwybodaeth o iaith Hwngari yn elfennnol iawn. Oherwydd camgyfieithu, a heb yn wybod i mi, roedd un dyn yn bygwth ein lladd ni i gyd oni bai ein bod yn talu mil o bunnau iddo!  
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar gyfres hanes Cymru, The Story of Wales, ar gyfer BBC Cymru. Mae’n gyffrous darganfod mwy am hanes Cymru ac, yn ffodus i mi,  dyma’r ail gyfres hanes Cymru imi weithio arni. Y gyntaf oedd The Dragon has Two Tongues, cyfres efo  dau gyflwynydd, a difyr iawn ydy cymharu’r ddwy gyfres hynny.  Mae hanes yn un arall o’r pynciau dwi’n  ymhyfrydu ynddo fo, er dwi ddim yn meddwl inni gael digon o’n hanes ni’n hunan yn yr ysgol.

A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimladau, bryd hynny?
Mi fyddaf yn dychwelyd yn aml i Stiniog a Thanygrisiau a byddaf yn amrywio’r ffordd o ddod yn y car. Weithia mi fydda i’n dod trwy Dolwyddelan – cartref gwreiddiol fy nhad. Dro arall byddaf yn dewis ffordd y Migneint, ac mae gweld y Moelwyn o Lan Ffestiniog bob amser yn gwneud i nghalon i ymlacio, fel ffitio troed i hen slipar gyfforddus. Dwi’n gwirioni ar y mynyddoedd - ond POBOL sy’n gwneud lle; a phobol Blaena ydy caffaeliad mwya’r fro. Maen nhw’n meddu ar wydnwch anhygoel.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon