Yr awgrym oedd bod y nafis oedd yn gweithio ar y twnel mawr yn galw’r dafarn ar ben y bwlch bryd hynny yn Crimea –ar ôl rhyfel y Crimea (1854-56)- oherwydd yr holl gwffio oedd yn digwydd yno!
Safle tafarn y Crimea. Ychydig iawn o olion sydd yno bellach. Llun- Paul W, Mehefin 2019 |
Mi gododd hyn dipyn o chwilen yn fy mhen i fynd i chwilota ar-lein, efo’r faintais fodern ei bod cymaint haws canfod gwybodaeth ar y we rwan nag oedd hi ym 1998, ac efo cymorth Vivian Parry Williams, dyma ddaeth i'r golwg ym manylion y cyfrifiadau'r gorffennol:
Does dim son am y dafarn yng nghyfrifiad 1851, ond tydi hynny ddim yn syndod; fel dywed Steffan dim ond yn 1852 gorffenwyd adeiladu’r ffordd dros y bwlch.
Erbyn cyfrifiad 1861 roedd cofnod o dan ardal ddeheuol plwyf Dolwyddelan, am deulu o naw yn byw yn y Llywelyn Arms: Robert Williams, y pen teulu wedi’i nodi yn ‘Publican’, ei wraig Ann, pump o ferched a dau fab, efo’r ‘fenga -Robert- yn ddyflwydd.
Ddegawd wedyn yng Nghyfrifiad 1871, tydi o ddim yn dafarn mae’n debyg. Enw’r lle erbyn hynny ydi Pen-y-bwlch, efo’r teulu Penny yn preswylio yno efo morwyn a lojiwr. Y pen teulu oedd William Penny, chwarelwr, a William ydi enw un o’r meibion hefyd, yn labrwr 24 oed.
Daeth newid eto yn 1881, efo’r cyfrifiad yn cofnodi’r lle fel y Crimea Hotel. John Roberts ydi’r ‘Hotel Keeper’, ond roedd William Penny y labrwr yn byw yno o hyd.
O symud oddi wrth fanylion y cyfrifiad at wefan hynod werthfawr ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, mae cofnod yn y North Wales Chronicle o 17 Medi 1881 -‘mond ‘chydig fisoedd ar ôl y cyfrifiad- ac mae pethau wedi mynd yn fler yno!
Dywed y papur, o dan bennawd ‘Petty Sessions’, bod y llys wedi gwrthod adnewyddu trwydded y dafarn oherwydd gwrthwynebiad gan Inspector Williams a Deputy Chief Constable Hughes! Yn ddigon rhyfedd, mae’r papur yn galw’r lle yn ‘Prince Llewelyn Inn’ ond yr un lle sydd dan sylw heb os, oherwydd mae’r adroddiad yn mynd yn ei flaen i awgrymu fod perchennog chwarel gyfagos Llechwedd eisiau gweld y lle yn cau:
“Mr Greaves, one of the licensing justices, gave the house an indifferent character, and was of the opinion that there was no necessity for it, seeing that the line to Ffestiniog was now completed”.Diolch i Bill a Mary Jones hefyd am dynnu sylw bod papur Baner ac Amserau Cymru, ar 24 Medi 1881 yn adrodd am atal y drwydded hefyd, gan ddisgrifio’r lle fel
“Gwestty Llewelyn Arms, Bwlch Gorddunant, tafarn a elwir yn iaith y wlad –iaith lysenwol y werin-bobl- ‘Crimea’...ar ben y mynydd; lle hollol ddi-nod”...ac yn son am chwarelwyr yn gwario eu cyflog yno, meddwi, a methu mynd adref! “Y mae wedi bod yn agored am o saith i wyth mlynedd ar hugain. Cauir ef ar ôl y 10fed o Hydref".
Mae’r un papur yn adrodd ar 29 Hydref fod apêl o flaen y llys ond bod pobl Dolwyddelan wedi cyflwyno deiseb a 500 enw yn galw am beidio ail-drwyddedu’r dafarn. Roedd hynny’n ddigon i roi diwedd ar y lle mae’n debyg.
Tydi o ddim yn ymddangos ar gyfrifiad 1891, o dan unrhyw enw!
PW
Darn o getyn glai a ganfyddwyd ar y safle gan Bill a Mary Jones, efo shamrock a'r geiriau 'HOME RULE' yn dystiolaeth bod nafis Gwyddelig wedi mynychu’r lle yn ystod tyllu’r twnel mawr.
------------------------------------
Addasiad o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2019
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon