26.9.19

Tîm sy'n dod o'r graig

Apêl am ‘gefnogaeth’ gan lywydd Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau
Heb os rwy’n tybio fod pawb yn y Blaenau a’r cylch wedi clwad am dymor llwyddianus CP yr Amaturiaid cyn yr haf – nid yn unig wedi gorffen y tymor yn yr ail safle yn y gynghrair, ond hefyd yn ennill dyrchafiad haeddianol i’r Adran Gyntaf.

Ma’ hi fel ‘stalwm yn y dref! Ysbrydion Wil ‘bach’ a Dei Dw, Crymei a Tibbott ac Ishmael yn cyd-gerdded y strydoedd, i gyd yn trafod pêl-droed, ac yn awyddus i gael gair tawel yng nghlust Ceri (Roberts) y rheolwr er mwyn dymuno’n dda iddo fo a’r hogia!

Ymlaen a ni! Ewch i’n tudalen Gweplyfr/Facebook am fanylion y gemau sy'n dod.

Gan fod yr Amaturiaid wedi codi i gynghrair uwch, mae’n orfodaeth arnom i wneud cryn dipyn o wellianau i Gae Clyd, gwaith sydd yn hynod gostus. Mae Cyngor Tref Ffestiniog a nifer o gwmniau busnes y dref eisioes wedi bod yn hynod o hael gyda rhoddion arianol caredig tuag at y gwellianau sydd yn yr arfaeth. Dewch draw i weld gêm ac i weld y gwelliannau hefyd.

Cae Clyd: cae pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru? Llun- Paul W. Awst 2019
Hoffwn ar ran yr Amaturiaid i apelio, nid yn unig am gefnogaeth byddarol o gwmpas Cae Clyd, ond hefyd mewn rhoddion ariannol er parhad y clwb. Felly os yn berchen cwmni busnas, yn gefnogwr brwd, yn aelod o glwb neu asinataeth ac yn awyddus i rhoi cefnogaeth, dowch i gysylltiad hefo swyddogion y clwb ar unwaith.

Clwb Pêl-droed trigolion tref Blaenau Ffestiniog a’r cylch ydi’r Amaturiaid ac felly fe fydd eich cefnogaeth chi yn gymorth gwerth chweil i’w lwyddiant yn ystod y tymor nesaf ac i’r dyfodol.
Diolch yn fawr.
Mici Plwm

Tymor 2019-20
Mae'r tymor newydd wedi hen gychwyn bellach. Pob lwc i’r hogia yn Adran 1 y gynghrair undebol. Dyma drydedd haen pêl-droed yng Nghymru, ac mae’r Chwarelwyr yn amlwg yn anelu at ddringo’n uwch eto yn y dyfodol.

Mae llawer o’r hogiau lleol oedd yn chwarae i dimau eraill y tymor d’wytha wedi arwyddo i Stiniog eleni, a’r dyfodol yn gyffrous iawn! Cofiwch gefnogi ar Gae Clyd eto eleni, neu ymunwch yn yr hwyl os na fuoch chi ers talwm.

Torf Cae Clyd oedd yr uchaf yn y gynghrair y tymor dwytha, ac mae’r tîm yn gwerthfawrogi’n fawr pan mae cefnogaeth dda yn troi allan i’w hannog.

Mae Gwefan Llafar Bro yn falch o noddi un o'r chwaraewyr eto eleni. Amdani Bryn Humphreys!


Prosiect Barddoniaeth a Phêl-droed Ysgol y Moelwyn
Bydd cerddi gan gefnogwyr ifanc Clwb Pêl-droed y Blaenau yn cael eu gosod o amgylch Cae Clyd yn fuan. Fe gyfansoddwyd y cerddi gan fechgyn blwyddyn 10 Ysgol y Moelwyn mewn gweithdai barddoniaeth gyda Rhys Iorwerth a Dewi Prysor yn ddiweddar.

Roedd y prosiect yn rhan o gynllun Llên Pawb, Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fe luniodd y bechgyn naw cerdd fer i gyd, yn eu mysg mae cerddi sy’n trafod y cae, y chwaraewyr, y cefnogwyr, y gelynion ac hefyd athro’r hogia a rheolwr y tîm, Ceri ‘Yeboah’ Roberts.


Dywedodd Dewi Prysor am y profiad:
"Bu'r gweithdai yn bleser pur, gyda chriw da o ddisgyblion ffraeth, hyderus a chreadigol oedd yn hawdd i weithio efo nhw. Roedd eu balchder yn eu bro, eu cymuned a'r clwb pêl-droed lleol yn amlwg, ac rwy'n gwbl argyhoeddiedig fod y cyfuniad o bêl-droed a chreu cerddi, wedi tanio diddordeb mewn barddoniaeth ynddynt."
Dyma flas o’r cerddi – fe gewch chi weld y casgliad cyflawn yn harddu Cae Clyd os ewch chi draw yno i gefnogi’r tîm!

Y Chwarelwyr
Tîm o Gymry Cymraeg i gyd
Fel y gymuned – dani yma o hyd;
Tîm ydan ni sy’n dod o’r graig,
Ni di’r chwarelwyr sydd â chalon draig.

Cae Clyd
Rhwng y Manod a’r Moelwyn mae fel carped hardd,
Y maes y mae Bynsan yn ei drin fel gardd,
Dyma ail adra pob chwaraewr ac ultra,
Fan hyn mae’r panads yn mega.
Hwn ydi’r cae sy’n werth y byd,
Hwn dani’n nabod fel Cae Clyd.

--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2019


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon