Pennod arall o gyfres Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Mawrth 2025
Dwn i ddim faint ohonoch chi fanteisiodd ar y cyfle i ymweld â’r Gadeirlan yn Nhŷ Ddewi erioed? Fe fu hon yn gyrchfan i sawl pererin dros y canrifoedd. Roedd ‘pererindod’, neu ‘daith i le sanctaidd’ yn elfen bwysig iawn i Gristnogion, fel ag i nifer eraill o grefyddau’r byd.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd pererindod i Rufain yn boblogaidd iawn. Yma yng Nghymru, roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cael eu hystyried yn gyfwerth ag un pererindod i Rufain.
Yr adeg yma o’r flwyddyn, ar Galan Mawrth yn benodol, fe fydd cymdeithasau crefyddol a seciwlar o bob math yma yng Nghymru a thu hwnt, yn cofio Dewi Sant, ac yn dathlu mewn amrywiol ffyrdd. Mae ‘na rai sefydliadau yn cynnal nosweithiau llawen ac eisteddfodau, tra bo eraill yn trefnu swper ac yn gwahodd person arbennig i siarad.
Pa ffordd bynnag yr awn ni ati i ddathlu’r ŵyl arbennig yma, fe ddylen ni o leia atgoffa’n gilydd o’n dyled i’r gorffennol ... i’r gwŷr a’r gwragedd da hynny a wnaeth gymaint inni fel cenedl.
Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi yn ystod fy saith mlynedd yn Ysgol Tywyn oedd yr Eisteddfod a gynhaliwyd ar y cyntaf o Fawrth bob blwyddyn. Fe fydden ni’r digyblion yn cael ein hannog i gymryd rhan a chael cyfle drwy hynny i geisio disgleirio fel cantorion a llefarwyr, offerynwyr ac arlunwyr, beirdd a llenorion. Roedd pedwar ‘Tŷ’ yn cystadlu’n frwd yn erbyn ei gilydd ... y ‘Dreigiau’ coch, y ‘Derwyddon’ glas, y ‘Telynnau’ gwyrdd a’r ‘Beirdd’ melyn.
Digon Seisnig oedd Ysgol Tywyn yn y 1960au, ond ar ddiwrnod arbennig yr ‘Eisteddfod’, gellid ymdeimlo â’r balchder o fod yn Gymry oddi mewn i furiau’r hen neuadd. Ac o edrych yn ôl ar y dyddiau hynny, does dim dwywaith na lwyddodd y cyfle i gael cymryd rhan yn ei gweithgarwch i gyfrannu at fy nghariad innau at fy Iaith a’i diwylliant.
Cyn hynny, yn yr ysgol fach yng Nghorris, cofiaf y farddoniaeth gafodd ei chyflwyno i ni’r plant ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Un o’r ffefrynnau, a arhosdd ar y cof ar hyd y blynyddoedd, er bod ei harddull yn dra hen ffasiwn erbyn heddiw, oedd y berl fach yma gan Eifion Wyn:
Os wyt Gymro hoff o’th wlad,
A hoff o’th dadau dewrion,
Cadw ŵyl er mwyn dy had -
Ni waeth beth ddywed estron, -
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon.
Os wyt Gymro hoff o’th iaith,
A hoff o’i bardd a’i phroffwyd;
Heddiw twng y filfed waith
I’w chadw fel ei cadwyd:
Boed yn amlaf ar dy fin,
Boed olaf ar dy aelwyd.
Os wyt Gymro hoff o’th Sant,
A hoff o’r cysegredig;
Cadw ŵyl, er mwyn dy blant,
I Ddewi, ŵyr Ceredig; -
Cas yw gŵr na châr ei wlad,
Boed dlotyn neu bendefig.
Mewn cystadleuaeth yn un o gyfarfodydd bach ardal y Ganllwyd yn nechrau’r 1980au, gosdwyd ‘Emyn Gŵyl Dewi’ yn destun. Ychydig gofia i am amgylchiadau ei lunio, ond fe ddes i ar ei draws ymysg ambell beth a gedwais ar ddisg galed fy nghyfrifiadur.
‘Canmolwn yn awr y gwŷr enwog’ meddai adnod gynta’ pennod 44 o Lyfr Ecclesiasticus yn yr Apocryffa.
Yn ogystal â Dewi, ein Nawddsant, cofiwn hefyd am nifer o seintiau eraill a gyrhaeddodd Gymru yn eu cychod cyntefig i ledaenu’r efengyl. Cofiwn am William Morgan, yn unigrwydd ei fyfyrgell yn Ficerdy Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac am Griffith Jones, yn llwydni festri ei eglwys yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin:
O Dduw a sicrheaist
Gyflwyno d’Air i’n hiaith,
Canmolwn y gwŷr hynny
Fu’n ffyddlon i dy waith,
A boed i ni ar Ddydd ein Sant
Gyflwyno’u henwau hwy i’n plant.
Y seintiau gwrol deithiodd
Mewn badau dros y don,
Gan herio llid corwyntoedd
A dychrynfeydd o’r bron
Wrth gario’r Newydd Da am Grist
I lonni gwedd paganiaid trist.
Y gannwyll yn y parlwr
A’i golau gwan ynghyn
Yn cyfarwyddo’r cwilsyn
Hyd ddail y papur gwyn;
Rhown glod i’r Esgob am ei waith
O droi Gair Duw yn fêl i’n hiaith.
Yr awydd a’r amynedd,
Yr ynni mawr a’r nwyd,
Gwireddu ei arddeliad
Yn yr ysgoldy llwyd
Wnaeth yr offeiriad yn ddi-ball
Er achub enaid gwerin ddall.
Yn nyddiau yr edwino
Ymysg dy bethau Di,
A’r mynych fygythiadau
Sydd ar ein heniaith ni;
O! tyred, Iôr, â’th Ysbryd Glân
I gynnau eto ‘Ngwlad y Gân.
Yn sicr, mae hi’n ddyletswydd arnom ninnau barchu iaith ein cenedl, nid oherwydd fod yr Iaith Gymraeg yn well nag unrhyw iaith arall, ond oherwydd mai’r Iaith Gymraeg a roddwyd yn rhodd i ni.
Ac ar ben hynny, fe gawson ni wlad hardd i fyw ynddi, a diwylliant. Ein braint a’n cyfrifoldeb ni ydy sicrhau hynny i’n plant, ac i blant ein plant.
Fel y llefarodd Emrys Wledig yn ei araith a welir yn nrama Saunders Lewis - ‘Buchedd Garmon’ ... a ddarlledwyd gyntaf ar Ŵyl Dewi 1937:
Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
i’w thraddodi i’m plant ac i blant fy mhlant yn dreftadaeth dragwyddol;
ac wele’r moch yn rhuthro i’w maeddu.
Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion, cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch ataf i’r adwy, sefwch gyda mi yn y bwlch,
Fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.
Yn ei englyn diweddaraf, mae Simon ap Lewis yntau’n pryderu dros ddyfodol yr Iaith. Fe’i hysbrydolwyd gan gân olaf 'Shimli' - albwm newydd ‘Cynefin’ (prosiect cerddorol y canwr a'r hanesydd, Owen Shiers) sef, ‘Faerdre Fach.’ Hwyrach i chithau gofio gwarth ‘Happy Donkey Hill’ - pryd y disodlwyd enw hanesyddol Cymraeg gan enw erchyll, chwerthinllyd ac ansensitif - enw busnes llety a brecwast newydd yng nghyffiniau Llandysul. Dyma enghraifft arall o’r ‘moch yn rhuthro’ i faeddu’r winllan!
Lladdodd byddin y gyfrinach, o’i llwch
Codwyd lloches afiach
I fusnes ac i fasnach,
Doedd dim lle i Faerdre Fach.

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon