Cyfarfu’r Gymdeithas Ionawr 21ain pan ddaeth Eryl Owain i’n hannerch yng nghyfarfod cyntaf 2026. Cafwyd noson ddifyr yn gwrando ar y siaradwr yn rhoi braslun o fywyd Yr Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r iaith Gymraeg.
Mae Eryl yn hanu o’r Bont-ddu, Meirionnydd ond wedi byw ers amser ym Mhenmachno ac wedi ymddiddori yn hanes yr ardal honno gan gynnwys dyffryn y Wybrnant gerllaw lle ganwyd William Morgan. Cysylltir y Tŷ Mawr, Wybrnant â phlentyndod Williams Morgan er mai mewn tŷ cynharach ar yr un safle y’i ganwyd.
![]() |
| Clawr llyfr Eryl Owain |
Bu’r darlithydd yn olrheinio hanes Tŷ Mawr a fu’n furddun ar un adeg ond adferwyd y tŷ i’w gyflwr gwreiddiol yn y 1980au gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer dathlu pedwar canmlwyddiant cyfieithu’r Beibl yn 1588. Mae’r Wybrnant ei hun yn gwm llawn rhamant a hanes.
Erbyn hyn mae copi o’r Beibl gwreiddiol yn cael ei arddangos yn y Tŷ Mawr dan amglychiadau arbennig ac mae yno gasgliad o feiblau o nifer o wledydd yn yr iaith frodorol.
Mae’r tŷ ar gau dros y gaeaf gan agor eto yn y gwanwyn a gellir cael gwybodaeth yma:
TVJ
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2026
.jpg)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon