15.4.23

O Gymru i Gatâr

Yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd -sy’n swnio fel oes yn ôl bellach- daeth ein cenedl fach i amlygrwydd rhyngwladol yn chwarae yng nghwpan y byd yn Nghatâr yn y dwyrain canol. Serch na lwyddwyd i fynd ymhellach na’r rownd gyntaf, gwnaeth y tîm a’u cefnogwyr, y wal goch enwog, argraff fawr. Dyma atgofion un teulu o ardal Llafar Bro a fu yno – tad a dau fab - Dewi, Iwan a Geraint Williams, gyda diolch yn arbennig i Geraint am gydlynu’r cyfweliad hwn efo ni.

Beth wnaeth ichi benderfynu fynd i Gatâr?
Geraint – Dwi wedi bod yn dilyn tîm Cymru dramor pob cyfle posib ers 2014. Roeddwn yn ffodus o gael bron i fis bythgofiadwy yn Ffrainc yn Ewro 2016 ac yn siomedig o golli allan ar Ewros 2022. A gan mai’r Cwpan y Byd oedd hwn, doedd na 'rioed amheuaeth genai – roeddwn yn bendant am fynd allan yna.
Dewi – wedi ymddeol ers ryw ddwy dair mlynedd roedd y rhyddid i allu mynd, a gan mai Cwpan y Byd oedd hon, roedd hi am fod yn anodd dweud na. Llwyddodd Geraint i gael gafael ar ddau dicad felly yn gyfle rhy dda i wrthod.

 Am faint oeddech chi yno a sut oedd y daith?

Geraint – roeddwn allan am dair gêm Cymru. Hedfan yn syth o Fanceinion i Doha heb stopio. Awyren moethus iawn Qatari Airways yn gwneud siwrna 7 awr a ‘chydig yn un cyfforddus iawn. Am 11 diwrnod roeddwn yno i gyd.
Dewi – roeddwn i allan am yr ail a’r drydedd gêm. Hedfan i Dubai wnes i – via Istanbul. Awyren ddim mor braf a’r un gafodd Geraint i Doha, ond fe wnaeth hi ei job! 9 dirwnod oeddwn i ffwrdd o adra.

Ble oeddech chi’n aros ac oedd yna Gymry eraill yno?
Geraint – roeddwn yn hedfan allan efo fy mrawd a dau ffrind. Roeddwn yn aros y ddwy noson gyntaf yn Doha ei hun (i weld gêm gyntaf Cymru), yna wnes i hedfan o Doha i Abu Dhabi ac yna bws i Dubai. Yna aros yn Dubai am 8 noson efo Dad yn ymuno â fi yna – yna hedfan i Doha ar gyfer yr ail a’r drydedd gêm (efo Dad). Yn Doha roeddwn mewn apartment preifat, ac roedd Cymry eraill yna hefyd. Roedd yr apartment yng nghanol ardal draddodiadol felly cael profiad o siopa a bywyd bob dydd Qatar. Cawsom brofiad o siopa mewn ‘Souk’ – archfarchnad – lle roedd pob dim ar gael – yn cynnwys plastars blisters ar gyfer y ddwy droed!
Yn Dubai roedd yn brofiad ychydig yn wahanol – gwesty ar lan môr, efo sawl pwll. Roedd y gwesty yn llawn cefnogwyr pêl droed o bob man – môr o hetiau bwced y Cymry yma ynghyd â chefnogwyr o Brasil, Argentin, Lloegr, Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Uruguay a’r UDA.
Dewi – Dubai yn unig roeddwn i yn aros ar y taith. Yn amlwg yn yr un gwesty a Geraint. Nefoedd gallu ymlacio yn yr haul a nofio rhwng gemau pêl-droed.

I faint o gemau aethoch chi a sut oedd yr awyrgylch?
Geraint – tair gêm Cymru. Dewi – yr ail gêm a’r drydedd.
Awyrgylch ffantastig. Môr o gefnogwyr Cymru fel un côr mawr. Does dim geiriau i ddisgrifio bod yn y stadiwm, gweld y tîm yn dod allan, tân gwyllt yn saethu allan o fodel enfawr o gwpan y byd yn y cylch canol cae. A gweld crys enfawr Cymru yn cael ei ddadorchuddio – rhoi teimlad ble mae ias yn rhedeg trwy gorff rhywun a blew ar gefn gwar yn codi.
Awyrgylch gêm Iran ychydig yn wahanol. Rhannu metro (fel wnaethom efo UDA) gyda chefnogwyr Iran –cân ganddyn nhw, yna cân gan y Cymry, yna yn ôl i Iran.
Roedd teimlad gwahanol cyn y gêm wrth i anthem Iran gael ei chanu oherwydd y trwbl sydd yn Iran ar y pryd– roedd cefnogwyr Iran i gyd yn bŵio eu hanthem, fel protest yn erbyn yr hyn oedd yn digwydd yn eu gwlad.
Gêm Lloegr – rhyw deimlad ‘cyfarwydd’ – lot fawr o banter rhwng cefnogwyr y ddwy wlad. Yn y gêm ei hun, adeg hanner amser yn 0-0 roedd rhyw deimlad bod chwarter cyfle....ella, pe bai Cymru yn dal Lloegr ac ella yn cael un gôl a gobeithio byddai Iran yn cael gôl i unioni sgôr eu gem nhw efo UDA – byddai’r canlyniadau yma wedi rhoi Cymru drwadd efo trwch blewyn.....ond pum munud mewn i’r ail hanner – roedd y gobaith ffŵl yna wedi mynd.

Gawsoch chi gyfle i weld dipyn o Gatâr? Sut wlad ydy hi?
Wrth gwrs! Gwelais ei bod hi yn wlad boeth iawn, er drwy siarad efo’r bobl lleol, roedd 32 gradd celsius yn ‘oer’ efo tymheredd yn yr haf yn cyrraedd dros 50 gradd! Cawsom hefyd y profiad o ardal Corniche – sydd fel promenad hir (hir iawn) ac yn ymyl fano oedd yr Het Fwced anferth! Bum hefyd yn ardal y West Bay – sef yr ardal sydd â’r adeiladau uchel – a chyn gêm Lloegr wnes i a fy nhad gael y profiad o far y gwesty Intercontinental oedd ar lawr 55 – dyna be oedd golygfeydd wrth iddi fachlud dros Doha. Un o’r pethau mwyaf “wow” oedd gweld fod y wlad yma yn defnyddio plwgiau tri-pin yn union fel adra – alla i ddim dechra deud pa mor wych – wirioneddol wych oedd hyn! Y pethau bach. Roedd hi’n wlad ddiogel. Dim teimlad o gwbl bod rhywun yn gwylio ymddygiad, a ddim ofn rhoi troed allan o’i le yr un waith.

Welsoch chi unrhyw beth wnaeth eich synnu?
Un peth wnaeth fy synnu oedd pa mor wahanol oedd y wlad i’r hyn gafodd ei phortreadu yn y cyfryngau. Does dim gwadu fod ‘problemau’ yn y wlad o ran cyfreithiau sy’n groes i’r hyn yr ydym ni yn ei ystyried i fod yn deg, moesol a chydradd; ond wrth lanio roeddwn yn disgwyl camu allan i wlad oedd yn debycach i Iran, Saudi Arabi a Gogledd Korea, ond roedd fy mhrofiad i yn hollol wahanol. Dw i ddim yn amau fod ychydig pethau wedi ‘ymlacio’ yna tra roedd llygaid y byd ar y wlad, ond dwi wirioneddol yn teimlo nad yw pethau mor ddrwg ag y byddai’r newyddion eisiau i rywun gredu. Roedd genod yn gyrru ceir, nifer o aelodau yr heddlu yn fenywaidd, a gwelais dau ddyn lleol yr olwg yn cydgerdded law yn llaw. Sawl gwaith fe wnaeth bobl ofyn am lun am eu bod yn ymddiddori yn yr hetiau bwced ac eisiau llun efo cefnogwyr Cymru – nid yn unig cais gan gefnogwyr gwledydd eraill, ond pobl leol – gan gynnwys yn ardal fwy gyfoethog/busnes y West Bay – cael ein trin fel Selebs... bron iawn!

Wnaethoch chi gymdeithasu efo cefnogwyr gwledydd eraill? Oedden nhw’n gwybod am Gymru?
Fydda i wastad yn trio cael sgwrs a jôc efo cefnogwyr gwledydd eraill, hyd yn oed yn y gemau rhagbrofol. Ar y diwrnod cyntaf roedd cannoedd o gefnogwyr yr Ariannin wedi ymgynull ar un pier – felly aethom i’w canol nhw – baneri glas a gwyn a chanu angerddol – roedd yn olygfa ynddi ei hun. Cawsom nifer o sgyrsiau efo cefnogwyr yr UDA, Iran a Lloegr cyn ac ar ôl y gemau a nifer o luniau grŵp. 

Roedd yn amlwg fod nifer enfawr o’r rhai sydd yn gweithio yn y sectorau gwasanaethu ac eraill yn dod o dramor – India, Nepal, Philippines, Malaysia ac Indonesia – mi wnes i a ‘nhad gymryd yr amser i gael sgwrs efo’r rhai oedd yn gweini yn ein ystafell ac wrth y byrddau ac ati a phob un yn glên y tu hwnt i’r hyn fysa angen iddynt fod.

Sut fuasech chi’n disgrifio’r teimlad o fod yn rhan o’r ‘wal goch’?
Mae’n deimlad unigryw bod yn ‘fricsan’ o’r Wal Goch, a dw i yn wirioneddol gydnabod bod rhai wedi bod o’m mlaen i yn dilyn Cymru dramor tra nad oedd safon y garfan mor uchel a perfformiadau yn wael – felly parch mawr i’r briciau yna sydd wedi bod yn sylfaen hanfodol i alluogi’r wal godi yn uwch a thyfu yn fwy llydan. Mae’n gyfle gwych gallu cyfuno cariad tuag at bêl droed ac at fy ngwlad, efo trafeilio a gweld gwledydd a llefydd newydd. Mae yn wirioneddol fel un teulu mawr a mae’n braf gweld wynebau newydd bob tro hefyd.

Beth yw eich hoff atgof?
Lle i ddechra?! Mor anghredadwy gweld Cymru ar lwyfan byd eang fel hwn, a hefyd yn cael ein derbyn, ein cyfarch, ein parchu a’n cydnabod fel gwlad a phobl gydradd â phawb arall, clywed y Gymraeg ar yr uwchseinydd yn y stadiwm, gweld y Ddraig Gych yn chwifio ym mhob man. Un olygfa fythgofiadwy oedd yn Dubai – tua 5 o’r gloch y bora, dad a finau yn cael tacsi i’r maes awyr, oedd tua 45 munud i ffwrdd, a convoy o dacsis yn gyrru ar brif ffordd Dubai, drwy ganol yr adeiladau eiconig yma i gyd – ac ym mhob tacsi, i’r chwith, dde, o’m blaen a thu ôl, oll allai rhywun weld oedd yr hetiau bwced Cymru – rhes o dacsis yn mynd â’r cefnogwyr i’r maes awyr.

A’r cwestiwn mawr tyngedfennol – wnaethoch chi gyfarfod Dafydd Iwan?
Cyn gêm Cymru ac Iran roedd trefniadau wedi eu gwneud fod Dafydd Iwan am ganu wrth yml yr Het Fwcad enfawr oedd yn ardal y Corniche – bae/promenâd. Dad a fi wedi glanio yn Doha efo digon o amser – wedi cael tacsi o’r maes awyr yn syth am y Corniche. Pob dim yn mynd yn iawn, tan i ni gael gwrthdrawiad car! Dim byd mawr a dim anafiadau ond digon o ddifrod i’r ddau gar. Bai ein tacsi ni oedd o! Yn fy marn i beth bynnag. Ond erbyn i ni gyrradd yr het fwcad roedd Dafydd Iwan yn gwneud cyfweliadau, wedi gorffan canu, a phawb yn gadael. Felly, ei weld o... do, ond cwrdd ag o a’i glywed yn canu yn fyw? Naddo!

- - - - - - - - - 

Cyfweliad gan Glyn Lasarus, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon