Darn o golofn John Norman, o rifyn Mehefin 2012
Yn y dyddiau gynt, byddai’r tyddynwyr yn cario menyn a
wyau i’w gwerthu’n y ‘llan.’ Cyn y rhyfel, cofiaf ein teulu ni’n cael bendith o
hyn. Roedd Janet, chwaer Anti Nel drws nesaf yn byw ar fferm fechan Pen Rhos - rhyw
dair milltir o’r pentref ar gyrion tir mynyddig y Rhinogydd. Byddai ei merch
hynaf, Eleanor, yn cerdded dros y tir diarffordd i ddal bws i Ddolgam ac wedyn
dros Rhiw Cefn i’r Stesion. Cofiaf ei sirioldeb hyd heddiw, a blas hyfryd y menyn a’r patrwm blodau ar ei
wyneb.
Byddai ymweliadau Mam a minnau efo Anti Nel i Ben Rhos ar
dywydd hafaidd yn bleser di-ben draw ar waethaf y siwrnai flinedig. Cawsom
groeso arbennig yno ... a’r ddwy ferch ifanc arall, Catrin a Lisa, yn ein swyno
wrth ganu penillion i dannau’r delyn fawr. Roedd Janet ac Anti Nel yn chwiorydd
i Jini Dolgam, sy’n dal yn Traws heddiw, a bellach yn ei naw- degau. Mae ei
merch hithau, Janet Simcox, archifydd o fri, yn cadw’r enw teuluol ‘Janet.’ Byddai teulu Pen Rhos yn
groesawgar iawn tuag at blant, gan iddynt gael profiad o golli un bachgen mewn
damwain, ac yn gwybod felly am bwysigrwydd plentyndod. Pleser i mi oedd cerdded
gydag Ifan, mab Pen Rhos i fyny at y ‘Grisiau Rhufeinig’ a’m dychymyg ifanc yn chwarae ar atsain y
creigiau.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon