21.5.22

Stolpia -Trwnc ac enwau eraill

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Crybwyllwyd yr enw Tŷ Gwyn gennyf yn y rhifyn diwethaf wrth sôn am y caban a ddefnyddid gan y ‘black gang’ ar gyfer eu paned a bwyta eu cinio. Dywedwyd wrthyf bod yr adeilad ar un adeg mewn defnydd fel cartref i deulu lleol, ac ar ôl i mi holi amryw yn yr 1960au, deallaf bod y diweddar William Williams (Wil Solo Horn) a Jennie, ei wraig, wedi bod yn byw yno am sbelan. Hoffwn glywed mwy am hyn os gŵyr rhai o ddarllenwyr Llafar tipyn o’i hanes fel tŷ.

Pan oeddwn yn gweithio yno deuthum i glywed am sawl enw lle nad yw’n adnabyddus i lawer heddiw gan fod cymaint o newidiadau wedi bod yno tros yr hanner can mlynedd diwethaf. 

Rwyf eisoes wedi dweud gair neu ddau am Ffos Cyfiawnder, Inclên Bôn, Twll Tarw, Yr Olwyn Goch, Ponc yr Efail, Sinc (y) Mynydd a Klondyke

Ymhlith yr enwau lleoedd eraill sydd wedi aros yn fy nghôf, y mae ‘Garat’, sef un o’r agorydd yn rhan uchaf Sinc y Mynydd. Roedd cryn sôn am y caban yn Sinc Mynydd, hefyd, sef ‘Ciniawdŷ Sinc y Mynydd’, er nad wyf yn ei gofio mewn defnydd, chwaith. Byddid yn trafod gwahanol bynciau ac yn cystadlu ar amrywiol destunau yno yn gyson ar ôl gorffen bwyta eu cinio. Y mae llyfrau cofnodion y ciniawdŷ ar gael yng Nghasgliad J.W.Jones yn Archifdy Prifysgol Bangor. Dyma bwt o gofnodion dydd Gwener, 30 Hydref 1903:

Y peth cyntaf oedd cân gan Eos Gwynant. Canodd gân ‘Y Smocio’ yn dda iawn. Wedyn darllenwyd cofnodion am y mis diwethaf a phasiwyd hwynt’.
Y dydd Mawrth canlynol ‘treuliwyd yr amser mewn rhydd ymddiddan ar Fiscal Policy Mr Chamberlain’.

Yn wir, y mae hi’n rhyfeddol bod dynion a oedd yn llafurio mor galed ym mherfeddion y ddaear yn treulio eu hamser prin yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau bron yn ddyddiol yn eu ciniawdŷ.


Enwau lleoedd eraill a glywais tra’n gweithio yno oedd ‘Gwaelod y Trwnc’, sef rhan isaf inclên y glorian ddŵr, neu’r ‘Trwnc’ ar lafar (water balance). Gyda llaw, methwn a deall pam y galwyd ef yn ‘Trwnc’ tan welais ei ystyr mewn geiriadur ac mai hen enw ar danc dŵr ydyw. Y mae’r gair Cymraeg yn dyddio mor bell yn ôl a’r 1870au, os nad ychydig cynt. Gweithiai’r trwnc drwy ddefnyddio tanc yn llawn dŵr fel pwysau ar fath o inclên arbennig a phan gyrhaeddai hwnnw’r gwaelod byddai’n arllwys y dŵr ohono. Wrth iddo wneud ei ffordd i lawr yr inclên byddai tanc gwag arall gyda lle i osod y llwyth arno, boed yn ddarn mawr o lechfaen ar sled neu wagen rwbel yn cael ei gludo i fyny i’r top, h.y. gweithiai fel gwrthbwysedd. Er iddynt godi tŷ drwm yn gweithio gyda thrydan yn ei le flynyddoedd cyn fy nyddiau i yno, roedd yr enw yn dal mewn defnydd yn yr 1960au. 

Efallai y caf sôn am rai enwau lleoedd eraill y tro nesaf gan fod amryw ohonynt wedi mynd yn angof ac yn hollol ddieithr i’r mwyafrif heddiw.
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon