13.1.19

Llwyddiant Ysgubol Yr Ŵyl Gerdd Dant

Erthygl gan Iwan Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2018.

Bu dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd yn ddiwrnod hanesyddol yn nhre'r Blaenau. Cynhaliwyd Gŵyl genedlaethol yma am y tro cyntaf ers 82 o flynyddoedd. Do, daeth Gŵyl Cerdd Dant Cymru atom am y tro cynta' rioed. O ystyried i nifer o arloeswyr yr hen grefft fod â chysylltiad â 'Stiniog, mae'n rhyfedd meddwl na fu yma o gwbl yn ystod 70 mlynedd ei bodolaeth!

Lleolwyd yr Ŵyl yn Ysgol y Moelwyn, a gwnaed defnydd o Neuadd Ysgol Maenofferen, y Ganolfan Hamdden a'r Ganolfan Ieuenctid yn ogystal ag adeilad Sefydliad y Merched i gynnal y rhagbrofion. Bu cystadlu brwd gydol y dydd yn yr amrywiol adrannau - cerdd dant, canu'r delyn, llefaru i gyfeiliant, dawnsio gwerin a chanu gwerin. Credir i fwy gofrestru i gystadlu eleni nag a wnaeth erioed. Yn nhyb y rhai a fynychodd, neu a fu'n dilyn y gweithgarwch ar deledu a radio, cafwyd Gŵyl hynod lwyddiannus. Soniwyd am safonau uchel y cystadlu, ond yn fwy na hynny, am y croeso twymgalon a estynnwyd gan bobol garedig a chlên Blaenau a'r fro.

Alwen ac Alwen yn cadw trefn yn yr Ŵyl.
Llun gan Alwena Morgan
Bu criw bychan wrthi'n brysur ers dros ddwy flynedd yn trefnu'r Ŵyl ac yn cynnal gweithgareddau codi arian. Fe groeswyd y targed o £40,000 a osodwyd ers tro, ac mae'n diolch fel pwyllgor gwaith yn fawr i bawb a gyfrannodd. Mae'n dyled yn fawr i Mr. Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn a'i dîm brwdfrydig, gweithgar. Hebddyn nhw, fydden ni ddim wedi llwyddo i leoli Gŵyl fawr fel yma gyda'r fath lwyddiant. Bu Bethan Haf Jones yn ysgrifenyddes hynod effeithiol ac Anthony Evans yn drysorydd o'r radd flaenaf. Braint fu cael dau brofiadol fel Dwyryd Williams ac Alun Puw i arwain y tîm o stiwardiaid. Gellid enwi llawer mwy, ond rhaid ymatal.

Yn hytrach, carwn drwy gyfrwng y papur hwn ddatgan fy niolchgarwch I BAWB a gyfrannodd i lwyddiant y diwrnod. Bu i mi dderbyn ugeiniau o negeseuon testun ac e-bost yn ein llongyfarch ar ein ‘llwyddiant ysgubol', heb sôn am y cannoedd a fynegodd hynny ar lafar.

Ymdrechion y tîm cyfan a gyfrannodd at hyn - a rhan allweddol o'r tîm hwnnw oedd y rhai fu wrthi am oriau'n stiwardio wrth ddrysau, coridorau, ystafelloedd rhagbrawf ac ymgynnull ac yn cyfarwyddo'n y lleoedd parcio. Rhaid cyfeirio hefyd at Morwenna a'i thîm diflino o gynorthwy-wyr fu'n porthi'r cannoedd gydol y diwrnod hir.

Fel Cadeirydd, mae'n ddyletswydd arnaf ddiolch i BOB UN OHONOCH A GYFRANNODD YMHOB FFORDD.


Dawnswyr Talog -enillwyr y Parti Dawns Agored. Llun gan Ffion Rees, o wefan BBC Cymru Fyw*


------------------------


Dyma ychydig o’r sylwadau o dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol. Geiriau hynod galonogol a roes ddarluniau i’r byd a’r betws o lwyddiant y diwrnod:

ELAIN WYN [cyfeilydd yn yr Ŵyl] … “Llongyfarchiadau i chi ar Ŵyl wefreiddiol.”

DYLAN CERNYW [cyfeilydd yn Yr Ŵyl] … “Llongyfarchiadau mawr ar Ŵyl arbennig!
Llond lle o dalent a chriw da o ffrindiau
.”

ANGHARAD WYN JONES [beirniad yn Adran y Delyn] … “Diolch yn fawr i chi am y croeso twymgalon. Wedi mwynhau fy hun yn arw.”

GWENAN GIBBARD [Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru 2016-18] … “Llongyfarchiadau enfawr!

DELYTH VAUGHAN ROWLANDS [Swyddog Gweinyddol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru] …
Pleser pur cydweithio hefo pawb yng nghefn llwyfan. Da chi di dangos ymroddiad a balchder mawr!

TREBOR a CARYS EVANS [Trysorydd a Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol CCDC] … “Trefniadaeth wych a phobol glên!

KEITH EVANS [Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro 2017] …
Sobor o falch eich bod wedi cael Gŵyl lwyddiannus dros ben. Clywed eich bod wedi cyrraedd a mynd heibio eich targed ariannol yn anrhydeddus iawn. Bydd gwên lydan ar wyneb John Eifion! Nawr te, bydd raid i bobol Sir Gâr ei gwneud hi’n ‘hatrick’ iddo!!

PETER a NIA ROWLANDS [Nia’n gadeirydd yr is-bwyllgor Cerdd Dant lleol] ...
Diolch o galon i bobol ‘Stiniog am Ŵyl fendigedig. Fe dalodd eich gwaith caled ar ei ganfed ac mae Merched y Gegin Ysgol y Moelwyn yn haeddu medal. Diolch i chi i gyd!

RHIAN JONES [aelod o’r Pwyllgor Gwaith] ... “Diwrnod arbennig! Balch o fod wedi cael bod yn rhan ohono. Mor falch hefyd o’r croeso roddodd Blaenau i Gymru.”

ELIN ANGHARAD DAVIES [aelod o’r is-banel cerdd dant lleol, hyfforddwraig ac arweinydd CÔRWST] ... “Diolch am eich holl waith ac am y croeso.

MENNA THOMAS [hyfforddwraig PARTI’R EFAIL, Pontypridd] ... “Llongyfarchiade gwresog i bawb fu’n gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant yr Ŵyl a diolch i chi i gyd am eich croeso a’ch hynawsedd.

NANS ROWLANDS ... “Diolch Blaena a’r Pwyllgor Gwaith ymroddedig. Gallwch fod yn hynod falch o Ŵyl wefreiddiol!

BETHAN WILLIAMS ... “Blaenau – Diolch am y croeso! Pawb yn garedig iawn.

CARWEN ARLANYMOR ... “Diolch yn fawr i bawb!

IWAN MORGAN[Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith] ... “Mae nghwpan i’n llawn! Diolch o galon i bawb fu ynglŷn â’r Ŵyl ddaeth â cherdd dant yn ôl at ei wreiddiau ym mro ‘gwythïen y lechen las’. Gwir ydy deud mai ‘un dre o fil yw’r dref hon!

-----------------------------

* Lluniau GCD2018, BBC Cymru Fyw

Manylion yr enillwyr i gyd, a dolenni at glipiau fideo o'r perfformiadau, ar dudalen gweplyfr/facebook yr Ŵyl.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon