23.1.19

Stolpia -Eira

Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au. Cyfres Steffan ab Owain.

Tybed os cawn ni drwch o eira neu rew y gaeaf hwn, neu’r ddau, o bosibl. Cafwyd sawl gaeaf oer gyda chnwd o eira yn y 50au, er nad oedd yr un ohonynt mor ddrwg ag un 1947, wrth gwrs. Roedd gweld yr eira ar y ddaear yn rhoi  cyffro i ni’r hogiau, ond nid i’r oedolion, oherwydd gallai eira trwchus ar y ddaear achosi trafferthion ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, ac efallai y byddai’n smit yn chwareli’r ardal yn ei sgil. Yn ddiau, y mae amryw ohonoch yn cofio faniau’r dynion llefrith, lorïau glo, ein dynion bara, a sawl un arall yn gorfod rhoi cadwyni am olwynion eu cerbydau er mwyn cyrraedd ein tai a’n hysgolion yn ogystal a sawl lle arall trwy’r eira a’r rhew.

Llun- Paul W

Soniais o’r blaen fel y byddem ni yn taflu eira o ochr y ffordd fawr os yr oedd dynion y cyngor wedi taenu graean ar hyd y rhiwiau lle byddid yn sledio, ac wrth gwrs, os gwelai rhai o’r to hŷn ni yn gwneud ffasiwn beth, clywid bloedd - “bachwch chi o’na y diawliaid bach”!

Cofiaf un tro inni wneud rhywbeth dieflig arall gydag eira o’r ‘math iawn’, sef gwneud cesyg eira mawr a’u gosod ar draws y ffordd yn y Rhiw, fel bod pob cerbyd yn cael trafferth i fynd drwy’r rhwystr. Dro arall, bu dau neu dri ohonom yn gwneud rhesiad o beli eira, neu ‘mopins’, fel y’i gelwir gan hogiau’r oes honno, a phan ddaeth un o’r faniau llefrith heibio, taflwyd y mopins ar hyd ochr y fan lefrith, a chredwch chi fi, bu’n rhaid inni ei g’leuo hi oddi yno yn bur fuan gan fod y dyn llefrith am ein gwaed ni.

Un o’r pethau eraill sydd yn sefyll yn fy nghof yn sgîl un gaeaf o eira yw cael oerfel ar fy arennau a gorfod aros yn fy ngwely mewn poenau am ddyddiau o’i herwydd. Y rheswm  i mi gael oerfel oedd o oherwydd i Io-Io, Ken Robs a finnau, ac efallai un arall, wneud cwt o eira a rhew -neu iglŵ o fath- ar ochr wal y lein fawr a Phen Cei lle rhedai’r lein fach o Chwarel Oakeley i Gei London. Roeddem wedi gwneud lle i eistedd ynddo gyda lympiau o rew ac wedi gosod llechen a brwyn ar ei ben.Yna, daeth syniad i ben un ohonom i nôl rhywbeth i fwyta o’n cartrefi a dod a’r bwyd yn ôl i’r iglŵ bach, ac yno y bu’r  hogiau trwy’r prynhawn rhewllyd a’r canlyniad fu fferru a dioddef  yn arw.

Cae Dolwael, yr hen Ysbyty, a Ffordd y Rhiw dan eira (tua 1958). Llun o gasgliad yr awdur.
Peth arall sydd wedi aros yn fy nghôf o’r cyfnod yw’r stori a glywais am lwynog mewn eira un gaeaf gan fy niweddar ewythr ‘Yncl Dic’, sef Richard Owen, Dolbryn, Glan-y-pwll. Roedd fy ewythr ar ei ffordd i’w waith yn Chwarel Oakeley yn gynnar un bore oer ac eira tros y wlad ac yn cerdded i fyny’r llwybr a arweiniai o ymyl Adwy Goch at y Bont Fawr, ac er nad oedd wedi boreuo’n iawn, roedd yr eira ar y ddaear yn goleuo’r fangre o’i gwmpas.Tra’n cymryd ei wynt ar y llwybr gwelodd lwynog tafliad carreg oddi wrtho yn cerdded yn dawel bach drwy’r eira ar y domen, ac yn anelu at y ffordd fawr islaw.

Synnwyd fy ewythr wedyn gan i’r llwynog lamu o un pen y ffordd i’r ochr arall, ac i waelod un o domennydd Llechwedd, naid go sylweddol a dweud y lleiaf, er y dylid cofio bod y ffordd yn llawer culach yr adeg honno, wrth gwrs. Methai fy ewythr a deall am dipyn, pam roedd wedi trafferthu neidio tros y ffordd yn hytrach na throedio trosti. Yr esboniad yn ei farn ef oedd bod y llwynog yn meddwl mai afon oedd y ffordd, ac nid oedd eisiau torri drwy’r eira a rhew a chael trochfa yn y dŵr oer. Tybed ai hyn oedd y rheswm?
------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2018.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon