Showing posts with label diwydiant ymwelwyr. Show all posts
Showing posts with label diwydiant ymwelwyr. Show all posts

7.11.23

Elwa dim o dwristiaeth?

Adroddiad ar YMCHWIL GYMUNEDOL gan Maia a Hanna, Cwmni Bro Ffestiniog

Cyflogir un o bob pump person yng Ngwynedd yn y sector twristiaeth ond yn aml mae'r gwaith yn talu'n sâl, yn ansicr a thymhorol. Mae'r cynnydd mewn Airbnb a gwyliau llogi tymor byr yn debygol o wneud ffeindio cartref yn anos i bobl leol ac yn golygu bod ymwelwyr yn gwario llai yn yr ardal.

Fe gaiff y modd y bydd twristiaeth yn datblygu yng Ngwynedd dros y degawd nesaf effaith fawr ar dwristiaeth yn yr ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'n bwysig gweithio allan pa fath o dwristiaeth yr ydym eisiau ei weld yn datblygu a sut i gyflawni hynny. 

Cynhaliwyd prosiect peilot drwy corff noddi ymchwil, sef Ymchwil ac Arloesi DG / UK Research and Innovation, i alluogi rhwydwaith ymchwil cymunedol i edrych ar sut y gall y cymunedau chwarelyddol gael mwy o lais a rheolaeth dros y materion sy'n bwysig iddynt hwy, cefnogi trafodaeth a datblygiad cymunedol ac adeiladu dyfodol llewyrchus a chynaliadwy. 

Er mwyn mynd i'r afael â'r gwaith sefydlwyd tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys cynrychiolwyr o Gwmni Bro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen, a Siop Griffiths Cyf (Penygroes) gyda chefnogaeth academyddion Economi Sylfaenol Cyf / Foundational Economy Ltd a'r elusen addysgol, Economy. 

Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin cyhaliwyd ymchwil ar dwristiaeth yng Ngwynedd yn hwyluso trafodaethau yn y gymuned ac ymchwil i ddeall pa fath o dwristiaeth mae'r cymunedau chwarelyddol eisiau ei weld a'r cyfleoedd i ddylanwadu ar ddyfodol twristiaeth yn lleol. Siaradwyd efo bron i gant o gyfranogwyr gan gynnwys ymwelwyr a thrigolion lleol yn ymwneud â gŵyl Hongian (yn y Blaenau, 19-21 o Fai),  dysgwyr 16 i 18 oed Coleg Meirion-Dwyfor, ymwelwyr caffi Antur Stiniog a llawer mwy. 

Isod mae canlyniadau a dadansoddiad bras o ganlyniadau Bro Ffestiniog o’r ymchwil peilot gan obeithio bydd yn ddechreuad ar waith yn ymestyn dros tair mlynedd. 

Cwestiwn 1: Mewn un gair; pam ‘dach chi’n meddwl bod pobl yn ymweld â’r fro?      

Fe grewyd ‘cwmwl geiriau’ efo’u hymatebion, oedd yn cynnwys pethau fel ein hatyniadau hardd er enghraifft y mynyddoedd, ond elfennau eraill hefyd fel Zip World a Rheilffordd Ffestiniog, a roddodd ymateb difyr gyda sawl bersbectif o ran be oedd pobl yn meddwl sy’n atynnu pobl yma.
Y geiriau amlycaf yn y cwmwl oedd: mynyddoedd; prydferthwch; scenery; slate; ac ati.


Cwestiwn 2: Lle ‘dach chi’n meddwl ddylai gael ei rannu/werthfawrogi mwy yn yr ardal?

Ar gyfer hwn, roedd map ar y wal yn gofyn i bobl roi sticer i ddangos pa leoliadau oedden nhw’n meddwl dylai gael eu harddangos mwy, ac fe ddengys yr ymatebion bod pobl yn awyddus i arddangos mwy o’u ffefryn-lefydd yn y fro, boed hynny yn elfen hanesyddol fel y canfyddiadau archeolegol, eraill yn rhoi llefydd fel Moel Hebog, y Rhinogydd a’r Wyddfa os nad oeddent yn ymateb gyda llefydd yn Ffestiniog, ac yn ddiddorol iawn, ni roddwyd unrhyw atyniadau i lawr, dim ond llefydd yn nodedig am eu harddwch a’u hanes yn lleol. 

Roedd hefyd awgrym bod pobl eisiau cadw a chynnal ardaloedd fel Bro Ffestiniog yn rywle tawel, llonydd, a chadw ymwelwyr yn y llefydd mwy poblogaidd fel Llanberis.

Cwestiwn 3: Yn eich barn chi i ba raddau mae’r ardal yn elwa o dwristiaeth?   
Mae’r data yn awgrymu bod y mwyafrif o bobl lleol yn mynd yn fwy tuag at y barn bod yr ardal yn elwa dim ond ychydig neu ddim o’r diwydiant dwristiaeth, tra bod ymwelwyr yn fwy o’r farn ei bod yn elwa llawer. Er hyn, mae hefyd yn glir bod ymateb amrywiol wedi bod gan bobl sydd unai yn ‘nabod yr ardal yn dda i gymharu â’r rheiny sydd ddim. 

 

Cwestiwn 4: Sut hoffech chi weld twristiaeth yn datblygu yn y dyfodol?
Roedd yn amlwg bod gan bobl farn amrywiol ar yr hyn yr hoffent ei weld ar gyfer dyfodol twristiaeth. Mynegodd llawer o unigolion yr awydd i gefnogi a hyrwyddo busnesau a busnesau newydd lleol. Cafodd cau sawl siop ar y stryd fawr effaith amlwg ar ardal Ffestiniog, gyda 17% o'r ymatebwyr yn galw am gymorth busnes. Dywedodd un ymatebydd, "Mae angen i ni ddod at ein gilydd fel busnesau a thrigolion i weld sut y gallwn hyrwyddo'r ardal gyfan." Ar y cyfan, roedd cred gref bod angen i bawb gydweithio i hyrwyddo'r ardal a gwneud iddi ffynnu.

Roedd isadeiledd hefyd yn ymddangos mewn llawer o ymatebion gan gynnwys newidiadau mewn parcio yn y dyfodol a chanolfan groeso fwy amlwg i rannu gwybodaeth yn yr ardal.

Yn ôl 12% o'r ymatebion, dylai'r ardal hyrwyddo eco-dwristiaeth tra hefyd yn gwarchod yr amgylchedd. Roedd yr ymatebion hyn yn gyffredin mewn ymatebion Cymraeg, gyda nifer yn galw am dwristiaeth sy'n parchu'r ardal a'r diwylliant lleol. Yn ogystal, cafodd twristiaid eu hannog i gadw'r ardal yn lân ac yn daclus.

Cwestiwn 5: Ydych chi wedi clywed am y Llwybr Llechi?
Roedd ymwybyddiaeth o Lwybr Llechi Eryri ymysg cyfranogwyr dros ddeunaw oed yn uchel (66%) ond roedd y gwrthwyneb yn wir ymysg cyfanogwyr rhwng 16 a 18 oed (dim ond 15.4%). Awgrymir bod lle i wella yn hywyrddo’r llwybr yn enwedig ymysg pobl ifanc. 

I drafod y prosiect neu cael fwy o wybodaeth cysylltwch a cwmnibro@cwmnibro.cymru

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023






11.8.20

Stiniog o’r Wasg Erstalwm (2)

Ail bennod cyfres Vivian Parry Williams

Daw hysbyseb yn y North Wales Chronicle (NWC) 13 Mai 1830, a gwybodaeth am ddarn o dir, 400 erw o faint, ynghyd â thri llyn, neu three large pools, yn ôl geirfa’r hysbyseb, oedd ar osod yn y plwy’. Roedd y pools hyn yn orlawn o frithyll, ac ychwanegai’r hysbyseb y gellid adeiladu tŷ ar y safle petai angen. Gofynwyd i’r sawl â diddordeb gysylltu â Mr Robert Owen, "Hafod Ysbytty, Festiniog", am fwy o wybodaeth. (Tybed ai dau lyn Gamallt a Llyn Bryn Du oedd dan sylw?)

Roedd chwarel lechi ar osod ger ‘Stiniog mewn hysbyseb a welid yn y Liverpool Mercury ar 20 Awst 1830. Roedd ffermydd mewn plwyfi cyfagos ar osod hefyd. Mae’r gybolfa o gam-ddehongli a chamsillafu enwau cynhenid gan Saeson y 19 ganrif yn ddolur i’r llygaid yn yr hysbyseb. Cynhwysir rhan ohono yn yr iaith, neu’r fratiaith, wreiddiol, i brofi nad ffenomen newydd yw sarhau’r Gymraeg. Byddai yr isod o ddiddordeb i’n cymdogion o Drawsfynydd, Dolgellau ac Ysbyty Ifan, yn sicr.

"To be Let, for the low rent of £160, in one of two Farms. Pantglas, situate in Prawsfinith Parish, eight miles from the town of Dolgelly, containing 500 Acres of LAND, well fenced and inclosed- about 150 Acres Arable, the remainder Meadow Pasture, and Coppice...
 Also, a FARM (part of Cefn Garoo Farm, in Sputty Evan) containing 150 Acres of Meadow and Pasture LAND, with or without the exclusive right of Sporting over Grousing Hills, twelve miles in circumference..."


Pwy ddaeth yn denantiaid Pantglas yn Nhrawsfynydd, a’r tyddyn unig ar ben y Migneint, Cefn Garw, yn Awst 1830 tybed? 

Cefn Garw
 

Pum mlynedd yn ddiweddarach, ar 6 Ebrill 1835, roedd chwarel lechi "Cafn" Garw, ger "Festiniog" ar osod. Yn ôl yr hysbyseb, roedd y chwarel yn cynnwys craen, olwyn ddŵr, tŷ i’r asiant, a thai i’r gweithwyr, gyda hawl hefyd i lês i dyllu am blwm dan 2,000 o erwau gerllaw y chwarel. Roedd y cyfan o fewn cyrraedd i ffordd dyrpeg, a dim ond wyth milltir i ffwrdd o borthladd yn ôl Mr Powell, Sadlar, 22 Dale St., Lerpwl, y gwerthwr.
 
Yn y NWC ar 29 Gorffennaf 1830 hysbysebwyd dwy fferm sylweddol gyfagos ar werth fel "Freehold Estates", sef Dduallt a Glanrafon, yn cynnwys dros 600 erw o dir rhyngddynt. Fferm arall ar werth oedd Bron y Manod, yn cynnwys 104 erw o dir, gyda rhan o Lyn Manod, gyda’i stoc dda o bysgod, yr adeg honno, yn rhan o’r stad honno.

Cynhaliwyd ocsiwn hefyd ar dair fferm yng Nghwm Cynfal, yn nhafarn Tan-y-bwlch ar 25 o Chwefror, 1831, sef Bryn Rodyn, Cae Iago, Llech-y-Ronw, yn ôl sillafiad y cyfnod, ar hysbyseb yn y NWC ar 6 Ionawr y flwyddyn honno yn rhoi manylion am leoliad y ffermydd hynny: 

"The above premises are situated in the most picturesque part of the Vale of Ffestiniog..."

Petai rhywun yn chwilio am lety, fesul wythnos neu fis, yn ardal ‘Stiniog ym mlynyddoedd cynnar y 19 ganrif, byddai’r hysbyseb am le felly at the head of the ever to be admired and truly romantic Vale of Ffestiniog (gyda ‘Ff’) i’w weld yn y Jackson’s Oxford Journal ar y 21 Mai 1831. Dywed hyn wrthym fod y fro hon yn adnabyddus gyda theithwyr yr adeg hynny. Y llety hwnnw oedd rhywle ger, neu’n rhan o’r Pengwern Arms, a’r lle yn addas ar gyfer teuluoedd medda’r hysbyseb. Roedd pum llofft a thri pharlwr, a’r cyfan wedi eu peintio a’i addurno ‘yn ddiweddar’gan y perchennog, Martha Owen, ac ar gael am brisiau rhesymol ganddi. 

Ymysg atyniadau’r ardal y flwyddyn honno, fel heddiw, oedd y nifer o lynnoedd ar gyfer pysgotwyr, a hefyd "good salmon fishing within a mile". Gellid hefyd hurio car a cheffyl yno ar fyr rybudd i deithio o amgylch y fro. Roedd hysbyseb arall ynghlwm â’r uchod yn cynnig "newly-erected Gothic Cottage" ar osod, am gyfnodau o fisoedd, neu flwyddyn, gyda phedair llofft a’r ystafelloedd arferol eraill, stabl ar gyfer pedwar ceffyl, gyda dwy lofft uwchben. Byddai unrhyw gentleman a gymerai fantais o’r cynnig hwn yn gallu cael ei frecwast a’i de yn y bwthyn, a’i ginio yn y Pengwern Arms, oedd o fewn pum can llath o’r lle. Byddai’n ddiddorol gwybod pa fwthyn oedd/yw hwn.

Mae’n debyg’ mai’r cofnod o farwolaeth Daniel Williams mewn damwain mewn chwarel lechi yn ‘Stiniog, yn y NWC 14 Hydref 1834, yw’r adroddiad cynharaf mewn papur newyddion Cymreig o ddamwain angheuol yn chwareli’r fro? 

Ni enwir y chwarel, ond ceir gwybodaeth i Daniel golli ei fywyd pryd y cwympodd tunelli o gerrig arno.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020

12.7.20

Croeso i Gymru . . . ?

Erthygl gan Glyn Lasarus Jones

Ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud ym Mhrydain ddiwedd fis Mawrth, cafwyd adroddiadau lu yn y wasg am dwristiaid yn heidio i Gymru. Y mae’r achos wedi dangos mor ddiymgeledd ydym. Ni allwn warchod ein cymunedau a’n pobl ein hunain hyd yn oed.

Clywyd hanesion yn y wasg hefyd am berchnogion carafanau a thai haf yn sleifio dros y ffin liw nos. Roedd rhai – lleiafrif, fe hoffwn feddwl – yn cyfiawnhau eu teithiau gan ddweud eu bod yn cyfrannu at yr economi leol, ac y dylem ni, frodorion anniolchgar, fod yn fwy gwresog ein croeso.

Ond tybed pa mor werthfawr yw twristiaeth i Gymru mewn gwirionedd, yn arbennig y math a welir yng Nghymru? Un mudiad sydd wedi bod mor hyf â sôn am or-dwristiaeth yw Cylch yr Iaith.

Tynnant ar ymchwil wyddonol arloesol 'Effeithiau Twristiaeth ar yr Iaith Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru’ (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth), sy’n dangos y berthynas annatod rhwng twristiaeth, mewnfudo, a dirywiad y Gymraeg. Y ddadl yw bod twristiaeth yn annog ymwelwyr i ymsefydlu mewn ardal ac agor rhagor o gyfleusterau at fudd ymwelwyr eraill, sydd yn ei dro yn arwain at fwy o ymwelwyr, a llif o lafur rhad i’w gwasanaethu - yn aml o blith y dosbarth ymwelwyr ei hun. Y canlyniad yw bod ardaloedd twristaidd yn raddol droi yn ‘barciau thema’, sy’n cael eu rhedeg ar y cyfan gan gyn-dwristiaid er budd twristiaid newydd. Digwydd hyn yn aml ar draul pobl leol gan eu prisio allan o'u hardaloedd a chyfyngu ar nifer ac ansawdd y tai a'r swyddi sydd ar gael iddynt.

Ymhellach, mae cydnabyddiaeth gyffredinol nad yw swyddi yn y diwydiant ymwelwyr ar y cyfan yn talu’n dda iawn. Dywed Eurostat (Swyddfa Ystadegau Y Comisiwn Ewropeaidd) bod “costau ac enillion llafur yn y diwydiannau twristiaeth yn tueddu i fod yn sylweddol is nag y maent yn yr economi cyfan.

Pa syndod felly mai gorllewin Cymru yw -nid yn unig rhanbarth tlotaf y Deyrnas Gyfunol- ond  rhanbarth tlotaf gogledd Ewrop gyfan, a hyn er gwaethaf (neu efallai oherwydd?) yr holl ymdrechion adfywio economaidd diweddar sy’n seiliedig i raddau helaeth ar borthi’r llo aur hwn. Yn ddiddorol, yr ail ranbarth tlotaf yw Cernyw - man arall lle bu cryn sôn am or-dwristiaeth. Cyd-ddigwyddiad?

Yn ddadlennol iawn, dywed Pwyllgor Twristiaeth a Thrafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd* mai un o’r ffactorau sy’n cyfrannu at or-dwristiaeth yw dynodiad statws UNESCO, statws a ddaw o bosib i’r ardal hon cyn bo hir.

Nid problem i Gymru yn unig yw gor-dwristiaeth wrth gwrs. Disgrifiodd yr anthropolegydd disglair Theron Núñez ei effaith ar bentref Cajititlán ym Mecsico fel concwest gan oresgynwyr. Yng Ngwlad y Basg, Swistir, Fiji a Hawaii, yr un yw’r canfyddiad o hyd - mai ychydig o ddatblygiadau twristaidd sydd yn nwylo’r brodorion; mai ychydig yw’r brodorion a gyflogir; ac mai cyfran fechan iawn o’r arian a gynhyrchir sy’n aros yn lleol. Yn wir, yn Hawaii disgrifia’r brodorion dwristiaeth fel math newydd o siwgr - yn felys i’r tafod ond yn ddrwg i’r dannedd.

Nid fod twristiaeth yn broblem ynddo’i hun wrth gwrs. Gor-dwristiaeth yw’r broblem.  Yn eu hastudiaeth achos o fannau sy’n dioddef o’r cyfryw effaith, mae Pwyllgor Twristiaeth a Thrafnidaeth yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi sylw i sawl lle:
•    Mallorca a Venice, lle gwelwyd protestiadau gwrth-dwristiaeth.
•    Agia Napa ar ynys Cyprus; Dulyn a’r Ynys Hir yn Yr Alban, lle gwelwyd twristiaid eu hunain yn cwyno am or-dwristiaeth.
•    Lisbon, canol Prâg a chanol Warsaw, lle gwelwyd allfudiad trigolion a phreswylwyr.
•    Bucharest ac ardal UNESCO Geirangerfjorf yn Norwy, lle  gwelwyd problemau amgylcheddol.
Nid yw Cymru ar y rhestr – efallai am mai rhestr faith o wledydd sy’n mynd ati i liniaru effaith gor-dwristiaeth yw hi, ac nid ei hyrwyddo.

Dengys y map isod yr ardaloedd hynny lle mae Pwyllgor Twristiaeth a Thrafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn arbennig o bryderus amdanynt. Dim ond llond llaw sydd yna: Ardal y Llynnoedd, Cernyw, Arfordir Croatia, rhan o Sbaen, Cyprus, ac ie yn wir, Cymru yn ei chyfanrwydd bron iawn – lle mae iaith frodorol leiafrifol yn y fantol hefyd.


Beth yw’r ateb tybed?
Ar dir mawr Ewrop mae treth dwristiaeth yn gyffredin iawn. Pleidleisiodd ein Cynulliad yn erbyn hyn yn lled-ddiweddar.

Mae gan Gymru draddodiad hir o dorchi llewys ac ymdrechu drosti ei hun. Cododd ein hynafiaid gapeli efo’u dwylo eu hunain, yn aml yng ngolau’r lleuad ar ôl diwrnod o lafur caled. Ymladdasant â’r mynydd i gael tipyn tir i fwydo’u teuluoedd. Sefydlasant brifysgol â’u henillion prin i addysgu eu plant. Cymry fu’n gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd (Aneurin Bevan) a’r Pensiwn Gwlad (Lloyd George), a hefyd y mudiad cydweithredol (Robert Owen y Drenewydd).

Yma yn ardal Llafar Bro, rydym yn ffodus fod gennym ni gnewyllyn da o gwmnïau cydweithredol, oll o dan ymbarél medrus iawn Cwmni Bro Ffestiniog. Ysgwn i ai dyma’r ateb? Adfer perchnogaeth o’n heconomi ein hunain, fel y rhedir hi er budd Cymru ac nid er cyfleustod gwlad arall. Onid gwych o beth fyddai cael asiantaeth tai gwyliau cydweithredol ym mherchnogaeth yr ardal? Mae’r fath bethau yn bod yn yr Alban, yn ôl a glywais. Ac onid gwychach fuasai cael rhyw gronfa genedlaethol lle gellid prynu adeiladau a chyfleusterau a’u rhedeg fel metrau cymunedol er budd Cymru a’i hiaith?

Ysgwn i ai dyma’r ateb? Prynu Cymru’n ôl – tyddyn wrth dyddyn, erw wrth erw, bricsen wrth fricsen.

Mae’r dyfodol yn ein dwylo.


 * gwybodaeth a map o ddogfen o'r enw 'Research for TRAN (Transport and Tourism) Committee - Overtourism: impact and possible policy responses' (Senedd Ewrop, Hydref 2018), t76.
-----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020.
Mae'r rhifynnau digidol i gyd ar gael i lawr-lwytho o wefan Bro360.