Showing posts with label Ffatri. Show all posts
Showing posts with label Ffatri. Show all posts

1.11.23

Stolpia- Ysgoldy Glandwr

Hen Ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll gan Steffan ab Owain

Nid Capel Soar, y soniwyd amdano eisoes, a oedd yr unig gapel neu ysgoldy crefyddol i gael ei weddnewid a’i droi yn ffatri yn yr ardaloedd hyn. Un arall a drowyd yn ffatri yn yr 1960au (mi gredaf) oedd Ysgoldy Glandwr (MC), sef adeilad a godwyd yn 1898. 

Pa fodd bynnag, cyn imi fynd ati hi i ddweud gair am y ffatri, hoffwn roi tipyn o gefndir yr Ysgol Sul a’r lleoedd y cynhelid hi cyn codi adeilad yr ysgoldy. Gyda llaw, roedd bwriad i godi adeilad pwrpasol rhwng rhesdai Glandwr a Glanyllyn yn yr 1870au, ond methwyd a chael caniatâd gan y tirfeddiannwr. 

Yn ei dyddiau cynnar, sef o’r flwyddyn 1871 ymlaen, cynhelid hi mewn lle a elwid yr Hen Lofft a safai gerllaw. Yna, ar ôl bod yno am oddeutu 11 mlynedd symudwyd i dŷ Hugh Thomas, Glandwr, sef un o athrawon yr Ysgol Sul. Erbyn hynny amrywiai ei nifer rhwng 58 a 96, ond gan nad oedd lle i bawb yno mynychai mwyafrif y to hŷn yr ysgol yng Nghapel y Rhiw. Y plant a fyddai’n ei fynychu fwyaf, a byddai Evan Jones, Ffridd Lwyd a Thomas Roberts, Tai’n Foel, a rhai o’r chwiorydd, yn cynorthwyo Hugh Thomas i’w dysgu i ddarllen, gwrando ar storiau’r beibl, bod yn ufudd, ayyb. 

Wedi marwolaeth Hugh Thomas yn 1891, symudwyd i Ffridd Lwyd, cartref Evan Jones, ond wedi rhyw 10 wythnos yno cafwyd lle yn y Capel Pren a safai ar yr ochr uchaf i resdai Glandwr. Bu’r ysgol yno am ryw 6 blynedd i gyd, ac ar ôl sicrhau llecyn o dir ar gost o £45 adeiladwyd ysgoldy newydd yn y fan y saif heddiw. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1897, yna ei agor yn gyntaf ar 1 Mai, 1898, a’i gwblhau yn 1900 ar gost o £ 568. 2s 0. Un o’r rhesymau am y gwaith a’r gost ychwanegol oedd yr angen am ddosbarth ar wahân ar gyfer y plant bach. Cwynai’r oedolion ei bod yn anodd canolbwyntio yn eu dosbarthiadau oherwydd y sŵn a ddeuai oddi wrth cornel y plantos. Gyda llaw, erbyn y flwyddyn 1900 roedd cynnydd yn nifer y rhai a fynychai’r ysgoldy nes cyrraedd 137, a llawer iawn ohonynt yn blant. Yn ôl traddodiad yr oes, cafwyd te parti i ddathlu’r agoriad. 

Llun- Aelodau o Ysgoldy Glandwr ar gychwyn i Gymanfa y Methodistiaid rhywdro yn yr ? 1920au.
Gwelwn yn y llun bod adeilad ymhen isaf rhesdai Bryn Tirion, sef ar y dde eithaf. Yno, y byddai’r Capel Pren a fu mewn defnydd gan y Bedyddwyr ar un adeg. Diolch i Gareth T. Jones, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes am roi benthyg y llun inni.

Yn ôl Nia Williams, (Glaypwll Villa gynt) bu’r Ysgoldy mewn defnydd fel Ysgol Ddyddiol ar gyfer dosbarth y babanod ym mis Medi 1939 tra roedd Ysgol Glanypwll yn cael ei ailwampio. Bu’r plant yn cael eu dysgu yno tan mis Chwefror 1940. Credaf i finnau ei fynychu rhywdro yn yr 1950au tra roedd yn dal mewn defnydd fel ysgoldy gan y Methodistiaid Calfinaidd. Nid oes gennyf gof am yr hyn a oedd ymlaen yno, chwaith; efallai Ysgol Sul, neu noson o adloniant o fath.

Pwy sy’n cofio mynychu’r ysgol yno? Y tro nesaf, rwyf yn gobeithio dweud gair neu ddau am y ffatri doliau a fu yno.

Ysgoldy Glandwr heddiw. Llun Paul W

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023


9.10.23

Stolpia- diwedd y felin goed

Hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll
Dyma barhau gydag ychydig o hanes y Felin Goed a fyddai ger Afon Barlwyd a thu ôl i Blaenyddol a thŷ Croesffordd Glanypwll. 

Gweithiai oddeutu saith o ddynion yno a’r fforman arnynt oedd y diweddar Iorwerth Powell, 2 Bryn Twrog. Roedd eisoes â phrofiad gyda’r math hwn o waith gan iddo fod yn gweithio mewn melinau coed yn Llansannan a Chonwy. Credaf bod Ellis Evans ac Elwyn Thomas, y ddau o’r Rhiw wedi gweithio yno am sbelan. Cyflogwyd y canlynol yno hefyd- Tom Powell, brawd Iorwerth, fy ewythr David J. Williams, Glanypwll a Jack Lloyd, Jones Street. 

Iorwerth Powell (de eithaf) David J Wms, (yr agosaf ato) a Tom Powell efo’r sgarff streipiau. Tybed pwy yw’r gweddill yn y llun? Diolch i Dewi Williams, Sgwâr y Parc am fenthyg y llun hwn.

Gan fod llawer o ddarnau coed a llwch lli yn sgil yr holl lifio yn y felin ceid pentwr o weddillion coed y tu ôl i dai Glan Barlwyd ar ochr y lein fach - a oedd wedi ei hatal y pryd hynny, wrth gwrs. Yn ogystal, ceid tomen fawr o lwch lli ar ochr draw i’r afon gyda phont bren wedi ei chodi gan ddynion y felin er hwyluso’r gwaith o’i gludo yno. Dyma’r lle y bu llawer o blant y Rhiw a Glan-y-pwll yn chwarae cowbois ac indians, gan mai hwn a fyddai’r anialwch gennym a’r brwyn islaw iddo yn lleoedd i guddiad pan oeddem mewn brwydr â’r gelyn. Gyda llaw, yno hefyd y byddai Glyn Griffiths Siop Jips (Glanypwll) yn claddu pennau’r pysgod, ac os tyllid i lawr i’r llwch lli mewn ambell le ceid oglau annymunol iawn yn eich ffroenau!

Byddai’r hogiau yn gwneud defnydd o’r darnau coed gorau yn y pentwr, megis dagerau pren, gynnau a reifflau a phicellau (spears). Cofiaf hefyd inni wneud polion i neidio tros yr afon oddi ar y wal gerllaw Cae Alun - a chael a chael weithiau i gyrraedd y lan ar yr ochr draw. Y mae gennyf gof hefyd imi gael hyd i ben bwyell ger yr afon un tro ac ar ôl gosod tamaid o bren o’r domen sgrap ynddi rhoes brawf ar ei hawch trwy ei tharo ar waelod y bont bren. Yna, clywais besychiad uwch fy mhen a phwy a oedd yno, ond Iorwerth Powell yn edrych yn ddig iawn. Credwch fi, ni arhosais yno yn hir iawn wedyn, yn enwedig pan ddaeth geiriau tebyg i hyn o’i enau: “Beth ar y ddaear rwyt ti’n ei feddwl wyt ti yn ei wneud y cena bach yn torri’n pont ni?” 

Y mae hi’n syndod bod y gwaith wedi parhau cystal gan nad oedd ffens ogylch y lle i’w ddiogelu, ac o ganlyniad, byddai cryn ladrata coed yn digwydd yno gyda’r nos gyda rhai o’r drwgweithredwyr yn eu taflu nhw i’r afon fel bod y lli yn mynd a nhw o olwg pobl onest. Byddai plant yn chwarae yno hefyd ac yn gwneud cestyll o’r blociau a’r planciau gan greu trafferth i’r gweithwyr bore drannoeth. Ategwyd hyn gan Nia (Glanypwll Villa gynt) mewn nodyn imi- Dyma ein maes chwarae ac ar fîn nos mi wnaem gytiau gyda’r coed. Weithiau disgynent ar ein pennau. Wnaeth y gweithwyr erioed gwyno am ein llanast.

Efallai bod rhai ohonoch yn cofio John Price, bachgen cloff o’r Blaenau a fyddai’n prynu sbarion coed yno ac yn eu torri yn goed tân a mynd o gwmpas yr ardal ar dryc bach i’w gwerthu. Erbyn diwedd y pumdegau roedd llai o alw am goed y felin gan fod y mewnforion i Brydain yn tueddu i ddisodli’r fasnach leol, ac o ganlyniad, dirywiodd y busnes. Os cofiaf yn iawn, aeth y felin ar dân tua 1959.


Fatima Industries eto- Ychydig o wybodaeth amdano oddi wrth Mrs Dilys Jones, Gwylfa, Cae Clyd:

Bu ei diweddar ŵr, a’n cyfaill, Griff R. Jones, yn gweithio fel saer yn y ffatri, sef gwneud rhai o’r peiriannau gwehyddu, yn ogystal â’u trwsio pan fyddai’r angen yn codi. 

Diolch hefyd i Nia Williams (Glanypwll Villa). Dywed Nia bod eu rhieni wedi prynu cyfranddaliadau yn y ffatri garpedi, ac efallai am fod ei thad yn gynghorydd ar y ward y penderfynodd fuddsoddi yn y fenter. Beth bynnag aeth y ffatri i’r gwellt a’r siars efo hi! Fel gwobr gysur cafodd mam ganfas hyd rug a llond bag o dameidiau gwlân heb eu torri. Bu’n pwytho y canfas clos am fisoedd a chafwyd rug o flaen y tân yn y diwedd.

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2023



4.5.15

Atgofion Ffatri

Erthygl gan Gwyn Thomas, a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2015:

Rai blynyddoedd yn ôl mi gefais ychydig dudalennau o nodiadau gan Bleddyn Jones y Ffatri, sef Melin y Moelwyn, neu Ffatri Tanygrisiau ar lafar. Roedd o wedi rhoi’r teitl barddonol hwn uwchben ei sylwadau: ‘Tipyn o Hanas gan Sgwennwr Anaddas’.

Isod mi geisiaf ddilyn sylwadau Bleddyn.

1.    RHAI TERMAU
I ddechrau y mae’n rhoi ychydig o dermau cyffredin a ddefnyddid mewn melin wlân:
            Nyddu                    Spinning
            Cyrdeddu (Cordeddu)      Doubling or Twisting
            Dylifo             Making the warp
            Cannu             Bleaching

2.     YCHYDIG O’I HANES
Cefais fy nysgu i ‘gannu’ gyda sylffyr (brwmstan) gan fy nhad, a chyda peroxide gan Laport (o Luton).
Fe ddaeth dau ddyn yma o Amgueddfa Bradford i ofyn iddo a oedd yn gwybod am waith ‘pannwr’. ‘Chi ydi’r unig un a all ein helpu ni,’ meddan nhw.

Y diwrnod cyntaf y dechreuais i weithio ym melin Pant yr Ynn roeddwn yn dod adref efo Charles Williams am bump y prynhawn pan stopiodd yna ddyn i siarad efo ni. Gofynnodd i Charles pwy oeddwn i, ac ar ôl esbonio mai mab y Ffatri oeddwn i, dyma’r dyn yn dweud fod ‘cyw o frîd yn well na phrentis’.

Ar ôl i’r dyn fynd mi ofynnais innau i Charles pwy oedd o, a’r ateb a gefais i oedd:

            Wil Lloyd y Gelli
            A ddaliodd dunelli
            O slwod a mâg –
            A’i gawell yn wag.

Fe ddaeth Charles Williams o Lodge Cyffdy, Llanrwst, i’r Blaenau i weithio yn wyth oed. Fe gafodd ei ddysgu gan John Jones, Sir Fôn, a oedd yn dramp, ond yn ‘weuwr’ ardderchog. Charles a ddysgodd fi i ‘nyddu’ efo Spinning Mule efo ‘spindles’ 300 x 2 fodfedd a hanner ar y ‘cythraul ffatri’ fel y’i gelwid, sef [peiriant] Willey ar beiriannau ‘gardio’. Fy nhad ddysgodd fi efo ‘cribwr’ (jig) neu ‘nap raiser’ neu ‘godi (cotwm)’ a ‘chyrdeddu’, a ‘phressio’.

Yn 1927 y digwyddodd hyn. Doedd John Jones ddim eisio cerdded hefo ni trwy’r stryd am adref yn lle codi cywilydd arnom ni.

Mi fuodd John Jones yn ffeind iawn wrth Charles. Pan fyddai o’n mynd efo trip yr Ysgol Sul i Landudno byddai John Jones yn gwatsiad bod ganddo fo bres yn ei boced, gan roi tipyn o sylltau iddo fo.

Gan gofio hyn, ymhen blynyddoedd wedyn mi fues i a Charles rownd Sir Fôn yn chwilio am ei fedd o. Roedd Charles eisio rhoi carreg fedd yn y fan, ond ddaru ni ddim ffeindio’r bedd.

Fel hyn yr oedd y ‘pressio’ yn gweithio. O dan y ‘press’ 100 tunnell yr oedd tân, ac o dan y tân yr oedd yna ddŵr – yr hen  ddywediad oedd fod ‘y tân yn licio gweld ei lun’ yn y dŵr.  Dyma esboniad o’r broses yn yr ‘odyn’:

(a)    Roedd yna fariau dur ar draws y top yn dal y gwlân, a oedd wedi ei lifo, i’w sychu.
(b)    Yna roedd yna lechen, tua dwy droedfedd sgwâr, sef ‘llechen yr odyn’. Roedd hon yn rhyw 3 modfedd o drwch ac yn llawn o dyllau bach.

Hanes y lein styllennu. Roedd y llin yn cael ei nyddu yn Perth, yn Scotland gan ffýrm o’r enw ‘John Knox’. Roedd hi’n cael ei ‘chyrdeddu’ yn ffatri Melin y Moelwyn ar ‘twistar’, gan wneud y lein yn 2, 3, 4 neu 5 ‘cainc’ (ply). Fe werthid y lein wrth yr owns, ac nid wrth yr hyd – am tua hanner coron yr owns. Byddai Richard Evans, Ty’n Ddôl yn gweu rhwydi, rhai efo tyllau bach a rhai efo tyllau mawr, efo’r lein, a fo oedd y gweuwr rhwydi gorau a welais i erioed

3.    ENWAU GWEHYDDION YR YDW I YN EU COFIO A FU’N GWEITHIO YM MELIN Y MOELWYN O 1871 YMLAEN
Jacob Jones; Shadrach Jones; Richard Lewis, Rhyd y Sarn; John Robert Jones; Charles Williams; John Jones (Tramp), Sir Fôn; Richard Edwards, Hafod Ruffudd; Dafydd a Wil John, dau frawd o Bant yr Ynn; Iorwerth Evans, Arial (?) House; Idris Pen-bryn, Manod; Bleddyn a Maldwyn (dau frawd), Ffatri Tanygrisiau; Owen John Jones, fy mrawd-yng-nghyfraith, Dyffryn; John Isgoed Williams, Trawsfynydd; Gladys Williams (Price), Jones St a Dolau Las; Glyn Roberts, Tanygrisiau; Jonathan Thomas, mab Ffatri Pentre Llawen, Cerrig-y-drudion; Jacob Jones, Barlwyd St, Tanygrisiau.