9.10.23

Stolpia- diwedd y felin goed

Hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll
Dyma barhau gydag ychydig o hanes y Felin Goed a fyddai ger Afon Barlwyd a thu ôl i Blaenyddol a thŷ Croesffordd Glanypwll. 

Gweithiai oddeutu saith o ddynion yno a’r fforman arnynt oedd y diweddar Iorwerth Powell, 2 Bryn Twrog. Roedd eisoes â phrofiad gyda’r math hwn o waith gan iddo fod yn gweithio mewn melinau coed yn Llansannan a Chonwy. Credaf bod Ellis Evans ac Elwyn Thomas, y ddau o’r Rhiw wedi gweithio yno am sbelan. Cyflogwyd y canlynol yno hefyd- Tom Powell, brawd Iorwerth, fy ewythr David J. Williams, Glanypwll a Jack Lloyd, Jones Street. 

Iorwerth Powell (de eithaf) David J Wms, (yr agosaf ato) a Tom Powell efo’r sgarff streipiau. Tybed pwy yw’r gweddill yn y llun? Diolch i Dewi Williams, Sgwâr y Parc am fenthyg y llun hwn.

Gan fod llawer o ddarnau coed a llwch lli yn sgil yr holl lifio yn y felin ceid pentwr o weddillion coed y tu ôl i dai Glan Barlwyd ar ochr y lein fach - a oedd wedi ei hatal y pryd hynny, wrth gwrs. Yn ogystal, ceid tomen fawr o lwch lli ar ochr draw i’r afon gyda phont bren wedi ei chodi gan ddynion y felin er hwyluso’r gwaith o’i gludo yno. Dyma’r lle y bu llawer o blant y Rhiw a Glan-y-pwll yn chwarae cowbois ac indians, gan mai hwn a fyddai’r anialwch gennym a’r brwyn islaw iddo yn lleoedd i guddiad pan oeddem mewn brwydr â’r gelyn. Gyda llaw, yno hefyd y byddai Glyn Griffiths Siop Jips (Glanypwll) yn claddu pennau’r pysgod, ac os tyllid i lawr i’r llwch lli mewn ambell le ceid oglau annymunol iawn yn eich ffroenau!

Byddai’r hogiau yn gwneud defnydd o’r darnau coed gorau yn y pentwr, megis dagerau pren, gynnau a reifflau a phicellau (spears). Cofiaf hefyd inni wneud polion i neidio tros yr afon oddi ar y wal gerllaw Cae Alun - a chael a chael weithiau i gyrraedd y lan ar yr ochr draw. Y mae gennyf gof hefyd imi gael hyd i ben bwyell ger yr afon un tro ac ar ôl gosod tamaid o bren o’r domen sgrap ynddi rhoes brawf ar ei hawch trwy ei tharo ar waelod y bont bren. Yna, clywais besychiad uwch fy mhen a phwy a oedd yno, ond Iorwerth Powell yn edrych yn ddig iawn. Credwch fi, ni arhosais yno yn hir iawn wedyn, yn enwedig pan ddaeth geiriau tebyg i hyn o’i enau: “Beth ar y ddaear rwyt ti’n ei feddwl wyt ti yn ei wneud y cena bach yn torri’n pont ni?” 

Y mae hi’n syndod bod y gwaith wedi parhau cystal gan nad oedd ffens ogylch y lle i’w ddiogelu, ac o ganlyniad, byddai cryn ladrata coed yn digwydd yno gyda’r nos gyda rhai o’r drwgweithredwyr yn eu taflu nhw i’r afon fel bod y lli yn mynd a nhw o olwg pobl onest. Byddai plant yn chwarae yno hefyd ac yn gwneud cestyll o’r blociau a’r planciau gan greu trafferth i’r gweithwyr bore drannoeth. Ategwyd hyn gan Nia (Glanypwll Villa gynt) mewn nodyn imi- Dyma ein maes chwarae ac ar fîn nos mi wnaem gytiau gyda’r coed. Weithiau disgynent ar ein pennau. Wnaeth y gweithwyr erioed gwyno am ein llanast.

Efallai bod rhai ohonoch yn cofio John Price, bachgen cloff o’r Blaenau a fyddai’n prynu sbarion coed yno ac yn eu torri yn goed tân a mynd o gwmpas yr ardal ar dryc bach i’w gwerthu. Erbyn diwedd y pumdegau roedd llai o alw am goed y felin gan fod y mewnforion i Brydain yn tueddu i ddisodli’r fasnach leol, ac o ganlyniad, dirywiodd y busnes. Os cofiaf yn iawn, aeth y felin ar dân tua 1959.


Fatima Industries eto- Ychydig o wybodaeth amdano oddi wrth Mrs Dilys Jones, Gwylfa, Cae Clyd:

Bu ei diweddar ŵr, a’n cyfaill, Griff R. Jones, yn gweithio fel saer yn y ffatri, sef gwneud rhai o’r peiriannau gwehyddu, yn ogystal â’u trwsio pan fyddai’r angen yn codi. 

Diolch hefyd i Nia Williams (Glanypwll Villa). Dywed Nia bod eu rhieni wedi prynu cyfranddaliadau yn y ffatri garpedi, ac efallai am fod ei thad yn gynghorydd ar y ward y penderfynodd fuddsoddi yn y fenter. Beth bynnag aeth y ffatri i’r gwellt a’r siars efo hi! Fel gwobr gysur cafodd mam ganfas hyd rug a llond bag o dameidiau gwlân heb eu torri. Bu’n pwytho y canfas clos am fisoedd a chafwyd rug o flaen y tân yn y diwedd.

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2023



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon