Showing posts with label Comisiynydd y Gymraeg. Show all posts
Showing posts with label Comisiynydd y Gymraeg. Show all posts

17.6.15

O'r Pwyllgor Amddiffyn


Ar ôl i rifyn Mehefin Llafar Bro fynd i'r wasg, daeth y newyddion mawr am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn rheolaeth Bwrdd Iechyd Betsi Dwalad, gan gynnwys ymadawiad Mr Purt y prif weithredwr. Erbyn hyn hefyd, clywn bod yr heddlu'n ymchwilio i elfennau o reolaeth ariannol y bwrdd. Mae colofn y Pwyllgor Amddiffyn yn rhifyn Mehefin yn cynnwys manylion difyr am sut oedd y bwrdd yn gweithredu... 

Ym mis Mai aeth dirprwyaeth o’r pwyllgor i Fangor i gyfarfod yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd. Yno hefyd i’n cyfarfod oedd Dr Peter Higson y cadeirydd a Mr Geoff Lang y Pennaeth Strategaeth. Gan mai’r Athro Purt ei hun oedd wedi awgrymu’r cyfarfod, yna roedd lle i obeithio eu bod nhw, o’r diwedd, yn barod i gydnabod ffaeleddau amlwg y gwasanaeth iechyd yn yr ardal hon. Ond, ar ôl awr a hanner o drafod ac o gyflwyno’n hachos yn y modd cryfaf posib, fe ddaeth yn amlwg iawn nad oedd Mr Purt yn barod i gyfaddawdu ar un dim. Roedd ei agwedd yn ffroenuchel ac yn ymylu ar fod yn sarhaus ac fe ddaethom o’r cyfarfod hwnnw nid yn unig yn siomedig ond yn hynod o ddig.


Go wahanol oedd yr awyrgylch wythnos yn ddiweddarach pan aethom i gyfarfod Ruth Hall a Jack Evershed ym Machynlleth. Nhw ydi cyd-gadeiryddion y pwyllgor newydd, sef y Collaborative, a gafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Iechyd yn ddiweddar i drafod sefyllfa anfoddhaol y gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru. (Fe gofiwch bod rhai ohonoch wedi rhoi tystiolaeth i’r Athro Longley llynedd ac mai ei adroddiad ef a arweiniodd at sefydlu’r Collaborative.) Sut bynnag, fe gafwyd cyfarfod buddiol iawn efo Ms Hall a Mr Evershed a buont yn ein holi yn fanwl iawn am y  sefyllfa sy’n bodoli bellach yn ‘Ucheldir Cymru’, sef Stiniog a’r dalgylch gwledig o’n cwmpas; ardal sy’n ymestyn o Ddolwyddelan yn y gogledd hyd at Trawsfynydd a Bronaber yn y de.

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod ein dadl yn cael cefnogaeth y canlynol i gyd –
Yr Athro Marcus Longley;
Sarah Rochira (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru);
Meri Huws (Comisiynydd Iaith);
Cynghorau Iechyd Cymunedol Gwynedd a Chonwy;
yn ogystal â chyd-gadeiryddion y Collaborative.
Rydym hefyd yn dal i gysylltu efo Pwyllgor Deisebau y Cynulliad yng Nghaerdydd i geisio perswadio’r Gweinidog Iechyd bod gan yr ardal hon yr hawl i’r un ddarpariaeth ag sy’n cael ei rhoi i dref lawer llai fel Tywyn ym mhen arall y sir ac i brofi iddo bod Betsi yn dangos ffafriaeth hiliol yn ein herbyn.

Gallwn enwi hefyd nifer o Aelodau Cynulliad o bob plaid sy’n bleidiol i’n hachos a chaed addewid gan ein haelod seneddol newydd, Liz Saville Roberts, y bydd hithau hefyd yn ein cefnogi. Gresyn na fyddai cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd, heb sôn am ein haelod cynulliad ni ein hunain, yn dangos mwy o diddordeb yn ein hachos!
                                       
GVJ

20.5.15

O’r Pwyllgor Amddiffyn

Rhan o golofn y pwyllgor amddiffyn, o rifyn Mai.
 
Fore Llun, Ebrill 20fed, aeth cynrychiolaeth o’r pwyllgor i Fangor i gyfarfod aelodau Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC) Gwynedd a Chonwy, ac i gyflwyno cynllun dros ail agor yr Ysbyty Coffa fel ysbyty canolbwynt i wasanaethu ar yr ardal wledig a gaiff ei galw yn Ucheldir Cymru (gw. adroddiad rhifyn Ebrill). 

Gyda llaw, dyma’r union fath o gynllun oedd yn cael ei argymell gan bob un o’r siaradwyr gwâdd yn y gynhadledd yn Dolfor yn ddiweddar; cynhadledd wedi ei threfnu gan y Gweinidog Iechyd ei hun.


Fe gafodd ein cyflwyniad wrandawiad ffafriol iawn ac roedd yn amlwg bod pawb oedd yn bresennol yn cydymdeimlo â’n sefyllfa ni yn yr ardal hon, yn wyneb methiant cynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (
BIPBC) i ddarparu gwasanaeth iechyd teilwng ar ein cyfer. Ar ddiwedd y cyfarfod, addawodd Cadeirydd y CIC y byddid yn ceisio atebion gan Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar yr 22ain o’r mis, daeth Meri Huws, y Comisiynydd Iaith, i gyfarfod aelodau’r Pwyllgor Amddiffyn, yma yn Stiniog, a dangosodd hithau hefyd bryder gwirioneddol ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf yn y gwasanaeth iechyd yn yr ardal hon, a hynny oherwydd y diffyg cyfle sy’n bodoli bellach i gleifion allu trafod yn eu hiaith eu hunain efo meddygon locum cyfnewidiol a dieithr.

Yr Athro Marcus Longley .. Sarah Rochira (Comisiynydd yr Henoed yng Nghymru) ... aelodau’r CIC ... a rŵan Meri Huws y Comisiynydd Iaith – pob un ohonynt, ar ôl clywed beth sy’n digwydd yn yr ardal, wedi mynegi syndod ac anfodlonrwydd efo’r sefyllfa. 


Felly, pam na wneith BIPBC wrando? A pham nad ydi’r Gweinidog Iechyd ei hun eisiau clywed am ein pryderon ni, nac yn barod i gyfarfod efo ni chwaith? 

Yn y rhifyn nesaf, fe rown adoddiad am ein cyfarfod ar Fai 19eg efo swyddogion y Betsi, sef Trevor Purt y Prif Weithredwr, Dr Higson y Cadeirydd a Geoff Lang y Cyfarwyddwr Strategaeth. Ein bwriad ydi tynnu eu sylw nhw, eto fyth, at y modd cwbwl annerbyniol y maen nhw’n dal i symud gwasanaethau allan o’r ardal i lawr i Ysbyty Alltwen. 


GVJ
 


Mae rhifyn Mai yn y siopau rwan. Gallwch ddarllen yr erthygl gyfa' yn eich papur bro.