11.5.21

Y Gwcw a Choel Gwlad

“Fy amser i ganu yw Ebrill a Mai
a hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai”

Erthygl o rifyn Mehefin 2020 gan Tecwyn Vaughan Jones

I nifer fawr o bobl mae’r gwanwyn yn dechrau unwaith y clywir y gog neu’r gwcw’n canu, ac yn ôl tystiolaeth o’r ardal, bu’r gog yn ffyddiog iawn yn y cyffiniau hyn eleni. Yn wir, sonnir fod nifer o gogau i’w clywed yn canu’r un pryd ac amryw wedi gweld y gog hefyd. Roedd sôn fod y gog yn araf ddiflannu o’r tir gan gyn lleied oedd yn ei chlywed yn canu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly braf oedd clywed am ei hynt yn yr ardal eleni. [Ond dylid nodi tystiolaeth adarwyr fod nifer y cogau wedi lleihau dros 40% yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf].

Bydd amryw yn disgwyl yn eiddgar i’w chlywed, ac mae llên gwerin yn ein cynghori i gario arian yn ein poced. Pan glywn y gwcw’n canu am y tro cyntaf, rhaid rhoi tro i’r arian sydd yno. O ganlyniad, byddwn yn gyfoethog am weddill y flwyddyn! Gwell fyth fyddai inni godi’r arian o’n poced a phoeri arno! 

Llun gan chris_romeiks trwy Gomin Wikimedia

Yn y pedair blynedd diwethaf, y lle cyntaf yn yr ardal i mi glywed y gog yn canu oedd Cwm Teigl, a bob tro, roedd ei sŵn yn cyrraedd o wahanol gyfeiriad. Dw i’n siŵr fod y gog arbennig yma yn anelu at Gae Canol Mawr gan mai yn fanno y byddaf yn ei chlywed.

Mae sôn fod y llonyddwch mawr sydd wedi disgyn dros y wlad, a phawb ohonom dan gyfyngiadau’r llywodraeth yn hunan-ynysu - (clywais rywun yn defnyddio'r gair ardderchog ‘meudwyo’ am yr hunan-ynysu) - wedi rhoi hwb i fywyd gwyllt a natur yn gyffredinol. Cododd y tarth llygredd o’r dinasoedd, ac yn nistawrwydd cefn gwlad, clywir yr adar yn canu o ddifri a nifer yn sôn am glywed côr y wig o’r newydd bob bore. Mae’r distawrwydd wedi dod â nifer o synau i’n clyw – rhai yr oeddem wedi anghofio amdanynt mae’n ymddangos! A rhyfedd pa mor sydyn mae natur yn ymgynefino â newid …mae adar ac anifeiliaid i weld yn llawer mwy powld y dyddiau hyn fel pe baent yn synhwyro fod rhywbeth mawr wedi mynd o’i le ymysg y ddynol ryw … cofiwn am gampau geifr y Gogarth yn Llandudno yn difa gerddi tai na welodd eifr erioed o’r blaen!

Mae gan y gog, fel y gŵyr pawb, strategaeth fridio grefftus. Yn hytrach nag adeiladu eu nythod eu hunain, mae’r cogau yn defnyddio nythod adar 'lletyol', megis llwyd y gwrych a chorhedydd y waun. Pan fydd cwcw benyw yn canfod nyth addas, a'r perchen yn absennol, mae’n bwrw un o'r wyau dros ochr y nyth ac yn dodwy un yn ei le!

Mae’r cyw gog yn deor o fewn 12 niwrnod ac yn gwthio wyau neu gywion eraill allan o'r nyth bron yn syth. Ar ôl 19 diwrnod, mae'n gadael y nyth, ond deil y rhieni i'w fwydo am bythefnos arall, ac erbyn hynny, mae wedi tyfu'n llawer mwy na’i riant.

Mae cogau (yr oedolion felly) ymhlith y cynharaf o'n hymwelwyr haf i adael. Does dim angen iddynt fagu cywion, ac felly maen nhw'n rhydd i fynd. Mae'r rhan fwyaf yn gadael Cymru yn ystod mis Mehefin. Bydd y cyw gog yn gadael yn nes ymlaen. Wrth gwrs, ni fydd y rheini byth yn gweld eu rhieni.

Mae Ymddiriedolaeth Adar Prydain (BTO) wedi bod yn olrhain llwybr mudo’r gog ers 2011. Gwyddys bod cywion cogau yn treulio misoedd y gaeaf yng nghanolbarth Affrica. Maen nhw'n dilyn llwybr mudo gwahanol yn yr hydref i'w taith yn y gwanwyn, ac mae llefydd i stopio i orffwys a bwydo - yn Ewrop ac Affrica yn rhan bwysig o daith ymfudol y gog.

Yn ôl llên gwerin, ystyrir y gog fel aderyn lwcus yn gyffredinol, a cheir coel mai ar y 14eg Ebrill y bydd yn cyrraedd Cymru - ac mae’r goel hon yn amrywio rhwng pedair ac wyth niwrnod - dibynnu pa ran o’r wlad yr ydych yn byw! Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gog wedi tueddu i gyrraedd pum diwrnod yn gynt nag arfer, sy'n debygol oherwydd newid hinsawdd. Ers blynyddoedd, bu’n arfer sgwennu llythyr i bapur newydd The Times i weld pwy sydd wedi clywed y gog gyntaf, a hwyrach y byddai cael gwybodaeth am gyrhaeddiad y gog yn y parthau hyn yn ddifyr i ddarllenwyr Llafar Bro ... ymhle y clywyd y gog gyntaf yn yr ardal eleni tybed?

Yn ogystal â’r goel sy’n gysylltiedig â chael arian yn eich poced, sut bynnag f’och iechyd yn ystod yr  amser y byddwch yn clywed y gwcw am y tro cyntaf, tebygol y bydd yn parhau felly drwy’r flwyddyn. Dylech, yn ogystal, wneud dymuniad, ac mae coel werin yn sicrhau fod pob dymuniad yn cael ei wireddu! Ers canrifoedd, tadogwyd nifer o ystyron i ganiad y gog. Os ydych yn ifanc, yna mae'r nifer o weithiau y clywch y ‘cw-cw’ yn nodi’r dyddiau, misoedd neu flynyddoedd tan y byddwch yn priodi; os ydych eisoes yn briod, mae’n dynodi dyfodiad eich plentyn cyntaf/nesaf; ac os ydych hen, bydd yn nodi faint o amser y byddwch fyw!

Yn ôl coel werin, mae’r gwcw yn cadw’n rhy brysur i wneud nyth ac felly yn bwrw ei wyau i nythod adar eraill.

Yng Nghymru, credir ei bod yn anlwcus i glywed yr alwad gyntaf cyn Ebrill 6ed, ac os caiff ei glywed ar 28ain Ebrill, bydd y flwyddyn ganlynol yn un lewyrchus iawn. Ystyrid hi’n anlwcus i glywed y gog pan fyddwch yn dal yn y gwely, ond yn arwydd o lwc dda os clywir hi yn yr awyr agored, yn enwedig os ydych chi'n sefyll ar dir glaswelltog! Mae clywed yr aderyn ym mis Gorffennaf yn cael ei ystyried yn anlwcus iawn, gan y dylai’r aderyn erbyn hynny fod wedi gadael y wlad am diroedd cynhesach. O glywed caniad y gog am y tro cyntaf i’r dde ohonoch, yna anlwc, a’r gwrthwyneb, os clywir hi’n canu i’r chwith.

Cysylltir canlyniad clywed y gog yn canu am y tro cyntaf yn ogystal gyda’r arfer o ramanta yng Nghymru ... hynny yw, ymhél â phob math o arferion neu ddefodau i geisio darganfod pwy fydd eich cariad neu’ch gŵr neu wraig! Os ydych yn ddyn, yna dylech dynnu esgid pan glywch ganiad y gog ac edrych y tu mewn iddi. Os cewch hyd i wallt, bydd hwn yn arwydd o liw gwallt eich partner.

Ers talwm, cysylltid rhyw goel efo nifer fawr o achlysuron neu ddigwyddiadau, ac yn sicr, roedd clywed y gog am y tro cyntaf yn destun sgwrs a gobaith i bawb. Roedd y gwanwyn wedi cyrraedd, a gellid rhoi heibio holl bryder y gaeaf a throi golygon at adfywiad natur o’n cwmpas a gwres yr haf!

Tecwyn Vaughan Jones




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon