31.5.21

Cwm Teigl Teg ei Lun

Atgofion EMLYN WILLIAMS [1]

Wn i ddim os mai’r cyfnod clo a bod yn gaeth i’r tŷ a’m hysgogodd i eistedd i lawr a rhoi pin ar bapur. Mae’n debyg fod gofidio am gyflwr truenus yr hen fyd yma ar y funud yn gwneud i ni gymryd cipolwg dros ein hysgwyddau a chamu’n ôl i’r gorffennol, gan obeithio cael rhyw fath o gysur yn y fan honno. 

Beth bynnag, yr hyn sy’n sicr yw fod fy atgofion cyntaf o fyw ar yr hen ddaear yma yn hanu o Gwm Teigl.

 

Treuliais fy mhlentyndod cynnar yno o dair tan naw mlwydd oed (1955- 1961), ac felly, mae fy ngwreiddiau’n ddwfn yn nhirwedd y cwm, ac mae rhan o fy mhersonoliaeth, mae’n siŵr, wedi ei lunio a’i ddylanwadu gan y cymeriadau oedd yn trigo yno yr adeg hynny. Roedd fy rhieni yn rhentio fferm fach Llechwedd Isa, ac ar yr un pryd, roedd fy nhad yn gweithio yn Chwarel y Bwlch yn mhen uchaf y cwm a mam yn gofalu am y tŷ a’r fferm yn ystod y dydd.

Yr atgofion cyntaf sy’ gen i yw clywed yn y boreau cynnar sŵn ‘Lori Bwlch’ oedd yn cludo’r gweithwyr i’r chwarel yn ail-gychwyn o gatiau Pant yr Hedydd, a Tom Owen, y dreifar, yn newid gêr y Bedford lwyd bob tro wrth fynd heibio’r cwt mochyn ar ochr y ffordd tu ôl i Llechwedd Isa. Ychydig o funudau wedyn, gwrando ar feic modur Emrys Jones, Minafon, yn gwichian heibio blaen y tŷ, yntau ar ei ffordd i’w waith.

Clustfeinio a disgwyl am Land Rover y ‘Ministry’ … erbyn hyn, roeddwn yn hollol effro, a thra’r oedd sŵn lori Cwt Bugail yn diflannu yn y pellter, dyna ddiwedd ar y dilyniant clywedol boreuol, a roeddwn innau ar fy ffordd lawr y grisiau ac yn barod am fy Weetabix.

Ond yr hwn oedd yn tarfu fwyaf ar lonyddwch a heddwch y cwm yn fy mhlentyndod oedd Moffat. Roedd y defaid a’r gwartheg yn sgrialu o’r neilltu pan roedd o yn taranu i fyny ac i lawr y cwm ar hyd y lôn gul yn ei ‘Lagonda’ neu ‘Bugatti’. Sais oedd Hamish Moffat, ac fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Awstralia gyda’i rieni. Ar ôl y rhyfel, fe ddychwelodd i Brydain, ond cyn prynu fferm fynydd Hafod Ysbyty, roedd yr hen Moffat wedi byw bywyd llawn antur eisoes trwy deithio ar hyd a lled Affrica, ar draws anialwch y Sahara, a sawl gwlad arall hyd at Cape Town... 12,500 o filltiroedd... ac wrth gwrs, ar ben ei hun mewn 1923 Lagonda Vintage... yr union gerbyd welwn i’n rhuthro fel cath i gythraul ar hyd ffordd dawel Cwm Teigl yn y pumdegau. Dyma’r car hynaf i groesi’r Sahara erioed, medd Mr Google.

Fel y tybiwch, roedd Moffat yn gymeriad lliwgar a digon dadleuol ar adegau. Ond eto i gyd, roedd yn glên bob amser, yn chwifio ei law wrth wibio heibio ac yn barod ei gymwynas. Bu yn cadw ieir deeplitter ar un adeg, ac rwy’n cofio iddo ddod i Lechwedd Isa unwaith gyda’i dractor a threlar i helpu efo’r gwair. Tra’n dadlwytho, fe sylwodd fy nhad fod plu yn chwyrlïo ymhobman o gwmpas y tŷ gwair. 

Doedd hynny ddim yn plesio Dad o gwbl, a chafodd yr hen Moffat ddim gwadd i ddod yn ôl! Na, nid ffarmwr mo Moffat yn y bôn. Doedd bwydo, tipio a chneifio defaid ddim yn rhan o’i fyd, ac ymhen ychydig iawn, fe ddaeth ysfa enfawr arno eto i grwydro drachefn. Fe adawodd Cwm Teigl yn nechrau’r chwedegau. Ond nid anturiaethwr cyffredin mo Moffat chwaith, ond yn hytrach, chwip o yrrwr a pheiriannydd, arloeswr mentrus a beiddgar. Ac i brofi hynny, yn 1969, fe deithiodd dros fôr a mynydd, bryn a dôl o Brydain i Awstralia trwy Ffrainc, yr Eidal, Groeg, Twrci, Affganistan, India a chyrraedd Perth a wedyn Sydney yn ei 1928 OM Tourer Vintage. Yn ddiweddarach, fe ddaeth yn boblogaidd iawn ar draciau rasio Silverstone ac Oulton Park. Fe enillodd dros 200 o gwpanau yn ystod ei yrfa hynod o lwyddiannus.

Mae ei holl hanes ar gael ar y we ac yn ddiddorol dros ben. Hyd heddiw, rwy’n dal i gofio geiriau Mam yn fy rhybuddio pan roeddwn yn cerdded adref o ysgol Llan yn y pnawniau:

“Os wnei di glywed sŵn Lagonda Moffat ar y ffordd, cer i mewn i’r ffos neu neidia i ben y wal, mae’n beryg bywyd!!” 

[i’w barhau]

------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2021

Dyma ddywed Iwan, un o olygyddion Llafar Bro:

Braint o’r mwya fu derbyn ysgrifau gan Emlyn Williams, un o hogia’r Llan sy’n byw yn Llydaw ers dros ddeugain mlynedd. Mab i’r diweddar David Bryn a Kit Williams, Dylem, Heol yr Orsaf ydi Emlyn, a brawd mawr i Dylan.
Yn ninas Brest, sydd ym mhegwn gorllewinol Llydaw, sefydlodd ganolfan dysgu Saesneg. Wedi gyrfa hynod lwyddiannus, mae bellach wedi ymddeol. Mae’n ieithydd penigamp. Fe’i clywsom sawl gwaith yn mynegi ei farn ar radio a theledu pan fo gohebyddion Cymreig yn ceisio gwybodaeth am faterion cyfoes yn Ffrainc. Llwydda i gyfleu ei farn mewn Cymraeg naturiol, graenus. Yn ei atgofion difyr am gwm ei febyd, mae cynhesrwydd arddull i’w deimlo.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon