“Mae cynhesu ein tai am gost sy’n berthynol i’n incwm yn rhywbeth gwbwl elfennol. Mae angen trwsio’r twll yn y bwced cyn mynd ati i chwilio am fwy o ddŵr.”
Mae’r gwaith o gynhyrchu ynni cynaliadwy wedi bod yn rhan o stori Bro Ffestiniog o’r cychwyn. Mae newidiadau mawr ar droed wrth i ni wynebu’r her o newid hinsawdd, ac mae cyfle yma rŵan i ni unwaith eto arloesi, ond y tro yma, cawn droi’r dŵr i’n melin ein hunain.
Gyda’r ardal yn dioddef rhai o’r lefelau o dlodi tanwydd uchaf yn Ewrop, mae sawl opsiwn ar gyfer mynd i’r afael â’r her a datgarboneiddio gwresogi yn Nhanygrisiau wedi cael eu ystyried dros y blynyddoedd. Bellach, mae cynlluniau cyffrous yn cael eu hystyried ar gyfer taclo’r broblem gyda’r bwriad o gynnal astudiaeth dichonoldeb fis nesaf.
Mae partneriaeth yn cynnwys Ynni Cymunedol Twrog, Y Dref Werdd, Cwmni Bro Ffestiniog, Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd (fel yr awdurdod tai strategol), Landlordiaid Cymdeithasol a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd i daclo'r broblem unwaith ac am byth. Y bwriad ydi datblygu cynllun allai osod y ffordd i gynlluniau tebyg yng nghymunedau chwarelyddol eraill y gogledd a chymunedau sydd oddi ar y rhwydwaith nwy drwy Gymru.
Dywedodd y Cynghorydd Craig Ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:
“Mae yna lawer o wahanol fathau o dlodi - economaidd, tanwydd, iechyd, addysg, tai, cymdeithasol a llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn effeithio arnom ni yma yng Ngwynedd. Ond rydan ni fel Cyngor yn benderfynol o daclo pob math o dlodi, ac mae’r prosiect yma yn dangos yr hyn sy’n bosib pan rydan ni’n dod a’n talentau at ei gilydd ac yn cydweithio.”
Does dim llawer o enghreifftiau o rwydweithiau gwresogi yng Nghymru, ond mae nifer o ffactorau yn ardal Tanygrisiau yn golygu y gallai ôl-osod rhwydwaith gwresogi ardal ym mherchnogaeth gymunedol neu leol fod yn opsiwn hyfyw.
Mae’r Dref Werdd, Cwmni Bro Ffestiniog ac Ynni Cymunedol Twrog wedi arwain wrth sefydlu grwp llywio i drefnu astudiaeth dichonoldeb cychwynnol er mwyn medru cymharu'r opsiwn yma efo atebion posib eraill ar gyfer dileu tlodi tanwydd a datgarboneiddio gwresogi yn Nhanygrisiau. Mae gwaith ar yr astudiaeth wedi cychwyn ar ddechrau’r mis hwn.
Medd Meilyr Tomos o’r Dref Werdd:
“Mae ‘na ryw ddeuddeg mlynedd ers i mi ddod yma i weithio gynta’. Roedd criw cyntaf o arloeswyr y Dref Werdd wedi bod wrthi’n ddygn yn pwyso i gael cynllun fel hyn ymhell cyn i mi landio. Nôl bryd hynny, y gobaith oedd cael cyflenwad nwy. Bellach, gyda’r newyddion yn ddyddiol yn trafod newid hinsawdd, gwyddom mai ateb tymor byr os nad niweidiol fydda hynny.”
Bydd yr astudiaeth yn adnabod cyfleon i weithio efo darparwyr ynni lleol megis Greaves Welsh Slate, Dŵr Cymru, Engie (First Hydro) a Scottish Power, wrth ddarparu atebion cynaliadwy i anghenion ynni fforddiadwy trigolion lleol.
Ychwanegodd Dafydd Watts o Ynni Cymunedol Twrog:
“Mae angen mwy o gynlluniau ynni glân ym mherchnogaeth cymunedau’r ardal, ac mae angen iddi fod yn haws defnyddio mwy o’r ynni ‘dan ni’n cynhyrchu yma at anghenion lleol yn lle dim ond ei allforio trwy'r grid.”
Y weledigaeth ydi y bydd partneriaid yn cydweithio i:
● wneud y cyflenwad gwres yn Nhanygrisiau yn ddi-garbon;
● bod newid i wresogi di-garbon yn hawdd i drigolion Tanygrisiau;
● cadw gymaint a phosib o’r budd yn lleol trwy berchnogaeth leol o’r isadeiledd gwresogi.
Megis dechrau ar y daith o gyd-weithio fydd hyn ac mae cynlluniau cyffrous eraill y gweill i ddatblygu prosiectau eraill ym maes tai, iaith a gwaith wrth ddod a’r budd eithaf i’n cymunedau.
I wybod mwy cysylltwch gydag ynnitwrog@cwmnibro.cymru
---------------------------------------------------
Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon