9.6.21

Stolpia- Pás Gwyllt

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain
Dyma ychydig mwy o’m hanes yn gweithio yn Chwarel Llechwedd yn yr 1960au. Gobeithio bod un neu ddau ohonoch yn cael blas ar ei ddarllen. Yn aml iawn, byddai’n ofynnol inni’r ffitars i fynd i fyny i’r Bonc Uchaf (sef No. 7) ar ryw orchwyl neu’i gilydd, gosod peipiau o’r newydd, neu drwsio yr hen rai, neu wneud rhyw joban yn y felin, sef Melin Sing Sing, a lysenwyd, medd rhai, gan yr hen weithwyr ar ôl y carchar drwg enwog a geir yn Nhalaith Efrog Newydd, U.D.A. Tybed a oedd rhai o’r gweithwyr yn teimlo eu bod fel carcharorion yno? Ynteu, fel yr esboniodd un wrthyf, derbyn yr enw oherwydd bod gan y felin do sinc a wnaeth. 

Beth bynnag, wedi bod yno un tro yn gosod peipiau efo Barry Williams, prentis gof, a hithau bron yn amser cinio, dyma ni’n gofyn am bas i lawr Inclên 7 gan OJ, dreifar yr inclên, er mwyn inni gyrraedd Caban Tŷ Gwyn ar Bonc yr Efail (No 5) mewn pryd.

Wel, byddai wedi bod yn well inni gerdded i lawr o lawer gan fod OJ eisiau mynd am ei ginio hefyd, ac nid oedd ganddo fawr o amynedd i’n gollwng ni i lawr. Pa fodd bynnag, dywedodd wrthym am fynd i eistedd i’r wagen a oedd ar y crimp, a dyma yntau i fyny at y gêr rheoli a dyma fo’n gollwng y wagen i lawr yr inclên, ac o fewn ychydig roedd hi’n mynd fel cath i gythraul, ond tua hanner ffordd i lawr dyma fo’n brecio’n sydyn nes bod y ddau ohonom yn bendramwnwgl dros dîn y wagen a glanio rhwng bariau’r ffordd haearn.

Penderfynu cerdded weddill y ffordd a wnaeth y ddau ohonom wedyn a phan gyrhaeddom ni’r caban ac at ein bwrdd cinio adroddwyd yr hanes wrth y ‘black gang’, fel y gelwid y ffitars a’r gofaint. Dyma Robin George (y gof) yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:

Glywsoch chi bod yr hogia wedi cael pas gwyllt gan OJ?”

Mewn wagan tebyg i hon gafwyd y pas gwyllt
Gyda llaw, dyna’r tro cyntaf imi glywed y term ‘pas gwyllt’ yn y chwarel, sef cael reid go siarp i lawr inclên, ond nid oedd y tro olaf imi ei glywed, chwaith.

Y mae gennyf gof hefyd i Emrys, fy mos, ofyn imi bicio i fyny i’r Bonc Uchaf un bore a thu draw i'r felin i agor un o’r falfiau a fyddai’n ochr tanc dŵr a oedd wedi cael ei osod yn y ddaear yno. Er fy mod wedi bod gerllaw y fan unwaith neu ddwy, nid oeddwn erioed wedi agor y falf, a phan yr es i geisio troi’r olwyn er mwyn i’r dŵr lifo drwy’r beipen, methwn yn lân a’i throi.

Ceisiais ei hagor a’r stilson, wedyn, gan ddefnyddio fy holl nerth, ac er fy mod yn ddyn ifanc go gryf, methais a chael yr olwyn i smiciad dim. Dim byd amdani hi, ond cerdded i lawr i’r Cwt Letrig, a dweud wrth Emrys nad oeddwn wedi gallu ei hagor. Dyma yntau yn egluro beth oedd y rheswm am fy nhrafferth:

“Anghofiais a dweud wrthyt mai falf Americanaidd ydi hi ac yn agor o chwith”  
(Hynny yw, fel symudiad y cloc oedd y ffordd iawn i’w hagor).

Yn ôl a fi, i fyny yno, ac agor y falf o fewn rhyw funud go lew. Bu hyn yn ysgol brofiad imi a phob tro y deuwn ar draws falfiau dŵr mawr wedyn roeddwn yn barod i dreio eu troi nhw o chwith os nad oeddynt yn agor y ffordd arferol.

----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2021

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon