Cefais fy magu yn Ffestiniog, a fy mam o’m blaen. Felly, wrth ddarllen cerdd Gwaenfab am ‘Seindorf Arian Ffestiniog’ ar ddiwedd erthygl W Arvon Roberts yn rhifyn Ionawr Llafar Bro ac yn arbennig y llinell ‘Pwy arafa’r Band llawryfog?’, cofiais am y cwpled herfeiddiol byddai hi yn ei adrodd weithiau:
Band Llan, ennill ymhob man
Band Nantlle, ennill yn unlle.
Cafodd fy ngŵr, nad yw’n hanu o ’Stiniog, hwyl ar ei adrodd i’w gyd-athrawon mewn ysgol yn Y Rhyl.
Ond ni fu i un o’r cwmni, brodor o Ddyffryn Nantlle, ymuno yn y chwerthin. Fel yr hen Cwîn Fictoria – he was not amused.
Roedd y cyfreithiwr (bargyfreithiwr yn ddiweddarach) John Jones-Roberts yn Llafurwr mawr. Safodd yn erbyn yr AS Rhyddfrydol Haydn Jones mewn pedwar etholiad seneddol am sedd Sir Feirionnydd yn y 1920au – yn aflwyddiannus bob tro. Soniai Mam fel y byddai rhai o blant y pentre’n cael hwyl wrth fynd o gwmpas dan lafarganu:-
John Jones Roberts forever, forever Amen;
Haydn yn y gwter a’i din dros ei ben.
Roedd ei wraig, Kate Winifred Jones-Roberts, yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Feirionnydd: ynglŷn â gweinyddu’r gyfraith ac fel aelod o’r Cyngor Sir a’i Bwyllgor Addysg, heblaw bod yn ddarlithydd yn Coleg Harlech.
Hanesyn arall gan Mam oedd am Bryfdir yn arwain cyngerdd gan y band yn yr Hall. Roedd dwy wraig yn siarad yn ddi-baid yn ystod un darn. Mae’n amlwg mai coginio oedd y pwnc dan sylw, oherwydd yn ystod ysbaid pianissimo, clywodd y gynulleidfa gyfan un ohonyn nhw’n dweud yn uchel: ‘efo saim bydda i’n ’u ffrio nhw’, ac yn yr egwyl ar ddiwedd y darn ymatebodd Bryfdir gyda’r sylw ffraeth: ‘Biti na fuasai hi wedi ffrio ei thafod hefyd’.
Soniodd Mam am gwsmer yn gofyn am fisgedi mewn siop yn Llan. Roedd y dewis yn brin ar y pryd, ac eglurodd y siopwr iddo mai ond Ryvita oedd ganddo. ‘Rai fwyta ’dw’i isho, siŵr ddyn’ atebodd yntau.
Roedd y Parchedig Edward Powell, gweinidog ifanc Capel Peniel, yn ddi-briod. Dyma’r llinellau diniwed a luniwyd iddo gan fy ewythr, William Jones, Bodawel mewn noson gymdeithasol:
Mistar Powell yw ein gweinidog.
Gwna ei waith yn wir odidog.
Ond awgrymwn iddo welliant:
Gymryd gwraig yn Gristmas presant.
Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon