22.5.21

Rhod y Rhigymwr- Iaith

Pennod o gyfres lenyddol Iwan Morgan, o rifyn Ebrill 2021

Yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar, clywyd yr Arweinydd, sy’n Aelod Seneddol dros Ogledd-Ddwyrain Gwlad yr Haf, yn cyfeirio at y Gymraeg fel iaith estron. 

Bu’r ymateb yn chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth i’m cof innau ddyfyniad ddarllenais mewn gwerslyfr hanes yn Ysgol Tywyn yn niwedd y chwedegau- dyfyniad gan yr hanesydd o Sais, H.A.L.Fisher:

‘The Welsh had their own language and culture when the English were eating bark in the bogs of Bavaria.’

 

Mae beirdd Cymreig dros y canrifoedd wedi cyfansoddi cerddi di-ri i glodfori’r hen iaith. Diolch i’r cyfaill Gwyn Elfyn, Pontyberem am dynnu sylw ar Facebook at englyn o waith ei hen daid, mab y tyddynnwr o Gwm Croesor a dreuliodd ran helaethaf ei oes yn nhre’r Blaenau - Humphrey Jones, Bryfdir [1867-1947] a hynny mewn ymateb i sylwadau Jacob Rees-Mogg:

Iaith bur, iaith eglur, iaith hyglod, - iaith gref
Iaith â grym ddiddarfod,
Iaith wen annwyl, iaith hen hynod,
Iaith ein beirdd heb well iaith yn bod.

Englynion Gwladgarol’ a gofiaf yn cael eu cyflwyno ar gerdd dant ers talwm oedd y rhai a glywyd ar Facebook ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi eleni, a Peter Rowlands, i gyfeiliant ei wraig, Nia, gynt o’r Vanner, Llanelltyd, yn gwneud hynny mor naturiol ar yr hen gainc ‘Consêt y Siri’:
Mawryga gwir Gymreigydd – iaith ei fam,
Mae wrth ei fodd beunydd;
Pa wlad wedi’r siarad sydd
Mor lân â Chymru lonydd?

Bendith ar iaith fy mabandod, - iaith fwyn,
Iaith fy holl gydnabod;
Mae’n iaith dda, mae’n iaith i ddod
I’r nefoedd ar fy nhafod.

Un o feibion Dinbych, William Williams, Caledfryn [1801-69] ydy awdur y cyntaf, a Robert Williams, Trebor Mai [1830-77] pia’r ail o’r englynion. Wedi ei eni yn Llanrhychwyn, Trefriw, teiliwr yn nhref Llanrwst ydoedd Trebor Mai wrth ei alwedigaeth. Cofiaf ddarllen yn rhywle rywdro mai 'I am Robert' ar yn ôl oedd ei enw barddol.

Un a drigai’n yr ardal yma bedair canrif a mwy yn ôl oedd Edmwnd Prys [1544-1623]. Er iddo gael ei urddo yn offeiriad Ffestiniog a Maentwrog ym 1572, mae’n debyg mai wedi iddo ddod yn Archddiacon Meirionnydd ym 1576 y daeth i fyw i’r Tyddyn Du, Gellilydan, lle’r arhosodd hyd ei farwolaeth. Gwyddom fod Prys yn ŵr dysgedig. Mae’r dyfyniad canlynol yn tystio fod ganddo afael ar nifer o ieithoedd, ond yn datgan fod un o’r rheiny’n rhagori ar y gweddill:

Profais, ni fethais, yn faith,
O brif ieithoedd braf wythiaith;
Ni phrofais dan ffurfafen
Gwe mor gaeth â’r Gymraeg wen.

Dau o gyffiniau Llanbrynmair ym Maldwyn oedd Richard Davies, Mynyddog [1833-77] a Richard E. Jones, Glan Ednant [1852-1927]. Fel ei gyfoeswr, John ‘Ceiriog’ Hughes, [1832-87], roedd Mynyddog yn fardd poblogaidd ymysg y werin bobol. Mae rhai o’i ganeuon yn dal yn boblogaidd heddiw … rhai fel Myfanwy [a ystyrir ‘y gân serch orau’n y byd’], a’r gerdd wladgarol ysgafn, Gwnewch bopeth yn Gymraeg.

Cerdd arall o’i eiddo ydy Gwerthu’r Gymraeg [cyflwynedig i deulu Dic Shôn Dafydd]. Yn y Gymru ddwyieithog sydd ohoni, dyfynnaf yr olaf o’i phenillion:

Mae dysgu iaith y Saeson
Yn rhinwedd ymhob dyn,
Ac wrth reolau rheswm
Mae dwy yn well nag un;
Ond pam y rhaid i’r hogiau,
Wrth ddysgu newydd aeg
Fynd yn rhy falch i siarad gair
O’r annwyl hen Gymraeg?
Na wertha dy Gymraeg
Am unrhyw estron aeg;
Ti elli ddysgu iaith y Sais
A chadw dy Gymraeg.
A dyma gyngor Glan Ednant, er nad ydw i’n siŵr a fyddai Rees-Mogg yn llwyr gytuno:
Pan eloch i ffwrdd oddi cartref
I rywle na wyddoch i ble,
Siaradwch hen iaith eich cyndadau,
Ni chlywir ei gwell tan y ne’;
Oblegid mae’n well gan y Saeson
Eich clywed yn siarad Cymraeg –
‘Does dim â yn fwy at eu calon
Na’ch clywed yn mwydro eu haeg;
Siaradwch Gymraeg, siaradwch Gymraeg,
‘Does iaith ar y ddaear mor goeth â’r Gymraeg.

Ym 1892 y cyhoeddodd Syr John Morris-Jones [1864-1929] ei awdl Cymru Fu: Cymru Fydd. Dangos ei anfodlonrwydd ynglŷn â Chymru ei gyfnod a wna’r bardd gan ymfalchïo yng ngogoniannau’r gorffennol. Cyfeiria at y bonedd a drigai yma gynt ac a fyddai’n noddi ei beirdd:

Gwŷr iawn a garai’r heniaith,
Gwŷr hael a garai ei hiaith.
Ond roedd y sefyllfa erbyn cyfnod ysgrifennu’r awdl wedi dirywio’n enbyd:
Ein hiaith i’n bonedd heddyw,
Barb’rous jargon’ weithion yw,
Sŵn traws y ‘
peasant’, a rhu
I’r ‘
ignorant’ ei rygnu.

Cân wladgarol y bu llawer o ganu arni dros y blynyddoedd oedd un Eifion Wyn [1867-1926] - Eu Hiaith a Gadwant. Mae pendantrwydd hon yr un mor gyfoes o hyd:

Gwnawn, ni a’i cadwn. Os aed â’n gwlad,
Nid aed â’n heniaith oddi ar ein had;
A mefl ar dafod yr unben rhaith
A’i gwnelo’n gamwedd in garu ein hiaith.
O fannau Epynt i fannau Llŷn,
Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.

Canodd W. Rhys Nicholas [1914-96], y barddbregethwr a’r emynydd oedd yn enedigol o Ogledd Penfro gerdd brydferth i’r Iaith Gymraeg:

Ti sy’n fy rhwymo wrth y tiroedd mwyn
Ac wrth dreftadaeth na all neb ei dwyn;
Dy briod-ddulliau sydd fel clychau clir
I’m galw’n daer at wleddoedd bras fy nhir …

Ti sy’n trysori rhin y dyddiau gynt
A’r hoen sydd heddiw’n afiaith yn y gwynt;
Os bydd fy sêl i’th arddel ‘fory’n llai,
Maddeued Crëwr pob rhyw iaith fy mai.

A dyma roi’r gair olaf i Roger Jones [1903-82], bardd-bregethwr arall ac englynwr sicr ei drawiad o Roshirwaun, Llŷn. Dyma fel y canodd yntau i’r Iaith Gymraeg:

Iaith fy nghân, iaith fy ngeni, - iaith olau,
Iaith aelwyd a chwmni;
Iaith ddi-nam fy mam i mi,
Iaith gyhoeddus, iaith gweddi.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon