Pob mis mae Iwan Morgan yn gosod tasg i'r rhigymwyr, a mis Mai symbylodd y dasg ar gyfer rhifyn Mai:
Mai sydd yn persawru’r blodau,Roedd un o’r cwpledi ddaeth i law -gan GWENLLIAN- yn cydio mor grefftus y sefyllfa yn yr Wcráin wrth linell yr hen fardd, Dafydd Nanmor, o’r 15fed ganrif:
Mai yw teiliwr y petalau ...
Ond â’r rhyfel fel rhyferthwyMae hyn wedi fy nhywys innau i edrych ar hen nodiadau coleg a luniais dros hanner canrif yn ôl. Fel yr awgryma’i enw barddol, un o gyffiniau Nanmor, Beddgelert oedd Dafydd. Yn ôl y gwybodusion, fe’i hanfonwyd o’i ardal enedigol gan ddeuddeg o reithwyr, a hynny am iddo ganu cywyddau i wraig briod o’r un gymdogaeth. ‘Gwen o’r Ddôl’ [Dolfriog] oedd y wraig honno. Cawn y bardd wedi hynny yn Neheudir Cymru, yn derbyn nawdd gan yr uchelwr, Rhys ap Meredudd o’r Tywyn, gerllaw aber Afon Teifi.
‘A ddylai Mai ddeilio mwy?’
Fel Dafydd ap Gwilym ac eraill o feirdd yr uchelwyr, ystyriwyd Dafydd Nanmor yn gywyddwr o fri. Dyma ran o’r cywydd gwych a gyfansoddodd ar ôl i’w gariad farw – ‘Marwnad Merch.’ Does dim dwywaith nad hwn ydy’r cyfeiriad tristaf a mwyaf dirdynnol sy’n bod at fis Mai:
Caru merch ifanc hirwen,
a marw wnaeth morwyn wen.
Gweddw am hon yn y bronydd
yw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd.
Os marw hon yn Is Conwy -
ni ddylai Mai ddeilio mwy!
Gwywon yw'r bedw a'r gwiail
ac weithian ni ddygan' ddail.
Och un awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd...
Cywydd enwog arall a gyfansoddwyd dan amgylchiadau tebyg oedd un Llywelyn Goch ap Meurig Hen, oedd yn byw rai blynyddoedd cyn Dafydd Nanmor. Roedd yn gysylltiedig â theulu Nannau, plwyf Llanfachreth, Dolgellau.
Canu marwnad i Lleucu Llwyd o Ddolgelynnen, sydd ar lan Afon Dyfi rhwng Machynlleth a Phennal wnaeth Llewelyn. Dyma’n sicr un o’r cerddi dwysaf o’i bath yn yr Iaith Gymraeg. Dros y canrifoedd, tyfodd cylch o draddodiadau am garwriaeth Llywelyn a Lleucu.
Dyfynnaf ddarnau o’r cywydd angerddol hwnnw:
Llyma haf llwm i hoywfardd,
a llyma fyd llwm i fardd...
Nid oes yng Ngwynedd heddiw
na lloer, na llewych, na lliw,
er pan rodded, trwydded trwch,
dan lawr dygn dyn loer degwch.
Y ferch wen o'r dderw brennol,
arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
cyd bych o fewn caead bedd.
Gwae fi fod arch i'th warchae!
A thŷ main rhof a thi mae;
Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
breuddwyd dig briddo dy dâl!
Clo dur derw, galarchwerw gael,
a daear, deg dy dwyael,
a chlyd fur, a chlo dur du,
a chlicied; yn iach, Leucu!
- - - - - - - - -
Addasiad o erthygl yn rhifyn Mai 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon