10.12.22

Crwydro Rhiw a Thrin Cerrig

Achosodd y Covid broblemau go fawr i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog fel y gwnaeth i bawb arall; fe stopiodd ein cyfarfodydd ym mis Chwefror 2020 ond yr ydym wedi graddol ail-afael ynddi, ond yn ystyrlon o’r ffaith nad yw Covid wedi’n gadael. 

Soniwyd yn Llafar Bro eisoes am ein cyfarfod cyntaf – yn Llys Dorfil, ac mi gafwyd cyfarfod yn yr awyr-agored eto ym mis Medi.

Arweiniodd Steffan ab Owain ni ar daith o gwmpas ei gynefin – sef ardal Glanypwll a’r Rhiw. Rhoddodd hanes datblygiad yr ardal, o fferm fynyddig i un o’r pentrefi a ddaeth wedyn i greu tref Stiniog. Wrth gerdded o gwmpas, tynnodd ein sylw at rai enwau tai sy’n eu clymu yn ôl i’r dyddiau cynnar; mae hyn yn dangos pwysigrwydd cadw yr hen enwau gwreiddiol ar dai. 

Yr oedd llawer o hanesion difyr hefyd am hen drigolion nifer o’r tai ac am y busnesau a oedd yn y rhan hon o’r dref. Yr oedd yn rhyfeddol cymaint o hanes oedd i’w gael mewn ardal mor fechan. 

Wedyn, fe aeth Dafydd Roberts â ni i weld gweithdy David Nash yng Nghapel y Rhiw a daeth y cerflunydd ei hun atom i’n croesawu. Edrychwn ymlaen i fynd yn ôl i ardal y Rhiw ac i ddysgu mwy rywbryd eto.


Braf iawn ydoedd ail-afael yn ein cyfarfodydd arferol ym mis Hydref, ar ôl cyfnod mor faith a da oedd gweld cynifer wedi dod ynghyd – a nifer o aelodau newydd yn eu plith. 

Y siaradwr yng nghyfarfod Hydref oedd Vivian Parry Williams a’i destun oedd ‘Trin Cerrig’. Gyda chymorth lluniau, aeth a ni o gwmpas y fro gan dynnu sylw at rai o’r meini mawrion sydd yn yr ardal. 

Yr oedd rhai ohonynt yn dangos olion rhew-lifoedd ac eraill yn dangos ôl llaw dyn. Yr oedd chwedlau hynafol wedi eu cysylltu â rhai o’r meini ac eraill â chysylltiadau crefyddol. Diddorol oedd clywed enwau rhai o’r meini a sylweddolwyd y pwysigrwydd o gofnodi rhai o’r enwau hyn rhag iddynt fynd yn angof. 

Vivian Parry Williams yn cyflwyno'i sgwrs, a thu cefn iddo llun o’r Garreg Drwsgl sydd ar ochr y llwybr i fyny’r Manod o GwmTeigl, gerllaw Cae Canol Mawr.

Diolchwyd i Vivian gan Dafydd Roberts, llywydd y gymdeithas, a diolchodd hefyd i Aled Williams, prifathro Ysgol Maenofferen am gynnig cartref mor gyfleus i’r gymdeithas. Yr oedd wedi mynd o’i ffordd i drefnu  ystafell fawr ar ein cyfer, ble y teimlai pawb yn ddiogel. 

Rhai o luniau VPW: Cwpan y Rhufeiniaid yng Nghwmbowydd; Carreg Buwch yn amlwg ar y gorwel uwchben Melin Pant yr Ynn -dim ond pan mae niwl tu ôl iddi mae hi mor amlwg a hyn; Carreg Defaid wrth yr ysbyty.

Y siaradwr yng nghyfarfod Tachwedd oedd Gareth Tudor Jones, yn sôn am Streic Fawr y Llechwedd yn 1893. Cawn adroddiad o'r noson honno yn Llafar Bro Rhagfyr.

Cofiwch bod rhifyn 2022 o’r cylchgrawn Rhamant Bro ar gael o’r siopau lleol – cryn fargen am £4 (neu £6 drwy’r post: hanes.stiniog@gmail.com)
Gareth Jones

- - - - - - - - - - -

Addaswyd o erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2022.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon