4.7.20

Freeman Evans

Bu elusen leol yn falch o roi cyfraniad ariannol i alluogi Llafar Bro i gyhoeddi dau rifyn digidol eleni. Gwyddwn mor werthfawr ydi’r papur i lawer iawn o drigolion yr ardal.

Mae Elusen Dydd Gŵyl Dewi Freeman Evans Ffestiniog, a sefydlwyd gan ewyllys Robert Freeman Evans (1988), yn ‘rhoi cymorth i’r henoed anghenus, tlodion, a phobl anabl a dioddefwyr salwch tymor hir ym Mlaenau Ffestiniog a Llan Ffestiniog’ yn ogystal ag i gymdeithasau a chlybiau lleol sy’n cyfrannu at lesiant cymuned Ffestiniog ac at amcanion yr ewyllys.

Ymysg y cymdeithasau sydd wedi cael nawdd yn y flwyddyn/ddwy ddwetha’ mae Clwb Rygbi Bro Ffestiniog; Clwb Pêl-droed yr Amaturiaid; a Chlwb Beicio Ieuenctid Antur Stiniog, sydd i gyd yn cyfrannu at iechyd trigolion ac at falchder cymunedol; a’r Ganolfan Gymdeithasol sy’n gartref i ganolfan ddydd yr henoed ac amryw o weithgareddau cymunedol eraill. Cefnogwyd cynlluniau amrywiol i wella systemau gwresogi a thoiledau, darparu hyfforddiant, prynu offer, a gwella cyfleusterau defnyddwyr.

Rydym bellach hefyd wedi dosbarthu cannoedd o dalebau - yn werth £30,000 i gartrefi parhaol yn y Blaenau a Llan, er mwyn cefnogi trigolion yr ardal yn ystod yr argyfwng covid, ac hefyd er mwyn cefnogi rhai o’r siopau lleol. Yn ôl y negeseuon yr ydym wedi eu derbyn, a’r ymateb ar ein tudalen facebook, mae’n ymddangos bod croeso cynnes wedi bod i’r weithred yma. Rydym yn falch i gyfrannu at lesiant y gymuned a gweithredu dymuniadau olaf Robert Freeman Evans.

Llun- Paul W
Mae nifer wedi bod yn holi am gefndir yr elusen. Dyma ychydig o hanes y gŵr a’i sefydlodd:

Ganwyd Robert Freeman Evans yn Llanddulas ar y 1af o Fawrth 1895 yn fab i Robert a Sidney Evans.  Tua 1899 bu i’r teulu symud i Hafod Offeiriad, Ffestiniog i ffermio. Yn 1911 roedd y teulu yn byw yn 160 Brif Heol, Blaenau Ffestiniog gyda’r tad yn chwarelwr erbyn hyn a chanddynt 4 o blant sef-
Robert Freeman yn 16 oed ac yn saer coed;
Ellen Evans yn 14 oed;
Elisabeth Evans yn 12 oed;
William Freeman yn 9 oed.

Cafodd Robert ei brentisio fel saer yn yr ardal a bu’n gweithio yma nes iddo fynd i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y rhyfel bu’n ddifrifol wael gyda niwmonia dwbl a bu bron iddo farw.
Ar ôl y Rhyfel Mawr roedd yn anodd cael gwaith yn yr ardal yma ac mi aeth i Fanceinion i weithio.
Yno, creodd bartneriaeth gyda John Griffiths ac roeddynt yn gweithio yn trwsio tai ar ôl llanast y Rhyfel. Bu i gwmni oedd wedi cael tir gan y De Trafford Estate i adeiladu tai fynd i’r wal a gadael llawer o dai heb eu cwblhau. Gwelodd Freeman ei gyfle a gofynnodd i’r ystâd am dir i adeiladu tai arno.  Cytunodd yr ystâd i hyn ar yr amod ei fod yn cwblhau’r tai oedd ar eu hanner.

Erbyn hyn roedd wedi gadael y bartneriaeth gyda John Griffiths ac wedi creu ei gwmni ei hun sef Freeman Evans & Co, a bu’n gyfrifol am adeiladu cannoedd o dai ym Manceinion cyn yr Ail Ryfel Byd, ac mi gadwodd ambell un yn ôl fel ei fod yn gallu eu rhentu allan.

Mae’n amlwg bod hyn wedi bod yn amser llewyrchus iawn iddo gan iddo brynu fferm yn Ninbych cyn dechrau’r rhyfel.  Nid oedd yn ffermio ei hun ond yn cyflogi dyn i redeg ei fferm iddo. Erbyn 1940 roedd wedi adeiladu tŷ iddo’i hyn ar dir y fferm sef Llys House, ei gartref hyd y diwedd.
Bu’n gynghorydd ar Gyngor Tref Dinbych am flynyddoedd maith ac yn Faer y dref ddwywaith.
Roedd yn dal i gadw gweithdy a chyflogi dynion i wneud gwaith cynnal a chadw ar ei dai hyd ei farwolaeth yn Hydref 1985, yn 90 oed.

Gadawodd arian yn ei ewyllus er mwyn ffurfio dwy elusen: un yn Ninbych a’r llall yn ‘Stiniog, gydag ymddiriedolwyr lleol yn rheoli’r elusennau er budd y ddwy gymuned.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cyfarfod yn y gwanwyn ac yn yr hydref bob blwyddyn i ystyried ceisiadau.

Bydd croeso i chi holi am ffurflen gais yn hwyrach yn y flwyddyn ar gyfer ffenest yr hydref, trwy yrru ebost i swyddfa@elusenfreemanevans.cymru neu holi am ffurflen yn swyddfa’r Cyngor Tref.

Sylwer os gwelwch yn dda, na fydd unrhyw un o’r ymddiriedolwyr yn rhannu nac yn derbyn ffurflenni cais, ac ni ddylid cysylltu â nhw'n uniongyrchol. Rhaid gyrru ffurflenni yn ôl, unai trwy ebost, neu at Freeman Evans, Blwch Post 73, Blaenau Ffestiniog, LL41 9AL. Diolch yn fawr.
-----------------------------------

Addasiad yw'r uchod o erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Ebrill a Mai 2020.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon