12.7.20

Croeso i Gymru . . . ?

Erthygl gan Glyn Lasarus Jones

Ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud ym Mhrydain ddiwedd fis Mawrth, cafwyd adroddiadau lu yn y wasg am dwristiaid yn heidio i Gymru. Y mae’r achos wedi dangos mor ddiymgeledd ydym. Ni allwn warchod ein cymunedau a’n pobl ein hunain hyd yn oed.

Clywyd hanesion yn y wasg hefyd am berchnogion carafanau a thai haf yn sleifio dros y ffin liw nos. Roedd rhai – lleiafrif, fe hoffwn feddwl – yn cyfiawnhau eu teithiau gan ddweud eu bod yn cyfrannu at yr economi leol, ac y dylem ni, frodorion anniolchgar, fod yn fwy gwresog ein croeso.

Ond tybed pa mor werthfawr yw twristiaeth i Gymru mewn gwirionedd, yn arbennig y math a welir yng Nghymru? Un mudiad sydd wedi bod mor hyf â sôn am or-dwristiaeth yw Cylch yr Iaith.

Tynnant ar ymchwil wyddonol arloesol 'Effeithiau Twristiaeth ar yr Iaith Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru’ (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth), sy’n dangos y berthynas annatod rhwng twristiaeth, mewnfudo, a dirywiad y Gymraeg. Y ddadl yw bod twristiaeth yn annog ymwelwyr i ymsefydlu mewn ardal ac agor rhagor o gyfleusterau at fudd ymwelwyr eraill, sydd yn ei dro yn arwain at fwy o ymwelwyr, a llif o lafur rhad i’w gwasanaethu - yn aml o blith y dosbarth ymwelwyr ei hun. Y canlyniad yw bod ardaloedd twristaidd yn raddol droi yn ‘barciau thema’, sy’n cael eu rhedeg ar y cyfan gan gyn-dwristiaid er budd twristiaid newydd. Digwydd hyn yn aml ar draul pobl leol gan eu prisio allan o'u hardaloedd a chyfyngu ar nifer ac ansawdd y tai a'r swyddi sydd ar gael iddynt.

Ymhellach, mae cydnabyddiaeth gyffredinol nad yw swyddi yn y diwydiant ymwelwyr ar y cyfan yn talu’n dda iawn. Dywed Eurostat (Swyddfa Ystadegau Y Comisiwn Ewropeaidd) bod “costau ac enillion llafur yn y diwydiannau twristiaeth yn tueddu i fod yn sylweddol is nag y maent yn yr economi cyfan.

Pa syndod felly mai gorllewin Cymru yw -nid yn unig rhanbarth tlotaf y Deyrnas Gyfunol- ond  rhanbarth tlotaf gogledd Ewrop gyfan, a hyn er gwaethaf (neu efallai oherwydd?) yr holl ymdrechion adfywio economaidd diweddar sy’n seiliedig i raddau helaeth ar borthi’r llo aur hwn. Yn ddiddorol, yr ail ranbarth tlotaf yw Cernyw - man arall lle bu cryn sôn am or-dwristiaeth. Cyd-ddigwyddiad?

Yn ddadlennol iawn, dywed Pwyllgor Twristiaeth a Thrafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd* mai un o’r ffactorau sy’n cyfrannu at or-dwristiaeth yw dynodiad statws UNESCO, statws a ddaw o bosib i’r ardal hon cyn bo hir.

Nid problem i Gymru yn unig yw gor-dwristiaeth wrth gwrs. Disgrifiodd yr anthropolegydd disglair Theron Núñez ei effaith ar bentref Cajititlán ym Mecsico fel concwest gan oresgynwyr. Yng Ngwlad y Basg, Swistir, Fiji a Hawaii, yr un yw’r canfyddiad o hyd - mai ychydig o ddatblygiadau twristaidd sydd yn nwylo’r brodorion; mai ychydig yw’r brodorion a gyflogir; ac mai cyfran fechan iawn o’r arian a gynhyrchir sy’n aros yn lleol. Yn wir, yn Hawaii disgrifia’r brodorion dwristiaeth fel math newydd o siwgr - yn felys i’r tafod ond yn ddrwg i’r dannedd.

Nid fod twristiaeth yn broblem ynddo’i hun wrth gwrs. Gor-dwristiaeth yw’r broblem.  Yn eu hastudiaeth achos o fannau sy’n dioddef o’r cyfryw effaith, mae Pwyllgor Twristiaeth a Thrafnidaeth yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi sylw i sawl lle:
•    Mallorca a Venice, lle gwelwyd protestiadau gwrth-dwristiaeth.
•    Agia Napa ar ynys Cyprus; Dulyn a’r Ynys Hir yn Yr Alban, lle gwelwyd twristiaid eu hunain yn cwyno am or-dwristiaeth.
•    Lisbon, canol Prâg a chanol Warsaw, lle gwelwyd allfudiad trigolion a phreswylwyr.
•    Bucharest ac ardal UNESCO Geirangerfjorf yn Norwy, lle  gwelwyd problemau amgylcheddol.
Nid yw Cymru ar y rhestr – efallai am mai rhestr faith o wledydd sy’n mynd ati i liniaru effaith gor-dwristiaeth yw hi, ac nid ei hyrwyddo.

Dengys y map isod yr ardaloedd hynny lle mae Pwyllgor Twristiaeth a Thrafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn arbennig o bryderus amdanynt. Dim ond llond llaw sydd yna: Ardal y Llynnoedd, Cernyw, Arfordir Croatia, rhan o Sbaen, Cyprus, ac ie yn wir, Cymru yn ei chyfanrwydd bron iawn – lle mae iaith frodorol leiafrifol yn y fantol hefyd.


Beth yw’r ateb tybed?
Ar dir mawr Ewrop mae treth dwristiaeth yn gyffredin iawn. Pleidleisiodd ein Cynulliad yn erbyn hyn yn lled-ddiweddar.

Mae gan Gymru draddodiad hir o dorchi llewys ac ymdrechu drosti ei hun. Cododd ein hynafiaid gapeli efo’u dwylo eu hunain, yn aml yng ngolau’r lleuad ar ôl diwrnod o lafur caled. Ymladdasant â’r mynydd i gael tipyn tir i fwydo’u teuluoedd. Sefydlasant brifysgol â’u henillion prin i addysgu eu plant. Cymry fu’n gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd (Aneurin Bevan) a’r Pensiwn Gwlad (Lloyd George), a hefyd y mudiad cydweithredol (Robert Owen y Drenewydd).

Yma yn ardal Llafar Bro, rydym yn ffodus fod gennym ni gnewyllyn da o gwmnïau cydweithredol, oll o dan ymbarél medrus iawn Cwmni Bro Ffestiniog. Ysgwn i ai dyma’r ateb? Adfer perchnogaeth o’n heconomi ein hunain, fel y rhedir hi er budd Cymru ac nid er cyfleustod gwlad arall. Onid gwych o beth fyddai cael asiantaeth tai gwyliau cydweithredol ym mherchnogaeth yr ardal? Mae’r fath bethau yn bod yn yr Alban, yn ôl a glywais. Ac onid gwychach fuasai cael rhyw gronfa genedlaethol lle gellid prynu adeiladau a chyfleusterau a’u rhedeg fel metrau cymunedol er budd Cymru a’i hiaith?

Ysgwn i ai dyma’r ateb? Prynu Cymru’n ôl – tyddyn wrth dyddyn, erw wrth erw, bricsen wrth fricsen.

Mae’r dyfodol yn ein dwylo.


 * gwybodaeth a map o ddogfen o'r enw 'Research for TRAN (Transport and Tourism) Committee - Overtourism: impact and possible policy responses' (Senedd Ewrop, Hydref 2018), t76.
-----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020.
Mae'r rhifynnau digidol i gyd ar gael i lawr-lwytho o wefan Bro360.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon