Showing posts with label dydd calan. Show all posts
Showing posts with label dydd calan. Show all posts

1.1.26

Calan a Chalennig

STOLPIA

Blwyddyn Newydd Dda, a Dydd Calan Hapus!

Rŵan, pam yr ydym yn ei alw yn Ddydd Calan, meddech chi? Wel, yn ôl yr arbenigwyr, tarddiad y gair ‘calan’ yw’r gair calandae neu kalandae a ddaw o’r iaith Lladin, sef gair am ddiwrnod cyntaf pob mis o’r flwyddyn.

Bu hyn mewn defnydd am bob mis yng Nghymru gynt, ond bellach y tri pennaf yw Dydd Calan, Calan Mai, sef diwrnod cyntaf mis Mai, a ‘Calan Gaeaf’ am Dachwedd 1.

Gair sy’n tarddu o’r gair calan yw ‘calennig’, sef anrheg neu rodd a geir ar Ddydd Calan, neu ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Hyd at tua dechrau’r 1960au roedd ‘hel calennig’, neu ‘hel clennig’ ar lafar, ar ddechrau’r flwyddyn, sef galw o dŷ i dŷ yn eich ardal i ofyn am anrheg yn hen draddodiad yma ac yn y siroedd mwyaf Cymreig. 

Heddiw, y mae’r gair yn hollol ddieithr i ran fwyaf o’r oes bresennol. Cofiaf fel y byddem ni’r hogiau yn y Rhiw a Glan y Pwll yn hel clennig yn yr 1950au, ac anelu’n gyntaf am y cartrefi hynny gyda’r modd mwyaf a wneid gan amlaf, er y byddid yn cael mwy gan y trigolion tlotaf yn aml. 

Fel arfer, rhyw ychydig o gnau, minciag, cyflath neu oren a dderbynnid oddi wrth y cyfranwyr  a byddem yn ddiolchgar amdanynt. Os cofiaf yn iawn, dyma’r rhigwm a glywid gennym pan eid o ddrws i ddrws:

Calennig a chalennig a Blwyddyn Newydd dda
neu 

Calennig a Blwyddyn Newydd Dda, Llond y tŷ o dda.

Pa fodd bynnag, os gwrthodid rhoi clennig i ni, ac yn enwedig gan y rhai a fyddai braidd yn sarrug a phiwis efo ni, byddid yn ei adrodd fel hyn:

Blwyddyn newydd ddrwg, Llond y tŷ o fwg 

- a gwadnu hi oddi yno am y tai nesaf a chyn 12:00 pan fyddai’r amser hel wedi dod i ben. Deallaf y byddid yn canu neu’n adrodd fel hyn yn ambell ardal:

Calennig yn galonog
I blant bach sydd heb un geiniog
Dyma un arall:

Y nghlennig, y nghlennig, Blwyddyn newydd dda i chwi, 

Meistr a meistres a phawb trwy'r tŷ, 

Welwch chwi'n dda roi Calennig i mi, Calennig!

- - - - 

RHOD Y RHIGYMWR

Dyma ni wedi cyrraedd dechrau blwyddyn arall, a dyma fanteisio ar y cyfle i ddymuno blwyddyn newydd ddedwydd dda i bob un ohonoch.

Wrth fynd yn hŷn, mae’r duedd i edrych yn ôl ar yr hen ddyddiau yn dod yn naturiol i mi.
Yr arferiad ar fore Dydd Calan fyddai mynd o gwmpas y pentre i hel calennig. Mae’n debyg fod fy chwaer a minnau ymysg y rhai olaf o Gorris i wneud hynny. Byddai’n rhieni’n ein rhybuddio rhag mynd i ambell le, gan y bydden ni eisoes wedi derbyn calennig gan y sawl a drigai yno. 

Ychydig geiniogau gaem ni ran fynychaf. Byddem yn ffodus ambell dro o gael chwe cheiniog neu swllt, ond weithiau, fe gaem ni ddeuswllt neu hanner coron - oedd yn swm sylweddol o arian bryd hynny. Y pennill fydden ni’n ei lafarganu oedd:

‘Fy nghlennig i, fy nghlennig i
A blwyddyn newydd dda i chi.
Mi godais yn fore, mi gerddais yn ffyrnig
At dŷ Musus ....... i ofyn am glennig.
Unwaith, dwywaith, teirgwaith,
A blwyddyn newydd dda i chi.’
Roedd hi’n demtasiwn gennym, os na ddeuai neb at y drws, i weiddi:
'Blwyddyn newydd ddrwg, a llond y tŷ o fwg!'
Cofiwn fynd i dŷ rhyw hen wreigan i ganu calennig. Doedd honno ddim yn enwog am ei glanweithdra, ond yn hen beth ffeindia’n fyw. Rhoddodd fagiad o gyflaith inni. Wedi diolch iddi a ffarwelio, rhoesom ychydig o’r taffi triog yn ein ceg. Roedd yn siwgr i gyd. Hwnnw wedi cydio yng ngwaelod y sosban a blas llosgi mawr arno. Wrth redeg i lawr y ffordd, ffling gafodd y cwdyn cyflaith dros y clawdd i gae Dafydd Tynewydd. Am hen blant anniolchgar yntê!

Symudodd rhyw frawd a chwaer di-Gymraeg i Fryn Awel yn y pentref, gerllaw i dŷ ein hewyrth a’n modryb. Daethom ninnau i ryw lun o’u hadnabod o’r herwydd. Roedd cael pobl o’r fath yn beth amheuthun yn niwedd y pumdegau pan oedd pawb bron yng Nghorris yn siarad Cymraeg. Mae pethau wedi newid yn syfrdanol yn y pentref bellach.

Ar fore Dydd Calan 1960, aethom i fyny’r grisiau cerrig at eu tŷ, a chyflwyno pennill Saesneg a ddysgodd rhywun i ni, ar yr alaw - o bob un dan haul - ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’:

‘The road is very dirty,
My shoes are very thin,
I haven’t got a pocket
To put my penny in.
If you haven’t got a penny,
A ha’penny we will do,
If you haven’t got a ha’penny,
Well God bless you!’
Daeth yr hen fachgen at y drws gan ddweud wrthyn ni nad oedd ganddo geiniog yn ei feddiant, felly, dyma roi dime bob un inni. Y flwyddyn wedyn, pan aethom i Fryn Awel, dyma ganu’r un pennill, gyda’r llinellau canol wedi eu diwygio:
‘If you haven’t got a shilling,
A sixpence we will do!’
Digon ydy dweud nad atebodd y brawd y drws i blant mor bowld!
Pennill arall i’w adrodd ar fore Dydd Calan y cofiwn ein Mam yn ei ddysgu i ni oedd hwn:
‘Calennig i mi, calennig i’r ffon,
Calennig i’w wario y flwyddyn hon,
Calennig i mam am glytio fy sane,
Calennig i nhad am drwsio fy sgidie.’
 
- - - - -
Rhannau o ddwy erthygl -gan Steffan ab Owain ac Iwan Morgan- a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025

 

3.1.20

Stolpia- hel calennig

Pennod arall o gyfres Hynt a Helynt Hogia’r Rhiw yn y 50au, gan Steffan ab Owain.

Erbyn hyn mae diwrnod cyntaf y flwyddyn wedi bod, a hynny am byth bythol. Wrth gwrs, y mae sawl Dydd Calan wedi mynd heibio ers yr 1950au, ac mae’r byd wedi gweld newidiadau mawr ers y dyddiau hynny. Un o’r pethau hynny yw’r hen draddodiad o ‘hel Calennig’, sef galw o gylch cartrefi cyfagos i geisio am rodd gan y preswylwyr. Ar ôl rhoi cnoc ar y drws, byddid yn cyfarch y perchennog a geiriau tebyg i’r canlynol:
‘Calennig a Chalennig
A Blwyddyn Newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Blwyddyn Newydd dda i chi’.
Ychydig iawn o anrhegion a ddeuai Siôn Corn i amryw ohonom yn dechrau’r pumdegau a chofio hefyd mai cyflogau bychain a enillai’r rhan fwyaf o weithwyr ein chwareli'r adeg honno.  Pa fodd bynnag, roedd hi’n amser cyffrous arnom ni’r plant yr un fath, ac edrychem ymlaen yn eiddgar at y Nadolig yn ogystal â Dydd Calan.

Y Fari Lwyd yn aros am rhywun i alw... (Llun- Paul W)
Gan amlaf anelai rhyw dri, neu bedwar ohonom, am y cartrefi gyda thipyn o gyfoeth ynddynt, megis tai swyddogion y chwarel, tai athrawon ac ambell dŷ siop efallai.  Ond, os nad oeddem wedi codi’n fore, byddai dim llawer o groeso i’w gael gan breswylwyr y tai oherwydd byddai rhai o’r plant eraill wedi galw yno o’n blaenau. Ambell dro, byddai rhai a atebai’r gnoc ar y drws yn ddigon cwta gyda ni ar ôl inni eu cyfarch gyda’n geiriau ‘Calennig a Ch'lennig’, ac os digwyddent wrthod rhoi dim inni byddid yn brasgamu oddi yno a bloeddio:
‘Calennig a Chalennig a Blwyddyn Newydd Ddrwg...
A llond eich tŷ o fwg!’
Cofiaf fynd adre’ ambell Ddydd Calan gyda’m pocedi yn llawn cnau, ac ambell oren fach, neu afal yn fy llaw.  Yn aml iawn, wedi derbyn y rheiny gan bobl nad oedd mor gefnog yn ein cymdeithas. 

Cofiaf hefyd inni gael cyflaith (cyflath ar lafar) gan un neu ddau, er nad ‘cyflaith’ go iawn mohono chwaith, ond slapiau o daffi triog du, a blas ychwaneg arno!  Weithiau byddem yn cael siocled bach tenau a minciag fel dolly mixtures, neu daffi melyn rhad. Oedd, roedd Dydd Calan Ionawr fel diwrnod Nadolig arall inni. Gyda llaw, bu bron imi anghofio dweud, roedd hel calennig yn dod i ben am hanner dydd, ac ni fyddai neb yn ateb y drws inni, na rhoi dim ar ôl yr amser penodedig.

Diddorol oedd darllen y pwt canlynol am ardal Tanygrisiau yn y Rhedegydd am y flwyddyn 1907 ynglŷn â hel calennig:
“Un ffordd boblogaidd ymhlith y plant i dreulio rhan o’r diwrnod ydyw ‘Hel calennig’.Beth bynnag am ddechreuad yr arferiad hwn, y mae’n amlwg ei fod erbyn hyn yn dreth drom ar lawer yn ein hardaloedd, yn gymaint felly nes peri bod masnachdai, &c yn gauad hyd hanner dydd, er mwyn gael heddwch. Os felly, onid gwell fyddai rhoddi yr arferiad i lawr trwy gadw y plant gartref ? Yn sicr roedd y plant yn wrthrychau tosturi a chydymdeimlad dydd Mawrth diwethaf, pan yn gwibio yn ôl a blaen trwy yr eira toddedig i geisio calennig, a hynny yn ofer mewn llu o enghreifftiau”.
Y mae hi’n amlwg ei bod yn anodd hel calennig hyd yn oed tros gan mlynedd yn ôl, heb sôn am yr 1950au. Os cofiaf yn iawn, y tro olaf imi weld un yn hel calennig o ddrws i ddrws oedd tua 12 mlynedd yn ôl, a dim ond un bachgen bach ar ben ei hun oedd hwnnw.  Y mae’r arferiad bellach wedi ei ddwyn gan noswaith Calan Gaeaf gyda’i 'thric neu drȋt' a gwisgo fel gwrachod a bwganod o bob math, onid yw?

Wel, os na gawsoch chi galennig eleni, gobeithio y cewch chi Flwyddyn Newydd Dda.
Steffan ab Owain.
----------------------------------

Addasiad o erthygla a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2019 (heb y llun).


2.1.16

Beth am fod yn un o olygyddion Llafar Bro

Blwyddyn newydd dda! Wnaethoch chi adduned dydd Calan? Bwyta llai o bwdin... prynu neges yn lleol... cerdded yn amlach...?

Wel, beth am fod yn un o olygyddion Llafar Bro?
Dyma erthygl gan Tecwyn Vaughan Jones, o rifyn Tachwedd 2015 

Diddordeb? Be mae o’n ei olygu? Pam?
Gydag ymddeoliad un o’n golygyddion mae Llafar Bro bellach yn chwilio am un golygydd newydd.

Pan ddes i 'nôl i fyw yn yr ardal ddeng mlynedd yn ôl cefais fy ngwahodd i fod yn un o’r
golygyddion a chyda cryn nerfusrwydd yr euthum ati i baratoi fy rhifyn cyntaf. Ond, roedd digon o help ar gael ac fe aeth popeth yn wych ac mae’n deimlad arbennig gweld y rhifyn yn ymddangos o’r wasg.

Llun- Beca Elin

Os oes diddordeb gennych yna holwch unrhyw un o’r golygyddion sydd a’u henwau ar dudalen 2 y papur* neu cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Vivian.

Mae chwech ar y tîm golygyddol ac mae hynny’n golygu mai dim ond dau rifyn fydd angen ei olygu bob blwyddyn. Prif waith y golygydd yw casglu eitemau at ei gilydd, yn golofnau misol, yn newyddion bro ac yn erthyglau bro … unrhyw beth mewn gwirionedd sy’n gysylltiedig â’r Fro neu sy’n debygol o fod â diddordeb i bobl leol. Mae nifer o’r rhain yn cyrraedd yn electronig unwaith dach chi wedi hysbysebu eich cyfeiriad e-bost ac mae’r gweddill yn mynd i Siop yr Hen Bost i Heddus ac Eira, y teipyddion, eu casglu ac wedi'r teipio ei roi ar go’ bach (flashdrive) a’i roi i’r golygydd perthnasol.

Medrir mynd a’r rhifyn cyfan ar go’ bach [neu yrru trwy e-bost] i’r wasg (ac mae gwaith y golygydd ar ben wedyn) ac mae’r rheini yn gosod ac argraffu'r papur wrth gwrs.

Mae’r Ysgrifennydd yn trefnu gyda chymdeithasau lleol pwy fydd yn plygu’r papur rhyw wythnos ar ôl i’r gwaith fynd i’r wasg.

Mae pethau wedi newid! Dim cymaint â hynny o waith ond mae’r gwaith mwyaf wedi ei gywasgu i ddau benwythnos sef y penwythnosau ar ôl y deadline am 5pm ar y nos Wener olaf y mis fel rheol.

Pam? Wel i mi mae wedi bod yn fraint cael bod yn olygydd Llafar Bro am bron i ddeng mlynedd rŵan. Mae rhywun yn datblygu cysylltiad rhyfeddol efo’r gymuned and yn dod i wybod pob math o newyddion y gellir ei gyhoeddi neu ddim ei gyhoeddi fel mae’r golygydd yn tybio orau! A’r cyflog, wel mae hwn yn dod o dan y categori ‘llafur cariad’ ac mae’r cyflog hwnnw yn werth tipyn may nag ambell i bunt neu fwy!

Ymunwch â ni ar dîm Llafar Bro ac fe gewch chithau gyfle i wneud gwahaniaeth mewn perthynas i newyddion y Fro. Byddwch yn rhan o fudiad Cymraeg sydd wedi gweddnewid y ffordd mae newyddion yn cael ei ddosbarthu … Dowch atom heddiw …


* [ac ar y wefan yn fan hyn]