Ail hanner erthygl Bruce Griffiths, o'i gyfres Iaith 'Stiniog
Eira: dywedem bwrw eira, wrth gwrs, ond i mi mae pluo eira yn cyfleu’r peth yn dlws iawn. Cofiaf glywed eira mân, eira mawr: [Yn ôl Owen John Jones, yn ei Dywediadau Cefn Gwlad, mae ail linell: pluo’n fras, ond cynfas] tybed a ddywedid hyn cyn heth ddiddiwedd 1947? (Gair yn tarddu o’r Saesneg, mae’n debyg.) Bu’r ysgolion ynghau am chwe wythnos, os iawn y cofiaf. Cliriwyd Stryd Fawr y Blaenau ar gyfer cerbydau, ond golygodd hynny godi cloddiau o eira, uwch na’ch pen, ar hyd y pafin o bob ochr i’r stryd, gan adael felly lwybr cul fel twnnel, rhwng y mur eira a thu blaen y siopau. Gwasgfa fyddai trio pasio rhywun. Ym mhobman arall ceid lluwchfeydd anferth: dyn a ŵyr sut yr eid at ffermydd a thyddynnod cefn gwlad. Ni redai trenau na bysus am wythnosau, onid am fisoedd.
Ond o’r diwedd oer i rewi, oerach i feirioli. ‘Dyna air tlws,’ meddai dysgwraig wrth Ann fy ngwraig yr wythnos o’r blaen. Cytuno! Dadmer a ddywedir ym Môn ac Arfon, a dadlaith/ dadleth yn y De. Y meiriol y galwem y cyfnod. Byddai Meirioli ym Meirionnydd yn enw tlws ar alaw, mi greda’ i. Holodd Ann am esgyrn eira, ymadrodd da ar gyfer gweddillion eira yn gorwedd mewn pantiau ar y mynydd, y byddai rhai yn dweud yn aros am ragor. Mae’n enw llyfr gan Robin Williams, ond ni wn i ddim ai fo a’i fathodd ai peidio. Ni chlywais mohono erioed yn y Blaenau.
Ar ôl glaw trwm, mi sylwasoch, mae’n siŵr, ar glytiau o ddaear ar y llethrau, yn loyw gan law. A oes neu a oedd gennym enw arnynt? Mi glywais yr enw clytiau Marsli gan bobl o ochrau Llŷn ac Eifionydd. Holais y Dr Trefor M. Owen, (gynt pennaeth Sain Ffagan) perthynas imi trwy briodas, ac un o’r ardal, a eglurodd mai enw merch oedd Marsli, ffurf ar Marjorie, a geid yn ei deulu ers cenedlaethau.
Ar ôl glaw, siawns na welem enfys: dyna’r gair a gofiaf i, ond mi wn fod pont y glaw - enw tlws, addas - i’w glywed trwy rannau helaeth o Sir Feirionnydd a Sir Ddinbych, ac fe glywir yr enw yn y chwarae plant, (tebyg i Oranges and Lemons yn Lloegr) lle byddai dau blentyn, tan ganu ‘pwy ddaw, pwy ddaw dan bont y glaw?’yn cydio dwylo ei gilydd i ffurfio bwa y byddai’r plantos eraill yn rhedeg oddi tani nes y delid un trwy ollwng y ‘bont’ amdano/amdani! Clywir, neu fe glywid, hyn ym Mhenmachno, ond ni alla’i ddweud imi fod yn gyfarwydd â’r chwarae yn y Blaenau. Trueni, ynte? Buasai’n ffordd dda o ddathlu diwedd arni’n tresio glaw. (Gyda llaw: chi enweirwyr: nid ‘brithyll enfys’ mo rainbow trout, ond brithyll seithliw!) Gelwid diwrnod o law a heulwen bob yn ail yn ddiwrnod priodas llwynog.
Dyma ambell dric tywydd arall a gofiaf. A welsoch yr awyr yn heulog ac yn las, ond yn frith o gannoedd o gymylau bychain gwynion - nid arwydd o law er hynny. Cofiaf fy nghyfyrder Gwyn Thomas, pan oeddem yn crwydro o gwmpas Dolwen, yn dysgu imi mai traeth awyr, neu awyr draeth, oedd hynny (mackerel sky, a ddywed y Sais, am ei debygrwydd i gefn macrell). Rhyfeddod prinnach ydy’ cŵn haul: sef yr haul a heuliau eraill yn gylch trefnus o’i gwmpas, ond heb fod mor loyw a thanbaid. Cofiaf weld yr haul a thri chi o’i gylch, ar lan y môr yn Llanfair ger Harlech, yn 1976.
Weithiau gellir gweld rhyw ddwsin o heuliau, yn ôl tystion geirwir. Arwydd o beth, ni wn i ddim. Sawl tro gwelais byst haul, sef pelydrau cryfion yn torri trwy gymylau trwchus [bysedd haul medd rhai –gol].
 |
Bysedd haul, 'ta pyst haul ydi'r rhain i chi?
|
A beth am y nos? Ceir nosweithiau gweddol olau, wrth gwrs, megis
noson olau leuad neu (efallai)
noson loergan, ond mi fetia’i fod noson dywyll
fel bol buwch neu fel y
fagddu yn fwy cyfarwydd. Cyn imi anghofio: yn ei lyfr
Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd, nododd fy hen gyfaill, Bedwyr Lewis Jones, y sylw am Foel y Gest: ‘
Pan fydd y Foel yn gwisgo’i chap/ Ni cheir fawr hap ar dywydd’, a’r un sylw am Garn Fadrun a’r Rhiw. Cofiaf yn iawn sôn am rybudd ‘
y Moelwyn yn gwisgo’i gap’, ond ni chofiaf unrhyw ail linell fel’na. A gofiwch chi?
Oes arnoch awydd gwybod rhagor am y tywydd? Ewch i siop yr Hen Bost a holi am Am y Tywydd: Dywediadau, Rhigymau ac Ofergoelion, gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch, 2008 a Dywediadau Cefn Gwlad Owen John Jones (Gwasg Gee, 1977). Byddai llyfr Bedwyr wrth eich bodd, o ran hynny (Gwasg Carreg Gwalch, 1987) a llyfr Trefor Owen, Welsh Folk Customs.
Bruce Griffiths.
-----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020, fel rhan o erthygl hirach.
Gwthiwch ar y ddolen IAITH STINIOG i weld gweddill y gyfres.
(Lluniau- Paul W)