Showing posts with label bodio. Show all posts
Showing posts with label bodio. Show all posts

2.11.20

STOLPIA- Tro yn ôl i 1958-1963

Cyfres Steffan ab Owain


Y mae sawl peth wedi aros yn fy nghof yn dilyn ambell ddigwyddiad o ddiwedd y pumdegau a dechrau’r chwedegau. Cofiaf un haf braf iawn fynd i ymdrochi i bwll yn afon Goedol uwchlaw Rhaeadr Dolwen gyda’m cyfaill Philip Roberts (Philip Heulfryn) a mwynhau ein hunain yn iawn yno. Wel, roedd hynny’n wir am y tro cyntaf, a’r ail dro, ond pan aethasom yno y trydydd tro cawsom dipyn o fraw. Fel yr oedd Phil yn codi i fyny o’r dŵr sylwais bod ei goesau ag ugeiniau o bethau duon tebyg i falwod arnynt, ac yna, edrychais innau ar fy nghoesau a gweld yr un math o bethau, ac wrth gwrs, sylweddoli mai gelod oeddynt yn glynud ar groen ein coesau ac yn ceisio sugno ein gwaed. Dyna’r tro olaf i ni o’n dau fynd i ymdrochi i’r pwll hwnnw.

 

Rhaeadr Dolwen ac un o byllau’r Afon Goedol


Ffawd-heglu eto
Cofio ffawd heglu sawl tro yn nechrau’r chwedegau o odre domen Penybont ac yn ffodus i gael pas i Betws y Coed, Llanrwst a phellach, ar adegau. Pa fodd bynnag, cofiaf un tro i un gyda motobeic a seidcar stopio a chynnig pas i mi a chyfaill, ond gwrthod a wnaesom y tro hwnnw, gan ddiolch iddo am y cynnig.
 

Dyma lun rhywun arall efo motobeic a seidcar ger y fan lle byddem yn ffawd-heglu yn y chwedegau a chyn iddynt ledu’r ffordd fawr yn yr 1970au, ac yn ddiweddarach. Sylwch, dim llinellau gwynion ar y ffordd fawr gul na llygaid cathod. Polion trydan yn gwyro i gyfeiriad y ffordd a dim sôn am draffig trwm a diddiwedd.
 


Dro arall, arafodd un gŵr gyda’i gar gerllaw y fan lle byddem yn bodio, ac fel yr oeddem yn bras gerdded am ei gar, i ffwrdd a fo gan godi ei law a chwerthin i lawr ei lawes. Byddid yn clywed gan hogiau eraill am rai yn gwneud tric sâl fel hyn, a byddai amryw yn eu diawlio yn iawn.Weithiau byddid yn cael pas ar gefn lorri neu dryc a chofiaf dau ohonom yn cael pas i Betws y Coed un tro, a hithau yn oer yng nghefn y lorri, ac erbyn inni gyrraedd pen ein siwrnai roeddem wedi fferru. Dro arall, cofiaf Brei a finnau yn cael pas adref o Fetws y Coed gan ŵr lleol caredig, ond wedi inni fynd i mewn i’w gar, a oedd yn weddol newydd, fe ddywedodd yn syth, mi fuaswn wedi eich pasio pe baech a phaciau ar eich cefn. Cawsom weld ei reswm, ar ôl iddo ddweud ei fod wedi rhoi pas i ryw fachgen gyda phac ar ei gefn rhyw bythefnos ynghynt a phan ddaeth i eistedd ar sedd gefn y car mi fachodd pin un o’r byclau a oedd ar ei bac yn lledr y sedd a’i rhwygo yn ddrwg. Gallwch feddwl nad oedd yn hapus o gwbl ar ôl bod yn Samariad da y tro hwnnw.
 

Dyna oedd hanes amryw ohonom ni’r hogiau yn y chwedegau cynnar yn ffawd-heglu heb feddwl dim am beth a allasai ddigwydd inni ar ein siwrnai gyda gyrwyr dieithr yn aml iawn. Y mae hi’n wahanol byd heddiw ac ychydig sydd yn ffawd-heglu ar ein priffyrdd a phrin iawn yw’r rhai sydd yn barod i godi neb y dyddiau dyrys hyn. 


(Lluniau o gasgliad yr awdur)
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Stolpia (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view' i weld y dolenni)

 

5.5.20

Stolpia- ffawdheglu

Parhau â chyfres Steffan ab Owain: Hogiau’r Rhiw yn yr 1960au

Yn ystod yr 1960au gwelwyd tro newydd ar fyd gyda llawer iawn o ffasiynau newydd yn cyrraedd pob cwr o’r wlad, yn wisgoedd, a phob math o drugareddau modern, megis y ‘jukebox’ yn y caffis a’r radio dransistor i wrando ar ganeuon pop, ayyb. Heb os nac onibai, gellir dweud y bu chwyldro ym myd pobl ifanc ymhob man o’r bron.

Ymhlith y pethau a ddaeth yn boblogaidd gan lawer o’r to ifanc yn y cyfnod hwn oedd ffawdheglu, neu bodio lifft gan gerbydau i ryw le penodol. Er nad oedd llawer iawn o geir ar y ffordd y pryd hynny roedd gyrwyr yn barotach i godi ffawdheglwyr yn enwedig os byddent eisiau sgwrs efo rhywun ar ran o’u taith. Wrth gwrs, byddai  amryw o yrwyr o’r Blaenau a’r Llan a adnabyddid ni yn dda yn ein codi a rhoi pas inni tros y mynydd i Fetws y Coed, neu Lanrwst, neu weithiau ymhellach, ac i leoedd fel Llandudno neu Fae Colwyn.

Yn aml iawn, mynd i weld gêm bêl droed, neu i ryw sioe neu ffair a fyddem, neu i chwilio am recordiau pop i’r siopau, neu dro arall mynd i’r pictiwrs yn Llanrwst, ac wrth gwrs, edrych am ferched del tra yno yn gwmni inni, ynte.

Y mae gennyf gof o fynd i Lanrwst un tro gyda chyfaill imi i weld rhyw ddigwyddiad yn y cae wrth y Bont Fawr a bodio yno a wnaethom. Cawsom bas yr holl ffordd yno o’r Rhiw gan ryw ŵr caredig a oedd ar ei ffordd i Landudno, neu rywle. Beth bynnag ar ôl inni gael ein gollwng ganddo gyferbyn a’r bont anelwyd am y sioe a chael golwg ar y gwahanol bethau yno. Wedi treulio rhyw ddwy awr neu fwy yno, ac wedi dechrau laru ar gerdded ogylch y lle, penderfynasom ei throi hi am adre a ffawdheglu unwaith yn rhagor. Wedi cerdded ychydig bellter o dref Llanrwst i gyfeiriad Betws y Coed, a sawl car wedi mynd heibio ni, daeth ‘Samariad trugarog’ yn y man a rhoi pas inni, ac rwyf bron yn sicr mai un o Fachynlleth oedd y gyrrwr.

Beth bynnag, wedi iddo ein holi a gofyn ymhle yr oeddem eisiau ein gollwng, mi ddywedodd ei fod wedi cael damwain gyda’r car ger y ‘Tro Mawr’ pan oedd ar ei ffordd i Gonwy yn ystod y bore hwnnw. O fewn ychydig clywsom sŵn drwg yn dod o un o’r olwynion blaen, a digwyddai hynny bob tro yr ai’r car ar drofa i’r dde –cnoc, cnoc, am dipyn, ac yna dim byd am sbel. Wel, ar ôl teithio rai milltiroedd a chyrraedd Pont y Pant, a thrwy Ddolwyddelan, heibio’r ffordd fach at orsaf Roman Bridge a’r sŵn o’r olwyn yn gwaethygu, dechreuodd y car ddringo am y Tro Mawr a phryd hynny tynnodd ein sylw at y fan lle cafodd bancan gyda’i gar.

Llun o gasgliad yr awdur
Wedi iddo fynd i fyny wedyn a heibio’r fan lle byddai cwt y graig gan ddynion trwsio’r ffordd fawr, dyma sŵn ofnadwy o’r olwyn flaen ar ochr chwith y car, sef ochr y teithiwr, a dyma chwalfa a chlec. Roedd yr olwyn wedi dod i ffwrdd yn gyfangwbl o’i le, ac yn y cyfamser roeddwn i a’m cyfaill yn ein braw wedi neidio allan o’r sedd gefn, a sylwasom bod yr olwyn yn rowlio i lawr yr allt yn ei hôl i gyfeiriad y Tro Mawr. Daeth y gyrrwr o’r car, yntau wedi dychryn hefyd, a phan ddaeth at ei hun, roedd mewn penbleth beth a oedd am wneud gyda char tair olwyn. Sylwodd bod y nyts a ddaliai’r olwyn yn ei lle wedi diflannu.


Beth bynnag ichi, roedd car arall yn dod i fyny’r rhiw i’n cwfwr a stopiodd y gyrrwr hwnnw a dal yr olwyn treigledig, a dod a hi i fyny atom. Dau frawd o’r Blaenau oedd yn y car, ac ar ôl gweld sefyllfa’r dyn druan, dyma un yn awgrymu i’r gŵr dieithr dynnu un nytan oddi ar yr olwynion eraill a’u defnyddio i roi yr olwyn rhydd yn ei hôl, a dyna a wnaed gyda rhybudd iddo gofio cywiro’r sefyllfa ar ôl cyrraedd adref. Nid oes cof gennyf ai gyda’r gŵr o Fachynlleth yr aethom adref, neu gyda’r ddau frawd. Pa fodd bynnag, dyna un o’n profiadau ffawdheglu yn yr 1960au.

Bu sawl un arall, coeliwch fi.
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'Web View' os yn darllen ar ffôn)