2.1.25

Sefyll yn y Bwlch

Ar ddydd Sadwrn y 9fed o Dachwedd bu aelodau a chefnogwyr YesCymru Bro Ffestiniog yn chwifio baneri ar ochr yr A470 ar Fwlch Gorddinan, y Crimea. 

Roedd 26 o ganghennau trwy Gymru yn cymryd rhan y bore hwnnw er mwyn tynnu sylw, fel un, at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. ‘Baneri ar Bontydd’ ydi enw’r ymgyrch, ond gan nad oes gennym unrhyw bontydd addas dros y ffordd fawr yn ein dalgylch, rhaid bod yn greadigol efo’n lleoliadau ac mae sefyll yn y Bwlch yn addas iawn. 


Cafwyd cefnogaeth arbennig gan yrrwyr a theithwyr i’n harddangosfa liwgar o faneri, a hyn y codi calon y rhai ddaeth allan yn yr oerfel. Diolch i Mari a genod caffi’r llyn am wneud cawl blasus, i’n cynhesu wedyn!

Diolch yn fawr i Gyngor Gwynedd am alw ar lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros Ystâd y Goron i Gymru. Mae YesCymru wedi cynnal ymgyrch genedlaethol i dynnu sylw at yr anhegwch fod yr holl incwm o diroedd y goron yng Nghymru yn mynd yn syth i drysorlys Llundain ac i deulu’r brenin, gan gynnwys incwm o gynhyrchu trydan dŵr a gwynt; pibelli dŵr a cheblau dosbarthu trydan; rhent pori, pysgota; trwyddedau i gloddio am lechi; ac yn y blaen. 

Wyddoch chi er enghraifft fod Cyngor Gwynedd yn gorfod talu £161,000 bob blwyddyn -eich arian treth chi a fi cofiwch- i’r goron am ‘hawl’ i gael mynediad i’r traethau?! 

Mae rheoli’r ystâd wedi ei ddatganoli i’r Alban ers blynyddoedd a nhw sy’n cael gwario’r incwm yno. Pam ddim Cymru?

Mae pedair Sir arall yng Nghymru wedi cefnogi’r alwad hefyd [mwy erbyn hyn], ac o leiaf un arall yn trafod tra oedd Llafar Bro yn y wasg. Rydym ni fel cangen wedi gohebu efo’r cyngor tref a’r cynghorau cymuned yn ein dalgylch, yn gofyn iddyn nhw hefyd datgan cefnogaeth.

Os gawsoch chi galendr newydd gan Sion Corn, cofiwch nodi fod ein noson Caban nesa ar Nos Wener, 31 Ionawr, efo Meinir Gwilym yn canu, a Rhian Cadwaladr yn rhoi sgwrs. Ar nos Wener olaf y mis bach bydd y canwr lleol Garry Hughes yn diddanu a’r arbennigwr gwleidyddol, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Richard Wyn Jones yn rhoi sgwrs. Noson ola’r gyfres fydd yr 28ain o Fawrth efo Ffion Dafis ac Osian Morris. Gwledd o nosweithiau adloniant; diwylliant; chwyldro! Welwn ni chi yno.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024