9.12.25

Senedd Stiniog -Torchi Llewys

Er i gyfnod yr haf fod yn brysur dros ben, nid oes seibiant wrth i aelodau’r siambr dorchi llewys i ymwneud â’r gwaith a’r cynlluniau diweddaraf.

Ymgasglodd y Cynghorwyr ar yr 8fed o Fedi ar gyfer y cyfarfod misol arferol. Cafwyd ymweliad gan Sam Edwards, swyddog menter newydd o’r enw Perthyn, ac fe eglurodd yn fras i’r siambr beth oedd pwrpas y fenter. Dywedodd ei fod yn cynnig cymorth i fudiadau a mentrau cymunedol newydd drwy gynnig cyngor am unrhyw grantiau cychwynnol sydd ar gael, ffioedd cofrestru, costau twrnai ayyb. Eglurodd fod y mudiad yn cyfro Conwy, Môn a Gwynedd a bod yr iaith Gymraeg yn elfen annatod ohono. Awgrymodd y Cynghorwyr y dylent gysylltu â Menter y Wynnes a Chwmni Bro hefyd i weld a fyddai modd iddynt gydweithio yn y dyfodol. Diolchwyd iddi am ei chyflwyniad ac am ei hymdrech i ddod o flaen y Cyngor Tref.

Derbyniwyd gohebiaeth gan aelod o’r cyhoedd yn holi ynglŷn â sefyllfa’r hen giosg ffôn ar Stryd Glynllifon. Nid oes unrhyw ddefnydd yn cael ei wneud ohono ar hyn o bryd a does dim ffôn wedi bod ynddo ers tro byd, a does gan y Cyngor Tref mo’r hawl i’w ddymchwel. Cytunodd y Cyngor Tref i’w gadw dan glo ar hyn o bryd ac i edrych ar y posibilrwydd o roi ‘De-fib’ ynddo yn y dyfodol agos.

Mae’n amhosib bellach i gael cyfarfod heb i’r Parc godi ei ben. Nid newyddion drwg tro yma diolch byth, ond penderfyniad y dylai’r Clercod drefnu a chyfweld a phenodi swyddog fydd yn gyfrifol am agor a chau’r gatiau er mwyn ceisio cael gwell trefn ar y lle. Trefniad byr dymor bydd hwn oherwydd tenantiaid y Pafiliwn fydd yn gyfrifol am hyn pan fydd yr adeilad hwnnw’n barod i rywun fynd iddo. Y sefyllfa ar hyn o bryd - mae’r cynlluniau’n ôl yn nwylo’r pensaer yn dilyn ymweliad safle gan is-bwyllgor y Cyngor Tref. Manylwyd ar y rhestr waith gwreiddiol a phenderfynwyd gwneud newidiadau iddo. 

Wrth sôn am y Parc, parhau mae saga’r MUGA! (Ardal Chwarae Aml-ddefnydd... multi-use games area) Disgwyl mae’r Cyngor i gael prisiau gan ambell gwmni er mwyn codi uchdwr y ffens o’i amgylch. Gan mae arian cyhoeddus sy’n cael ei wario, mae’n rhaid cael dyfynbrisiau gan wahanol gwmnïau. Mae’r broses yn hirwyntog weithiau ac mae angen amynedd sant, fel trio troi tancer yn Llyn Ffridd ond, dyfal donc….

O dan eitem “Rhybudd o Gynnig”:

• Soniwyd bod Maer tref Rawson, Chubut, eisiau cryfhau’r cyswllt sydd rhyngddynt hwy a ninnau’n Stiniog. Cytunodd bawb fod hyn yn beth da. Rydym, fel y gwyddoch, yn anfon un aelod ifanc o’n cymdeithas yno’n flynyddol a braf fyddai cael croesawu person ifanc o Batagonia yma atom ni yn yr un modd. Cytunodd y Cynghorydd Rory Francis i lunio cytundeb teithio ffurfiol gyda thref Rawson. 

• Cais gan y Cynghorydd Marc Thomas i archebu dwy fainc ar gyfer trigolion Manod, i’w cyfnewid â’r hen rai gyferbyn â’r Wynnes. Mae’r ddwy sydd yno wedi cael llawer o ddefnydd ac wedi gweld dyddiau gwell. Cytunodd pawb.

Yn y cyfarfod Mwynderau (22/09), manylwyd a derbyniwyd yr adroddiadau diweddaraf gan swyddogion y Llwybrau Cerdded, y Caeau Chwarae a Chynnal a Chadw. Gwelwyd bod ychydig o waith clirio coed angen ei wneud o bopty rhai o’r llwybrau cerdded ond mae rhai pethau yn gyfrifoldeb Cyngor Gwynedd. Felly, cytunwyd i basio’r pethau hynny ymlaen i Gaernarfon a gofyn am gael diweddariad ganddynt pan fydd y gwaith wedi ei wneud. 

Cytunwyd i brynu hadau blodau gwyllt cynhenid i’r Berllan, ynghyd â llogi peiriant ysgraffio am benwythnos. Hefyd, fe gytunwyd i brynu offer, bylbiau ac yn y blaen ar gyfer ein meithrinfa fach newydd (fydd dan oruchwyliaeth ein garddwyr). Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad dechreuol hwn yn arbed arian sylweddol i’r Cyngor Tref yn y dyfodol gan ein galluogi i dyfu planhigion ein hunain ac felly’n dileu’r angen i brynu blodau o feithrinfeydd allanol. 

Penderfynwyd hefyd wneud cais i 'Cadw Cymru’n Daclus' am eu pecyn ‘Perllan’. Mae’r pecyn yn cynnwys 15 coeden, 320 o fylbiau cynhenid, offer garddio ac ati. Dwi’n siŵr y cytunwch ei fod yn becyn gwerth i’w gael. Mae’r clerc mewn cysylltiad â nhw eisoes.

Yn dilyn cais gan glwb pêl-rwyd y dref, cytunwyd i ofyn i'r cwmni a osododd y cae MUGA yn y Parc i gynnwys marciau cwrt pêl-rwyd arno. Bydd yn siŵr o gael defnydd cyson gan y clwb.

Derbyniwyd gohebiaeth gan gwmni ‘Crazy Road Walls’, yn holi tybed a fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn cael ymgynghoriad ar-safle hefo nhw i drafod y posibilrwydd o gael Parc Sglefrio newydd. Fel y gwyddoch, mae’r un hen wedi ei ddymchwel am iddo ddechrau mynd yn beryglus i’w ddefnyddio. Cytunwyd i fynd ymlaen â hyn gan obeithio y cawn gyngor arbenigol gyda’r prosiect - o’r grantiau sydd ar gael i’r adnoddau diogelwch diweddaraf ayyb. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu pan gawn ddyddiad penodedig, gan obeithio y daw pawb sydd â diddordeb draw i’r safle i gyfrannu.

Digon i gadw pawb yn brysur dros y gaeaf felly.

Hwyl am y tro, DMJ. Safbwynt fy hun yn unig.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon