Cynhaliwyd cyfarfodydd arferol misol y Cyngor dros fis Hydref. Braf cael dweud nad oedd galwadau am unrhyw gyfarfodydd anarferol brys - fel y bu’n digwydd dros yr haf. Arwydd nad oedd unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu drychineb yn yr ardal!
Er, bu trafodaeth am gyflwr truenus y Queens yn y Cyfarfod Arferol (13/10/25). Daeth dwy o ferched oedd yn arfer gweithio yno draw atom i’w drafod, (mae lle priodol i aelodau’r ardal ddod i’r Siambr at y Cyngor i sôn am bethau sydd o bwys iddynt. Mae lle arbennig wedi ei neilltuo i hyn ym mhob Cyfarfod Arferol, dan yr eitem, ‘Cyfranogiad y Cyhoedd’). Dywedodd y merched eu bod yn tybio fod pethau cudd, dan-dîn wedi bod yn mynd ymlaen yno. Dywedwyd fod ein cynrychiolwyr gwleidyddol eisoes yn trio dod o hyd i atebion, ond, yn anffodus, roedd y Cyngor gymaint yn y tywyllwch a hwythau. Cydymdeimlwyd â hwy, dywedwyd y byddai’r Clercod yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw newydd y byddem yn ei dderbyn.

Rhai o faneri Diffwys. Lluniau Paul W
Penderfynwyd ar restr baneri i’w hedfan ar bolyn baner Diffwys dros y flwyddyn. Roedd angen diweddaru’r rhestr. Mae’r Cyngor am barhau i chwifio’r baneri sydd o bwys inni’r Cymry dros eu cyfnodau priodol ynghyd â baneri’r gwledydd Celtaidd eraill o Ynysoedd Prydain a Llydaw, a’r bwriad yw eu hedfan dros ddyddiadau eu seintiau cenedlaethol neu ddyddiau cenedlaethol arbennig iddynt.
Yn dilyn y trafodaethau diweddar i atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng Ffestiniog ac ardal Rawson ym Mhatagonia, cytunwyd i archebu, fframio ac anfon dau grys fel rhodd i’w Cyngor yno. Un crys rygbi Bro ac un crys pêl-droed yr Amaturiaid.
Wythnos yn ddiweddarach, yn y Cyfarfod Mwynderau (20/10/25), derbyniwyd crynodeb arolygon misol arferol gan y Swyddog Caeau Chwarae a’r Swyddog Llwybrau Cerdded. Adroddwyd bod y caeau chwarae mewn cyflwr da yn gyffredinol ond bod angen torri ychydig o wrych sy’n tyfu i’r ffordd yng Nghae Baltig. Dywedodd y Cynghorydd Marc Thomas bod ardaloedd y gôl-geidwaid o flaen goliau’r cau chwarae ym Manod mewn cyflwr gwael iawn, a bod ychydig dameidiau o hen grochenwaith yn dechrau dod i wyneb y pridd, rhywbeth fydd yn sicr o gael sylw yn y Siambr dros y misoedd nesaf. Cafwyd gwybod bod camfa bren ar lwybr afon Barlwyd wedi torri gan yn Swyddog Llwybrau Cerdded a bydd y Clercod yn rhoi gwybod i Gyngor Gwynedd am hyn.
Cytuniwyd i dderbyn dyfynbris i ymestyn rhwydi’r ardal chwarae aml-ddefnydd MUGA yn y Parc, a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn yr wythnosau nesaf.
Hwyl am y tro, safbwynt fy hun yn unig, DMJ
- - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025 (heb y lluniau)

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon