Mae Cyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog yn ôl i godi’n calonnau, am y pedwerydd gaeaf. Ac am noson gafwyd ar nos Wener olaf mis Hydref!
Roedd Tŷ Coffi Antur Stiniog yn llawn dop eto, a phobol wedi dod o bell ac agos i fwynhau sgwrs a chân gan Dafydd Iwan, yn ogystal â chyflwyniad gan gadeirydd cenedlaethol YesCymru, bwyd da Burrito Blasus Blaenau, a diod a chroeso cynnes Helen yn y caffi.
Phyl Griffiths agorodd y noson, efo cyflwyniad i’r argraffiad diweddaraf o’r llyfryn hanfodol ‘Annibyniaeth yn dy Boced’. Bwriad y llyfryn ydi ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am annibyniaeth i Gymru – mewn ffordd gyfeillgar, ffeithiol ac hawdd ei ddeall.
Un ddadl gyffredin yn erbyn annibyniaeth ydy bod Cymru, â’i phoblogaeth o 3.16 miliwn yn “rhy fach” i fod yn annibynnol. Ond mae 18 o genhedloedd annibynnol yn Ewrop yn unig sydd â llai o boblogaeth. Ymhlith yr enghreifftiau, mae: Lithwania – 2.7 miliwn; Slofenia – 2.1m; Cyprus – 1.26m; Lwcsembwrg – 672,000; Gwlad yr Iâ – 375,000 -Beth sydd gan y cenhedloedd hyn yn gyffredin? Nid eu maint, na gallu a doniau eu pobl, ond y ffaith eu bod yn genhedloedd sofran sydd â rheolaeth lawn dros eu heconomïau.
Mae ar gael yn Siop Lyfrau’r Hen Bost am £5, neu gallwch ei lawr-lwytho am ddim o wefan cy.yes.cymru
Gyda Delyth yn arwain y noson efo’i gofal a’i gallu arferol, mi glywsom rywfaint o hanes Dafydd Iwan: ei fagwraeth; ei ddeffroad gwleidyddol; troeon trwstan, ac wrth gwrs ei yrfa gerddorol hirhoedlog a llwyddianus. Ac mi ddewisodd gasgliad o ganeuon arbennig i gyd-fynd efo’i hanesion. Wrth gwrs, Yma o Hyd oedd yn cloi’r noson a bu’r gynulleidfa’n cyd-ganu efo fo ac yn cyd-ddyheu am ddyfodol gwell i Gymru. Diolch i bawb gyfranodd at noson gofiadwy arall.
Ar benwythnos prysur o weithredu gan ganghennau’r mudiad trwy Gymru, bu nifer o gefnogwyr Bro Stiniog yn chwifio baneri dros annibyniaeth ar Bont Maentwrog mewn haul braf fore Sul, yr ail o Dachwedd, a chael cefnogaeth arbennig gan y gyrrwyr a’r teithwyr. Heb os, mae’r gefnogaeth yn cynyddu a hynny’n codi calon y criw hwyliog!

Dim ond rhai o griw YC Bro Stiniog yn dangos eu lliwiau ym Maentwrog
Mae hanes noson Caban Tachwedd, efo Gwyn Vaughan Jones, Siri Wigdel, a Gai Toms ar gael yn rhifyn Rhagfyr rwan. Yn y cyfamser, cofiwch ddilyn YesCymru Bro Ffestiniog ar y cyfryngau cymdeithasol! PW
- - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025
Dolen at hanes nosweithiau eraill y gyfres
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon