12.12.25

Stolpia -Y Dwymyn Aur

Rhwng y blynyddoedd 1848 ac 1860 bu i gannoedd o ddynion ddal ‘y dwymyn aur’ ac aeth llawer ohonynt o Gymru, ac amryw o wledydd eraill, i chwilio am y mwyn melyn gwerthfawr yng Nghaliffornia, U.D.A, a  thalaith Victoria yn Awstralia. 

Aeth rhai o’r ardal hon i Ballarat oddeutu 1856. Digwyddodd yr un peth eto fyth rhwng 1896 ac 1899 pan ganfuwyd aur yn y Klondyke, yn rhanbarth Yukon, gogledd-orllewin Canada. Y mae’n rhaid bod y rhuthr am aur wedi cael dylanwad ar chwarelwyr ein hardal gan iddynt enwi ponc yn Chwarel Holland gynt yn ‘California’, a rhan o Chwarel Llechwedd yn ‘Klondyke’- lle dywedir y canfuwyd tipyn bach o aur. 

Yn y llun cyntaf cawn olygfa o’r rhuthr am aur yn y Klondyke ym 1898, Bu cloddio am aur yn ‘Stiniog hefyd, sef yng Nghwm Bywydd, Cwm Teigl, Cwm Cynfal, Llwynygell, a sawl lle ar y Migneint. Bu ewythr i’r diweddar Jo Wyn Jones, Prifathro Ysgol Maenofferen gynt, yn gyrru’r lefel yng Nghwm Bywydd ym mis Mai 1888. ‘Yr Ogof Aur’ yw’r enw gan rai ar y lefel sydd ar ochr dde i’r llwybr sy’n arwain draw at ymyl Tyn Cefn. Darganfuwyd plwm, arian ac aur ar dir Teiliau Mawr hefyd yn 1889.

Yn yr 1880au bu rhai yn chwilio am aur ym mro Trawsfynydd, sef ar diroedd Plas Capten, Yr Ysgwrn a Bod Fuddai. Bu dau o’r Blaenau yn arolygu’r gwaith cloddio yn y lleoedd hyn, sef E. Meredith Owen ac O. J. Owen. Dyma’r adeg hefyd y bu cloddio gan un Mr Hudson o Lerpwl yng ngwaith aur Bwlch y Llu, a adnabyddid yn ddiweddarach fel ‘Mwynfa Prince Edward’. Daeth y lle hwn yn bur enwog gan iddynt ddefnyddio peth o’r aur i wneud modrwyau i rai o deulu brenhinol Lloegr. 

Yn ddiweddarach, sef yn 1924, bu ymchwil am aur yn ardal Gellilydan gydag un Mr Holt yn arolygu’r gwaith. Yn ôl y diweddar gyfaill Alan Tudor, Solihull (Maentwrog gynt), ar y ffin rhwng Penyglannau a Fferm Gellilydan y gyrrwyd y lefelydd prawf a bod dau agoriad i’w gweld yn mynd i lawr ar ogwydd a rheiliau yn un ohonynt. Yn ôl maint y domen wastraff gerllaw ni pharhaodd y gwaith yn hir. - Pwy all roi mwy o’i hanes inni? Yn yr ail lun gwelwn ŵr yn archwilio’r mwyn a gloddiwyd.

 

Blew Geifr, Sgrympiau Gŵyl Grog a Haf Bach Mihangel 

Dyma eiriau a glywais sawl tro pan oeddwn yn gweithio yn y chwarel yn yr 1960au, sef tair idiom yn ymwneud â’r tywydd a’r hinsawdd. Y mae’r cyntaf yn cyfeirio at gymylau sirws (cirrus), sy’n ymdebygu i flew cyrliog a geir ar eifr. Tueddant i fod yn gymylau gwyn ysgafn yn bur uchel yn yr awyr ac yn arwydd o law. 

Cymylau blew geifr. Llun gan PiccoloNamek dan drwydded Comin Creadigol (CC Attribution-Share Alike 3.0 Unported)

Ystyr yr ail, sef sgrympiau, yw cawodydd trwm sydyn o law, neu genllysg, ond rhai ysbeidiol, fel rheol, yn enwedig ym mis Medi. Syrthia Gŵyl y Grog ar Fedi 14, a dyna sut y cafwyd yr enw hwn. Y mae ’sgrympiau penwaig’ yn enw arall arnynt. Cawsom rhai oddeutu canol y mis diwethaf, on’do? 

Y mae’r ymadrodd ‘Haf Bach Mihangel’ neu ‘Haf Bach Gŵyl Mihangel’ yn golygu sbelan o dywydd braf ogylch diwedd mis Medi (Gŵyl Mihangel 29 Medi), a dechrau mis Hydref. Credaf imi glywed y dywediad ‘Ha’ Bach Dic Pengwern’ amdano yn ein hardal. Tybed pa mor gyffredin yw’r ymadroddion hyn heddiw?

- - - - -

Ymddangosodd erthygl Steffan ab Owain yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon